Archaeoleg a Threftadaeth
Oes gennych chi ddiddordeb mewn treftadaeth? Hoffech chi wirfoddoli?
Mae Cwm Elan wedi bod yn gartref i gymunedau ers miloedd o flynyddoedd. Helpwch i adrodd hanes bywyd yn y dirwedd unigryw a hanesyddol hon wrth wirfoddoli gyda’n prosiectau archeoleg a threftadaeth.
- Dysgu sgiliau newydd
- Gweithdai a hyfforddiant am ddim
- Archif ac ymchwil mapiau hanesyddol
- Arolygon archeolegol a chloddiadau
- Archaeoleg arbrofol
Os hoffech gael gwybod mwy am y rôl hon, cysylltwch â Gary Ball ar 01597 811527 neu drwy: gary.ball@elanvalley.org.uk
Celfyddydau a Chreadigrwydd
Nod Elan Links yw datblygu Cwm Elan yn fan creadigrwydd drwy gyfnodau preswyl artistiaid, arddangosfeydd a digwyddiadau creadigol. Os oes gennych angerdd am y celfyddydau, ymunwch â’n tîm gwirfoddolwyr i helpu.
- Help gyda threfnu a chynnal digwyddiadau
- Cefnogwch ein tîm staff mewn digwyddiadau (cyfarfod a chyfarch pobl, siarad ag ymwelwyr, sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn)
- Helpwch ni i drefnu arddangosfeydd ar-lein
Os hoffech gael gwybod mwy am y rôl hon, cysylltwch â Rosie Slay ar 01597 811527 neu drwy: rosie.slay@elanvalley.org.uk
Treftadaeth Ddiwylliannol a Hanes Llafar
Fy ngwaith i yw casglu, cofnodi a gwneud straeon pobl Cwm Elan yn hygyrch – ac mae yna lawer ohonynt. Mae angen help arnaf yn y swyddfa i drefnu apwyntiadau, gwneud ymchwil, trefnu cyfarfodydd, arddangosfeydd a digwyddiadau, ac yn gyffredinol fy helpu i ddathlu’r lle arbennig iawn hwn.
Mae arnaf angen rhywun sy’n gallu defnyddio gliniadur, yn gallu teipio (ddim o reidrwydd yn gyflym ond yn gywir) ac mae’n hapus i siarad â phobl ar y ffôn ac wyneb yn wyneb.
Os hoffech gael gwybod mwy am y rôl hon, cysylltwch â Matt Rose ar 01597 811527 neu drwy: matt.rose@elanvalley.org.uk
To register as a volunteer, click here!