27 & 28th March 2026
Dydd Gwener 27 Mawrth 6-11yh a Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2026 11yb-11.30yh
Hwyl a sbri i’r teulu oll!
Penwythnos bythgofiadwy o weithgareddau a pherfformiadau llawn sêr yn un o’r lleoliadau gorau yn y byd i syllu ar y sêr.
Bydd Cwm Elan yn cynnal dwy noson a diwrnod o weithdai, gweithgareddau a pherfformiadau sy’n dod ag awyr y nos yn fyw. O sioeau planetariwm, i deithiau cerdded bywyd gwyllt, cyngherddau a syllu ar y sêr, mae gennym raglen o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran.
Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn gwahanol safleoedd ar draws Elan a Rhaeadr Gwy, mae rhai digwyddiadau’n rhai galw heibio a bydd angen tocynnau ar gyfer eraill. Gweler manylion y rhaglen lawn isod.
Adrodd straeon gyda Mair Ifans
Cyngerdd yng ngolau’r sêr gyda Toby Hay a Holly Blackshaw
Syllu ar y sêr
Sgyrsiau gan arbenigwyr
Crefftau ac arddangosiadau
Teithiau cerdded bywyd gwyllt
Teithiau beiciau
Peintio Golau
Sioeau Planetariwm
Lleoliadau: Canolfan i Ymwelwyr Cwm Elan, Tŷ Penbont, Eglwys Nantgwyllt a’r CARAD.
