Dyddiad: 12fed o Awst 2023
Amser: 9.30yh
Man cyfarfod ym maes parcio Gwaelod y Rhos SN 901671
Dewch i ymuno â thîm Wybren Dywyll Cwm Elan er mwyn gwylio cawodydd mwyaf ysblennydd y flwyddyn o sêr gwib, sef y Perseids.
Fe fydd y tîm wrth law i ddangos ambell i gytser i chi, y Llwybr Llaethog a gyda’u telesgopau yn barod i weld rhai o’r gwrthrychau wybrennol mewn mwy o fanylder. Fe fyddwn hefyd yn gweld sêr gwib rhyfeddol o dan wybren Parc Wybren Dywyll Cwm Elan.
Nodwch, mae’r digwyddiad yn ddibynnol ar y tywydd. Os hoffech fynychu, mae’n hanfodol eich bod yn archebu’ch lle trwy anfon e-bost atom i darkskies@elanvalley.org.uk fel y gallwn gadw mewn cysylltiad.
Dewch â dillad cynnes, esgidiau cryf, a blanced i orwedd arni, torsh, ynghyd â £2 os fyddwch eisiau diod poeth a byrbrydau – neu dewch â rhai eich hun! Fe fyddwn yn teithio i fyny trac graenog y goedwig felly sicrhewch fod eich cerbyd mewn cyflwr da. Dim ond pobl dros 12 oed sy’n gallu mynychu – mae rhieni yn gyfrifol dros eu plant. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Man cyfarfod ym maes parcio Gwaelod y Rhos am 9.30yh.