Dathliad o ddeng mlynedd o Barc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan!
Ymunwch â ni ar y 29ain o Fehefin 2025 wrth i ni ddathlu’r diwrnod arbennig hwn, gyda sgyrsiau ar themâu, arddangosfa astroffotograffiaeth, gweithgareddau plant, cyfle i brynu cynnyrch lleol hyfryd, ynghyd â llawer mwy.
Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Elan
Amser: 10.30yb – 3.30yp
Sgyrsiau ar themâu.
10.30yb- Deng Mlynedd o Barc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan – Matt Gadfield
Bydd Matt Gadfield, aelod o Dîm Wybren Dywyll Cwm Elan, yn cyflwyno sgwrs ar hanes Parc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, ynghyd â’r ymdrechion i’w gadw a’i gyfoethogi dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.
12yp – Cymunedau Wybren Dywyll – Leigh Harling-Bowen
Leigh Harling-Bowen yn sgwrsio am ei waith o greu’r Gymuned Wybren Dywyll gyntaf yng Nghymru a Lloegr. Yn 2023, rhoddwyd y dynodiad hwnnw i Lanandras a Norton, sy’n dal i arwain y ffordd i gymunedau eraill wrth ddysgu sut y gallant leihau llygredd golau o waith dyn yn eu hardaloedd a beth all ddigwydd yn y dyfodol.
1.30yp – Sgwrs am Ystlumod gyda Dr Henry Schofield
Bydd y Dr Henry Schofield yn siarad am fyd ryfeddol ystlumod a sut y mae llygredd goleuni yn fygythiad i’w bodolaeth. Dysgwch sut mae gwella cynefinoedd ar gyfer eu goroesiad hefyd yn llesol i’n cynefinoedd dynol.
Gweithgareddau Plant:
Hel Llwch o’r Gofod- 10.30yb, 12.00yp a 2.00yp
Cyfle i drafod creigiau o’r gofod â’ch dwylo! Meteorau yw’r creigiau hyn o’r gofod ac fe fydd AstroCymru yn eich helpu i ddarganfod sut y cawsant eu ffurfio ac o ba le y maent yn dod. Addas i oedran 4 i 13. Angen bwcio lle.