Bioamrywiaeth

Home » Treftadaeth » Natur » Bioamrywiaeth

Lleolir yr Ystâd o fewn Ardal Amgylcheddol Sensitif Mynyddoedd y Cambria.  Mae bron bob fferm ar yr Ystâd yn rhan o’r cynllun sy’n ceisio gwarchod prydferthwch naturiol yr ardal ynghyd â’i phlanhigion ac anifeiliaid.  Mae’r Ystâd hefyd yn ffurfio rhan helaeth o 30,000 hectar o Ardal Gwarchodaeth Arbennig Elenydd-Mallaen o dan Gyfarwyddeb Ewropeaidd Adar Gwyllt.  Mae ganddi dair Ardal Cadwraeth Abennig o dan Gyfarwyddeb Ewropeaidd Cynefinoedd a Rhywogaethau.  Mae un ar gyfer coetiroedd a dwy ar gyfer corsydd yr uwchdiroedd, sef cyfanswm o dros 6,000 hectar gyda’i gilydd.

Mae’r rhan fwyaf o’r Ystâd ym meddiant Ymddirieolaeth Cwm Elan ac mae ei amcanion elusennol yn cynnwys cadwraeth, cynhaliaeth a mwyniant Cwm Elan sy’n cynnwys yr anifeiliaid a’r planhigion ynghyd ag annog mynediad i, a’i astudio, gan y cyhoedd.

Ar Ystâd Elan mae 350 hectar o goedwig gonwydd a 100 hectar o goedwig lydanddail.  Planwyd y goedwig gonwydd dros y 200 mlynedd diwethaf tra bod y goedwig lydanddail, yn bennaf derwen ddi-goes, ac a adwaenir fel “coetir hynafol rhannol naturiol”, wedi bod yn bresennol am tua 8,000 o flynyddoedd.

Mae’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â’r goedwig lydanddail yn amrywiol iawn ond mae’r goedwig gonwydd yn hanfodol hefyd ar gyfer rhai rhywogaethau o adar.  Mae’r holl goedwigoedd llydanddail ar yr Ystâd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan gynnwys un goedwig gonwydd.  Mae enghreifftiau o’r ddau math hefyd yn cael eu cynnwys mewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Ewropeaidd Adar Gwyllt.

Mae Prosiect Bioamrywiaeth Coetir Ystâd Elan yn ymgymryd â gwella bioamrywiaeth ein coedwigoedd colldail.  Bwriad y Prosiect yw i wella bioamrywiaeth ein coetiroedd, i gynyddu’r amrywiaeth a’r nifer o’r holl anifeiliaid a phlanhigion ble’n bosibl yn unol â Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU.  Hefyd i wella cyfleusterau ar gyfer mynediad ac addysg ynghyd â mwynhad o amgylchedd y coetiroedd.

Y brif waith dros yr ugain mlynedd nesaf yw i newid o leiaf 70 hectar o’r goedwig conwydd presennol gyda’r rhywogaeth llydanddail.  Fe fydd angen llwyrgwympo ardal eang o gonwydd a’i hail-blannu gyda miloedd o dderw bach, bedwen, criafolennau, cyll ac onnynn sy’n cael eu tyfu ar ein cyfer o hadau a gasglwyd ar yr Ystâd.

Fe fydd ambell ardal yn cael ei phlannu â chonwydd yn bennaf er mwyn creu rhychwant eang o oedran coed yn yr ardaloedd conifferaidd parhaol.  Fe fydd hyn yn arwain at gynnydd mawr yn niferoedd yr adar, pryfed a’r blodau gwyllt.

Trwy gydol y Prosiect fe fydd y newidiadau yn y bywyd gwyllt trwy’r ardaloedd coediog yn cael eu monitro’n fanwl gan Wasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad Ystâd Elan, trwy gofnod ffotograffig manwl ac arolwg bywyd gwyllt gwyddonol.

Rhan bwysig arall o’r gwaith yw i wella’r mynediad i’r coetiroedd yn rhannol trwy creu dau maes parcio newydd a 40 cilomedr o lwybrau cerdded trwy’r coetiroedd.  Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn ymrwymedig i wella cadwraeth natur, mynediad ac adloniant ar y tir ble’n bosibl. Derbyniodd y Prosiect gymorth ariannol  gan y Comisiwn Coedigaeth trwy’r Cynllun Grantiau Coetir.