Helpu ein Swyddog Treftadaeth Ddiwylliannol

Home » Helpu ein Swyddog Treftadaeth Ddiwylliannol

Archaeoleg a Threftadaeth

Oes gennych chi ddiddordeb mewn treftadaeth?  Hoffech chi wirfoddoli?

Mae Cwm Elan wedi bod yn gartref i gymunedau ers miloedd o flynyddoedd.  Helpwch i adrodd hanes bywyd yn y dirwedd unigryw a hanesyddol hon wrth wirfoddoli gyda’n prosiectau archeoleg a threftadaeth.

  • Dysgu sgiliau newydd
  • Gweithdai a hyfforddiant am ddim
  • Archif ac ymchwil mapiau hanesyddol
  • Arolygon archeolegol a chloddiadau
  • Archaeoleg arbrofol

Os hoffech gael gwybod mwy am y rôl hon, cysylltwch â Gary Ball ar 01597 811527 neu drwy: gary.ball@elanvalley.org.uk

Celfyddydau a Chreadigrwydd

Nod Elan Links yw datblygu Cwm Elan yn fan creadigrwydd drwy gyfnodau preswyl artistiaid, arddangosfeydd a digwyddiadau creadigol.  Os oes gennych angerdd am y celfyddydau, ymunwch â’n tîm gwirfoddolwyr i helpu.

  • Help gyda threfnu a chynnal digwyddiadau
  • Cefnogwch ein tîm staff mewn digwyddiadau (cyfarfod a chyfarch pobl, siarad ag ymwelwyr, sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn)
  • Helpwch ni i drefnu arddangosfeydd ar-lein

Os hoffech gael gwybod mwy am y rôl hon, cysylltwch â Rosie Slay ar 01597 811527 neu drwy: rosie.slay@elanvalley.org.uk

Treftadaeth Ddiwylliannol a Hanes Llafar

Fy ngwaith i yw casglu, cofnodi a gwneud straeon pobl Cwm Elan yn hygyrch – ac mae yna lawer ohonynt. Mae angen help arnaf yn y swyddfa i drefnu apwyntiadau, gwneud ymchwil, trefnu cyfarfodydd, arddangosfeydd a digwyddiadau, ac yn gyffredinol fy helpu i ddathlu’r lle arbennig iawn hwn.

Mae arnaf angen rhywun sy’n gallu defnyddio gliniadur, yn gallu teipio (ddim o reidrwydd yn gyflym ond yn gywir) ac mae’n hapus i siarad â phobl ar y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Os hoffech gael gwybod mwy am y rôl hon, cysylltwch â Matt Rose ar 01597 811527 neu drwy: matt.rose@elanvalley.org.uk

To register as a volunteer, click here!