Croeso i ddiweddariad y mis hwn i weld yr hyn sydd yn awyr y nos ym mis Mai.
Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae tywyllwch seryddol yn para am 3 awr a 52 munud ar ddechrau’r mis o 23:16 ymlaen ac am 1 awr a 43 munud o 00:18 ymlaen ar 15 Mai. Ar ôl hynny, daw’r tywyllwch seryddol i ben ac mae’n ddechrau ar y cyfnos seryddol.

Golygfa awyr gyfan o’r cytserau o 10yh ar 1af Mai gan in-the-sky.org
Uwch gorwel y de, mae cytserau Cawg a Llew. Ar ei anterth, y man uchaf yn yr awyr, mae’r Arth Fawr. Mae cytserau’r Efeilliaid, y Cerbydwr, a Throfan y Cranc yn machlud yn yr awyr orllewinol, ac mae cytserau’r haf, sef Ercwlff, Boötes, Coron y Gogledd a’r Delyn Arthur, yn codi yn y dwyrain.
Mae mis Mai yn dechrau gyda’r cyntaf o ddwy Leuad lawn, sef ‘Lleuad y Blodau’ lawn, sy’n digwydd ar 1 Mai. Mae’r ail, a elwir fel arall yn Lleuad Las, yn digwydd ar 31 Mai. Dyma hefyd Leuad ‘leiaf’ y flwyddyn, sy’n golygu ei bod ar ei phellafbwynt, ei phwynt pellaf o’r Ddaear.

Ar 16 Mai, mae’r Lleuad newydd hefyd yn Orleuad, pan fydd hi ar ei phwynt agosaf at y Ddaear (perigêm). Gan ein bod yn trafod y Lleuad, cadwch lygad am ffenomen hardd a elwir yn ‘llewyrch daear’. Gellir ei weld am ychydig ddyddiau’r naill ochr i’r llall i Leuad newydd, 30-60 munud ar ôl machlud haul, lle mae rhan dywyll y Lleuad yn cael ei goleuo â golau etheraidd. Dyma le mae’r golau o’r Haul yn adlamu oddi ar y Ddaear ac yn goleuo rhan o’r Lleuad sydd fel arfer yn dywyll. Fe’i gelwir hefyd yn ‘hen Leuad ym mreichiau’r Lleuad newydd’ neu’r ‘Golau Lludw’.

Cawod o Sêr Gwib Eta Aquariidau
Yn ystod oriau mân ar y 6ed o Fai, mae cawod o sêr gwib Eta Aquariids yn cyrraedd ei hanterth, eleni, gan gynhyrchu hyd at 50 o sêr gwib yr awr. Achosir hyn gan falurion a adawyd gan Gomed Halley enwog. Mae’r gawod sêr gwib hon, neu’r pelydrol, yn ymddangos fel pe bai’n tarddu o gytser y Dyfrwr.

Y Planedau ym mis Mai
Mae Gwener ac Iau yn weladwy min nos a drwy’r nos, gyda Gwener yn ymddangos wrth i’r tywyllwch ddisgyn ac yn codi wrth i’r mis fynd rhagddo.
Yn ystod pythefnos olaf mis Mai, mae Mawrth yn ymddangos am ennyd fer ar orwel isel y dwyrain cyn i’r haul godi.
Bydd ffans Sadwrn yn gweld eu hoff blaned yn codi wrth iddi wawrio yn yr awyr dwyrain yn oriau mân y bore. Mae Sadwrn yn ennill uchder tua diwedd y mis, lle bydd yn codi yn awyr y nos erbyn 3 y bore ac felly’n haws i’w weld, gan na fydd yn cael ei golli yn llacharedd y bore.
Defnyddiwch eich telesgop bach i weld bandiau cwmwl Iau a’i leuadau a chylchoedd Sadwrn. Mae gan Wener gyfnodau fel y Lleuad, ond bydd wedi’i oleuo’n 80% y mis hwn, felly ni fyddwch yn gallu ei weld ar gynnydd. Er bod Mawrth i’w weld, byddwch yn gallu gweld ei arlliw coch ond heb weld unrhyw fanylion, gan fod yr atmosffer ar ei drwch mwyaf yn isel ger y gorwel, sy’n achosi cynnwrf atmosfferig. Gellir gweld yr holl blanedau hyn gyda’r llygad noeth ac ysbienddrych: Gellir gweld lleuadau Sadwrn ac Iau, ac maen nhw’n edrych fel gleiniau ar gadwyn!

Cysylltiadau Planedol
Bydd Mai hefyd yn cynnal cysylltiad planedol tridiau o hyd, rhwng 18 a 20 Mai. Ar y 18fed, bydd y Lleuad yn pasio heibio Gwener, sef y seren fwyaf llachar, yn isel ar orwel y gorllewin – dim ond llithriad tenau iawn o leuad ar gynnydd fydd i’w weld, sef 5% o’i leuad lawn. Dylai llewyrch y Ddaear edrych yn hyfryd ar y cyfnod hwn. Ar y 19eg, mae’r Lleuad yn 12% rhwng Iau a Gwener. Ar yr 20fed, edrychwch i’r gorllewin wrth iddi dywyllu ac edrychwch am y Lleuad 21% yn agos at Iau a’r blaned ddisglair Wener i’r dde, yn isel ar y gorwel.

Cytser y Mis
Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.
Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.
Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed.
Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.
Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.
Crater
Mae cytser Crater yn cynrychioli cwpan aur addurnedig a oedd yn perthyn i Apolon, yn ôl mytholeg Groeg. Un diwrnod, anfonwyd brân neu gigfran i nôl dŵr, ond cafodd ei dynnu oddi ar ei lwybr gan glwstwr o ffigys nad oeddent wedi aeddfedu eto. Yn y pen draw, dychwelodd y frân gyda’r dŵr a gofynnwyd iddi gan Apolon, a oedd yn ddig, am y rheswm dros yr oedi. Dywedodd y frân gelwydd a dweud wrtho fod dyfrnadredd wedi atal y daith, ond gwelodd Apolon drwy’r celwydd a thaflu’r neidr dŵr, y cwpan a’r frân i awyr y nos, gan ffurfio’r cytserau Crater, Y Ddyfrsarff a Corvus.
Image: By Sidney Hall / Adam Cuerden


Mae’r Cytser Crater yn gorwedd yn isel ar y gorwel deheuol o 10yh ym mis Mai. Mae Cytser Corvus (y frân) i’r dwyrain o’r Crater (y Cwpan) ac mae’r Cytser Hydra (y Dyfrneidr) yn isel iawn ar y gorwel deheuol. Mae’r Ddyfrsarff yn cynnwys cytser mawr o sêr, sy’n cymryd 3% o’r awyr nos gyfan! Gwelir y cytserau cymharol dywyll hyn orau mewn ardal wledig, y tu hwnt i lygredd golau trefol.
