Sêr Gwib yn Cosmic Cwtsh

Sêr Gwib yn Cosmic Cwtsh

location icon
12th August - 12th August 2023, 9:00pm - 12:00am

Dyddiad:  12fed o Awst 2023

Amser:  9.30yh

Man cyfarfod ym maes parcio Gwaelod y Rhos SN 901671

Dewch i ymuno â thîm Wybren Dywyll Cwm Elan er mwyn gwylio cawodydd mwyaf ysblennydd y flwyddyn o sêr gwib, sef y Perseids.

Fe fydd y tîm wrth law i ddangos ambell i gytser i chi, y Llwybr Llaethog a gyda’u telesgopau yn barod i weld rhai o’r gwrthrychau wybrennol mewn mwy o fanylder.  Fe fyddwn hefyd yn gweld sêr gwib rhyfeddol o dan wybren Parc Wybren Dywyll Cwm Elan.

Nodwch, mae’r digwyddiad yn ddibynnol ar y tywydd.  Os hoffech fynychu, mae’n hanfodol eich bod yn archebu’ch lle trwy anfon e-bost atom i darkskies@elanvalley.org.uk fel y gallwn gadw mewn cysylltiad.

Dewch â dillad cynnes, esgidiau cryf, a blanced i orwedd arni, torsh, ynghyd â £2 os fyddwch eisiau diod poeth a byrbrydau – neu dewch â rhai eich hun!  Fe fyddwn yn teithio i fyny trac graenog  y goedwig felly sicrhewch fod eich cerbyd mewn cyflwr da.  Dim ond pobl dros 12 oed sy’n gallu mynychu – mae rhieni yn gyfrifol dros eu plant.  Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.  Man cyfarfod ym maes parcio Gwaelod y Rhos am 9.30yh.