Dathliad o ddeng mlynedd o Barc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan!
Ymunwch â ni ar y 29ain o Fehefin 2025 wrth i ni ddathlu’r diwrnod arbennig hwn, gyda sgyrsiau ar themâu, arddangosfa astroffotograffiaeth, gweithgareddau plant, cyfle i brynu cynnyrch lleol hyfryd, ynghyd â llawer mwy.
Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Elan
Amser: 10.30yb – 3.30yp
Sgyrsiau ar themâu.
10.30yb- Deng Mlynedd o Barc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan
Bydd Matt Gadfield, aelod o Dîm Wybren Dywyll Cwm Elan, yn cyflwyno sgwrs ar hanes Parc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, ynghyd â’r ymdrechion i’w gadw a’i gyfoethogi dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.
10.30yb- Seryddiaeth i Ddechreuwyr
Ymunwch â Pete Williamson wrth iddo siarad am sut y gallwch ddechrau ar hobi gwych seryddiaeth; pa gyfarpar optegol i’w brynu a sut i ddehongli wybren y nos.
12.00yp – Astroffotograffiaeth i Ddechreuwyr
Bydd yr astroffotograffydd talentog Dafydd Wyn Morgan yn rhannu ei waith ffotograffiaeth, gan roi cipolwg ar wybrennau dywyll syfrdanol Mynyddoedd y Cambria. Bydd hefyd yn eich rhoi ar ben y ffordd wrth i chi ddechrau tynnu lluniau tirluniau astro gwych.
1200yp Herschel i Hawkwind
Join astronomer Pete Williamson FRAS for a fascinating and entertaining talk that mixes history, science and astronomy with music from the dawn of humankind, up until modern times. Not to be missed.
2.00yp – Cymunedau Wybren Dywyll
Leigh Harling-Bowen yn sgwrsio am ei waith o greu’r Gymuned Wybren Dywyll gyntaf yng Nghymru a Lloegr. Yn 2023, rhoddwyd y dynodiad hwnnw i Lanandras a Norton, sy’n dal i arwain y ffordd i gymunedau eraill wrth ddysgu sut y gallant leihau llygredd golau o waith dyn yn eu hardaloedd a beth all ddigwydd yn y dyfodol.
2.00yp – Sgwrs am Ystlumod gyda Henry Schofield
Bydd y Dr Henry Schofield yn siarad am fyd ryfeddol ystlumod a sut y mae llygredd goleuni yn fygythiad i’w bodolaeth. Dysgwch sut mae gwella cynefinoedd ar gyfer eu goroesiad hefyd yn llesol i’n cynefinoedd dynol.
Gweithgareddau Plant:
Llunio a Lawnsio Rocedi – 10.30yb
Join AstroCymru as they show you have to make your own special rocket, learning about the history the best way to make them aerodynamic. Weather permitting, you will also get to launch them into space! Suitable for all ages.
Hel Llwch o’r Gofod- 12.00yp
Cyfle i drafod creigiau o’r gofod â’ch dwylo! Meteorau yw’r creigiau hyn o’r gofod ac fe fydd AstroCymru yn eich helpu i ddarganfod sut y cawsant eu ffurfio ac o ba le y maent yn dod. Addas i oedran 4 i 13. Angen bwcio lle.
Llunio a Lawnsio Rocedi – 2.00yp
Ymunwch ag Astro Cymru wrth iddynt dangos sut y gallwch lunio eich roced arbennig eich hun, dysgu’r hanes a’r ffordd orau i’w gwneud yn aerodynamig.Os yw’r tywydd yn ffafriol, cewch gyfle i’w lawnsio i’r gofod! Addas i bob oedran.