Croeso i ddiweddariad y mis hwn i ddarganfod beth sydd yn wybren y nos ym mis Gorffennaf.

Ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan, mae tywyllwch seryddol yn dychwelyd am 28 munud ar ddechrau’r mis am 1.06yb – 1.34yb ar y 25ain o Orffennaf, ac yn cynyddu’n ddyddiol oddeutu 20 munud.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Gallwch ddod o hyd i olygfa holl-wybrennol o’r cytserau o 12yb ym mis Gorffennaf yn in-the-sky.org.

Yn gorwedd yn isel ar y gorwel deheuol, fe welwch gytser Ophiuchus, gydag Ercwlff a Thelyn Arthur wedi’u lleoli’n dda uwchben.  Y seren ddisglair y gwelwch yw Fega, sef y brif seren a’r bumed seren fwyaf llachar yn wybren y nos, ac yn perthyn i Gytser Telyn Arthur.

Yn y dwyrain, mae cytserau hydrefol Pegasws, Andromeda, Delffiniws, Triongl ac Acwila yn codi.  Mae Boötes, y Forwyn, a’r Llew yn gorymdeithio tua’r Gorllewin.

Mae cytserau gwanwynol Corfis, y Cranc, Y Forwyn a’r Llew yn machlud yn y gorllewin.

Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 10fed o Orffennaf a’r Lleuad Newydd ar y 24ain o Orffennaf.

Dau am Un

Mae’r gawod o sêr gwib y Delta Aquariid yn parhau o’r 18fed o Orffennaf hyd yr 21ain o Awst, ac yn cyrraedd ei hanterth oddeutu 2yb ar y 30ain o Orffennaf.  Nid yw’n arbennig o ysblennydd, yn cyrraedd anterth o 25 meteor yr awr.  Fe all y lleuad ar ei chil amharu ar weld y meteorau mwyaf gwan.  Credir mai malurion o’r gomed 96P/Machholz yw’r Delta Aquariids.

Credyd: Howeni (@oweni)@ Unsplash

Y Planedau ym mis Gorffennaf

Mae’r blaned Sadwrn yn blaned dda i’w hastudio y mis hwn – ond fe fydd yn rhaid i chi aros i fyny’n hwyr er mwyn ei gweld, gan ei bod yn codi am 1yb ar ddechrau’r mis ac 11yh ar y diwedd.

Fe fydd y cylchau dal yn eithaf tenau o’n safbwynt ni, ond fe fyddant yn agor allan yn fwy wrth i’r flwyddyn symud ymlaen.  Mae gan y blaned Sadwrn, hyd yn hyn, 274 o leuadau, ond dim ond 7 ohonynt yr ydych yn gallu gweld gyda thelesgop.  Yn aml, fe’u gwelwch fel rhes o lain ar fwclis.

Mae’r blaned Gwener yn parhau i fod yn wrthrych boreuol, sy’n rhoi’r cyfle i’r rhai sy’n codi’n gynnar i’w gweld wrth iddi godi am 2.40yb ar ddechrau’r mis a 2.36yb ar y diwedd.

Ar y 13eg o Orffennaf, fe fydd y blaned Gwener yn mynd heibio’r seren lachar Aldebaran yn y Tarw, yn ymddangos o fewn yr un maes golwg ysbienddrych a’r seren.

Ar yr 21ain o Orffennaf, fe fydd y Lleuad, y blaned Gwener a Chlwstwr Sêr Pleiades yn ymddangos gyda’i gilydd uwchben y gorwel dwyreiniol, gydag Aldebaran yn ffurfio’r triongl perffaith gyda’r Lleuad a’r blaned Gwener.  Yr amser gorau i’w gweld yw oddeutu 3yb am ryw awr cyn i olau’r Haul amharu arno.

Y Llwybr Llaethog

Wrth i’r tywyllwch seryddol ddychwelyd ym mis Gorffennaf, mae’r amodau yn dechrau dod yn fwy ffafriol i weld y Llwybr Llaethog yn ystod yr haf.  Mae’n fwy llachar na Llwybr Llaethog y gaeaf; un o’r rhesymau yw yn ystod yr amser hwn, rydym yn edrych tuag at ganol ein galaeth, gyda’r ardal yn llawn o sêr.  Serch hynny, mewn ardaloedd sydd â llygredd golau fe fyddwch yn gweld hwn fel gorchudd niwlog o sêr yn yr entrych (uwch eich pennau). Mae’n well i ddod o hyd i le ymhell o lygredd golau trefi a dinasoedd gan adael i’ch llygaid cyfarwyddo â’r tywyllwch.  Fe ddylech weld band niwlog o olau fel bwa mawreddog o’r gorwel deheuol uwch eich pen yn pylu i’r gorwel dwyreiniol.

Credyd: David Toliday

Cytser y Mis

Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.

Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.

Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.

Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.

Cytser y mis – Acwila

Mae cytser Acwila yr Eryr wedi’i leoli’n dda yn ystod mis Gorffennaf a gellir ei gweld yn y de.  Dechreuwch gyda’r seren lachar Altair, sef y deuddegfed seren fwyaf llachar yn wybren y nos ac yn brif seren wen ddilynol – sy’n eithaf ifanc.  Edrychwch am ddwy seren lai sy’n ymylu Altair – mae hwn yn cynrychioli pen yr eryr.  Edrychwch am linell o sêr, sef y corff ac adenydd estynedig ar naill ochr yr aderyn, fel petai’n hedfan.

Yn chwedlau Groeg, adnabyddir Acwila fel eryr a gariodd taranfolltau Zews.  Unwaith, fe orchmynwyd Acwila gan Zews i herwgipio’r bachgen ifanc o Gaerdroea Ganymede, a’i hebrwng i Olympws er mwyn gwasanaethu’r duwiau fel cludwr cwpanau.  Cynrychiolir Ganymede gan y cytser cyfagos Acwariws.
 
Mewn chwedl arall, mae Acwila yn gwarchod y saeth a saethodd Eros at Zews, gan ei wneud iddo syrthio dros ei ben mewn cariad.
 
Os edrychwch uwchben Acwila, fe welwch cytser y Saethydd, sy’n edrych fel saeth.

Tymor y Cymylau Noctilucent yn Parhau

Mae’r amodau ar gyfer gweld y Cymylau Noctilucent ar eu gorau y mis hwn, yn enwedig yn ystod yr wythnos gyntaf.  Mae’r cymylau hyn yn ymddangos yn bennaf yn wyn, gyda rhai glas, ac yn anaml, yn goch.  Edrychwch tua’r gogledd rhwng 90 a 120 o funudau ar ôl iddi fachlud a chyn y wawr.

Clwstwr yr Hwyaden Wyllt

Targed serennog sy’n werth ei astudio yn y misoedd goleuach yw Clwstwr yr Hwyaden Wyllt (M11), sydd yng nghytser Scutum.  Fe ellir ei weld â’r llygaid noeth,  trwy ysbienddrych a thelesgop, ond fe fydd yn edrych ar ei orau trwy delesgop.  Yn yr wybren dywyll, mae’n ymddangos fel blotyn bach, gwan yng nghanol y Llwybr Llaethog.  Edrychwch am gytser llachar Acwila, chwiliwch am y seren isaf ac mae’n gorwedd yn y safle pedwar o’r gloch.  Mae cytser Scutum yn cynnwys sêr mwy aneglur a gellir eu gweld mewn wybren dywyllach – mae’r clwstwr yn gorwedd ar ochr dde y seren o’r pedrochr sydd ar ffurf afreolaidd, ac yn cynrychioli tarian. Fe’i enwyd yn Scutum Sobiescianum gan Johannes Hevelius ym 1684.

Mae’r clwstwr agored, llachar a chryno yn cynnwys dros 2900 o sêr ac yn gorwedd 6120 o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthym.  Gellir gweld cannoedd o’r sêr hyn trwy delesgop deg modfedd.  I lygaid rhai, mae’n edrych fel adar yn hedfan ar ffurf V.  Edrychwch am seren ddisglair, unigol yn y clwstwr cyfoethog.     

Credyd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com

Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwr

30th Tachwedd 2024

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai ein helpu i fonitro’r gylfinir (curlew) hardd. Credir bod y niferoedd yn gostwng ar gyfradd o oddeutu 6% y flwyddyn sy’n golygu y gallent o bosibl ddiflannu erbyn 2030.