
Llygredd golau

Pan fydd yr haul yn machlud, mae’r hud go iawn yn dechrau yng Nghwm Elan.
A wyddoch chi fod ein 45,000 erw o rostir agored a chronfeydd dŵr Fictoraidd yn Barc Awyr Dywyll Rhyngwladol swyddogol? Wedi’u diogelu rhag llygredd golau, daw awyr y nos yma yn fyw gyda blanced ddisglair o sêr a bwa disglair y Llwybr Llaethog. I weld y rhyfeddodau hyn, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw ymweld ag un o’n meysydd parcio, diffodd eich car a’r holl oleuadau, a gadael i’ch llygaid ddod i arfer â’r tywyllwch.
Llun: Sam Price

Dim ond rhai o’r mathau o oleuadau sy’n cyfrannu at greu disgleirdeb yn yr awyr – ac yn ein hatal rhag gweld awyr y nos yn ei holl ogoniant rhyfeddol – yw goleuadau sydd wedi’u gosod yn wael ac yn tywynnu i fyny, megis goleuadau stryd, hysbysfyrddau wedi’u goleuo, arwyddion siopau, cofadeiliau, goleuadau stadiwm a goleuadau ar adeiladau, boed yn rhai domestig neu fasnachol.

Ond mae cadw awyr dywyll yn dywyll yn mynd ymhellach na phrofi’r awyrgylch ysbrydol hynny.
A wyddoch chi fod y byd naturiol cyfan yn dibynnu ar y nos ar gyfer goroesi a lluosogi? Gall golau artiffisial amharu ar y prosesau naturiol hynny:

Planhigion
Yn union fel bodau dynol, mae gan blanhigion glociau circadaidd sy’n rheoli swyddogaethau cellog yn seiliedig ar y cylch dydd-nos. Mae’r nos ar gyfer twf, atgyweirio celloedd a dosbarthu carbohydradau. A wyddoch chi fod llawer o blanhigion hefyd yn dibynnu ar beillwyr nos fel gwyfynod, chwilod ac ystlumod?

Microbau
Mae organebau sy’n byw yn y pridd a’r dŵr, fel cyanobacteria, yn defnyddio’r nos i gyflawni sefydlogi nitrogen, gan gyfoethogi ecosystemau â maetholion hanfodol.
Llun: Eric Erbe, digital colorization by Christopher Pooley, both of USDA, ARS, EMU. – This image was released by the Agricultural Research Service, the research agency of the United States Department of Agriculture, with the ID K11077-1 (next)., Public Domain.

Bodau dynol
Mae angen y tywyllwch arnom i sbarduno ein chwarren bineal i gynhyrchu hormon o’r enw melatonin. Mae hyn, yn ei dro, yn ein gwneud ni’n gysglyd ac yn ein hannog i fynd i’r gwely am y nos, gan alluogi ein hymennydd i gadw atgofion, ein cyrff i atgyweirio a’n systemau imiwnedd i weithredu’n iawn. A wyddoch chi fod yr ymennydd dynol yn hynod sensitif i olau, hyd yn oed pan fydd ein llygaid ar gau?
Llun: Greg Pappas, Unsplash

Anifeiliaid
Mae llygredd golau yn tarfu ar glociau biolegol naturiol anifeiliaid, gan ddrysu eu mordwyo a niweidio’n ddifrifol eu gallu i hela, paru, a goroesi’n ddiogel.

O’i gymharu â’r materion ecolegol eraill yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, mae lleihau llygredd artiffisial yn broblem hawdd i’w datrys, a gallwch chi arwain ar hyn! Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau awyr agored yn pwyntio i lawr neu wedi’u cysgodi, heb daflu golau i’r ochrau ac i fyny. Newidiwch eich bylbiau am oleuadau lliw ambr cynnes a melyn – hyd yn oed eu diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Nid yn unig y byddwch yn achub y blaned ond hefyd yn arbed arian ar filiau trydan.