Bywyd Gwyllt

Home » Treftadaeth » Natur » Bywyd Gwyllt

Mamaliaid

Mae’r rhan fwyaf o’r Ystâd wedi’i chynnwys mewn Ardal Warchodaeth Arbennig o dan y Gyfarwyddeb EC ar Adar Gwyllt ac yn dod o fewn Ardal Amgylcheddol Sensitif Mynyddoedd y Cambria. Mae’r Ystâd yn gartref i ystod eang o fywyd gwyllt gyda llawer o rywogaethau’n ffynnu ac mewn niferoedd da tra bod eraill yn fwy peryglus ac angen stiwardiaeth ofalus.

Mae dros 20 rywogaeth o famaliaid yn Nyffrynnoedd Claerwen ac Elan, y rhan fwyaf yn dod allan gyda’r nos ac yn ofnus o bobl ac felly prin maent i’w gweld. Mae’r Wiwerod Llwyd wrth gwrs yn gyffredin ac yn hawdd eu gweld; maent yn dod o America’n wreiddiol ac yn fwy ac yn fwy addasadwy na’r Wiwer Goch frodorol. Nid oes cofnodion o’r rhai coch ers yr 1960au a gwelwyd y rhai diwethaf yn Sir Faesyfed yng Nghoedwig Penygarreg.

Dwedodd tenantiaid yr ystâd blaenorol wrthyf eu bod yn cofio gweld y wiwerod coch yn chwarae ym Mhenygarreg ger byngalow’r peiriannydd, ac ar hyd y coetiroedd i fferm Henfron yn yr 1940au. Ceir y boblogaeth agosaf yn fforest Tywi sy’n ffinio’r Ystâd, a hyd ddeng mlynedd yn ôl gwelodd y ffermwr, yn gyfagos i ffin y fforest, rhai wiwerod coch ifanc yn eistedd ar byst ffens gyda chudynnau amlwg eu clustiau i’w gweld. Gall y wiwerod llwyd bod yn bla ar yr Ystâd gan eu bod yn dinistrio rhai o bocsys nythu y Gwybedog Brith, er mae’r boda yn aml yn hela am wiwer i swper.

Mae ond ambell i gofnod o Geirw ar yr Ystâd, ac mae tri rhywogaeth wedi’u cofnodi’n anaml; sef y Carw Coch, Iwrch a’r Myntjac. Mae cofnod o dri carw coch; un sy’n dyddio’n ôl i’r 1900au, un gwryw a ymddangosodd ar fuarth fferm Ciloerwynt, Dyffryn Claerwen yn yr 1980au ac mae llun i gadarhau’r cofnod yma. Cafwyd adroddiad o nifer o geirw mawr yn y Claerwen ychydig o flynyddoedd yn ôl ond nid oes cadarnhad o hyn. Cofnodwyd bod carw Myntjac wedi marw ar hyd trac Henfron yn yr 1990au, er nid oes cofnod wedi bod ers hynny. Gwelwyd Myntjac gan ffermwyr rhwng y cwm a Rhaeadr. Yn 2018 daliwyd carw Myntjac ar gamera gan grŵp Natur lleol sy’n cadarnhau eu bod yn y cyffiniau. Gobeithir y bydd y grŵp mamaliaid lleol, wrth roi camerâu llwybr ar yr Ystâd, yn darganfod mwy. Ewigod Llwyd yw’r trydydd rhywogaeth o geirw sydd wedi’i weld ac mae nifer wedi’u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. Darganfyddwyd ewig lwyd â dau garw ifanc ar y Gro a chofnodwyd gwryw a benyw o gwmpas Penygarreg. Clywir ambell i wryw yn cyfarth yn ystod cyfnod rhidio yr hydref.

Mae llwynogod gan amlaf yn byw ar eu pennau eu hunain ac fel arfer yn addasu hen dyllau cwningod neu foch daear ar gyfer lloches, ac ar gyfer y benyw i fagu’r llwynogod bach. Gellir clywed y llwynoges yn galw ym mis Medi a chlywir ei sgrech sy’n ddigon i oeri’r gwaed ar y bryniau.

Mae’r Mochyn Daear, Dwrgi, Ffwlbart, Bele’r Coed, Minc, Carlwm a’r Gwenci i gyd yn aelodau o deulu’r gwenci (mustelid) ac maent i gyd yn y cwm. Mae’r moch daear yn durwyr cryf ac yn byw mewn setiau fel grŵp teuluol. Ynghyd â’r brif set sy’n cael ei defnyddio, mae ganddynt hefyd setiau llai eraill yn eu tiriogaeth, ac maent yn eu defnyddio o dro i dro. Bob hyn a hyn, gwelir dwrgwn ar yr Ystâd ac maent yn defnyddio ein afonydd, cronfeydd dŵr a’r llynnoedd i bysgota am frithyll. Yn aml yn y gwanwyn fe welir coesau brogaod wrth y pyllau, sy’n brawf bod dwrgwn yn y cyffiniau ac yn bwydo ar yr ormodedd o amffibiaid. Mae gan y creaduriaid main a hir yma cot drwchus, yn frown uwchben ac o liw hufen ar y gwaelod sy’n eu cadw’n ynysog ac yn addas ar gyfer bywyd dyfrol. Defnyddir y cynffon trwchus fel llyw i’w gyrru ymlaen trwy’r dŵr. Gellir gweld baw dyfrgi ar y gronfa ddŵr, ar ochrau’r nentydd ac o dan bontydd. Mae’n ddu fel tar ac nid yw ei wynt yn annymunol.

Nid yw ffwlbartiaid yn gyffredin tu allan i Gymru ar siroedd sy’n ei ffinio, er bod y boblogaeth yn lledaenu.  Maent yn gefndryd gwyllt i’r ffuredau dof ac maent yn rhyngfridio.  Mae eu marciau wynebol yn un o’u nodweddion mwyaf amlwg a dywedir iddynt edrych fel mwgwd ysbeiliwr ar draws y llygaid.  Yn aml, drysir rhwng y Carlwm a’r Gwenci, oherwydd y ddau yn gochddu gyda boliau gwyn, ond mae’r carlwm yn fwy gyda blaen du ar y gynffon ac mae’r llinell ble mae’r ffwr brown yn cwrdd â’r ffwr gwyn yn syth.  Mae gan y gwenci cynffonnau byrach heb blaen a llinell donnog rhwng y brown a’r gwyn.  Gellir gweld y ddau math ar yr Ystâd, a gwelir y gwenci yn fwy aml mewn mannau â chloddiau sychion, ac mae’r rhan fwyaf o gofnodion o gwmpas Dyffryn Claerwen.  Gwelir y carlwm yn fwy aml ac mae adroddiadau o unigolion mewn “Ermin rhannol”, oherwydd tywydd garw y gaeaf mae cotiau’r carlwm yn dechrau troi’n wyn.

Dihangodd Minc Americaniad o ffermydd ffwr rhwng yr 1960au a’r 1970au gan fwyaf, fe wnaethant genhedlu yn y gwyllt a lledaenu i’r Ystâd erbyn yr 1980au.  Am 20 mlynedd ni bu unrhyw gofnod o minc ar yr ystâd ei hun tan 2016.  Nid oedd hyn yn newyddion da gan fod yn y dalgylch boblogaeth o lygod y dŵr.  Gwelir y minc yn aml ger dŵr ble maent yn hela adar, mamoliaid bach a physgod.  Mae’r hwyiaid sy’n nythu ar y ddaear yn dioddef o ysglyfaethu gan fod y minc yn mynd â’r wyau, y cywion a’r oedolion.  Mae nifer llygod y dŵr wedi lleiau’n genedlaethol mewn nentydd ac afonydd ble mae’r minc yn byw.  Credir bod y dwrgwn yn arf ataliol i’r minc o fewn y cynefin.  Mae Bele’r Coed yn famal cyffrous a gobeithir cael mwy o gofnodion ohono.  Fe’u gwelir gan amlaf o fewn eu cadarnleoedd yn yr Alban a’r Iwerddon gyda nifer bach yng Nghymru a’r ffiniau ar ôl cael eu hela bron i ddifodiant gan ddyn.  Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent yn gweithio gyda thirfeddianwyr a ffermwyr yng Nghwmystwyth, Pont ar Fynach ac ardal Hafren er mwyn ailgyflenwi’r ardal â nifer unigol o bele’r coed, sydd bellach wedi’u cofnodi yn cynhyrchu rhai ifanc.  Arbenigwyr y coetiroedd yw bele’r coed, a gan fod y cynefinoedd yma yn darparu eu holl anghenion, prin iawn mae’n rhaid iddynt mentro allan i dir agored ble maent mewn perygl o gael eu hela gan lwynogod.  Er iddynt fod yn brin mae’n bosibl efallai y gwnawn eu gweld mwy yn ein cefn gwlad Cymreig.

Yn rhyfeddol mae gwahaddod yn gyffredin yma hyd yn oed ar yr rhostiroedd uchaf. Ni welir hwy yn aml ond mae arwyddion o’u gweithgarwch i’w gweld ar draws y tirwedd. Mae draenogod yn anghyffredin ar yr Ystâd gyda chofnodion yn bennaf o Bentref Elan ac ardal gwesty Cwm Elan. Mae cofnodion i fyny hyd at Bont Penbont ond nid oes dim yn Nyffryn Claerwen. Yn ddiddorol, darganfyddwyd poblogaeth ar Fferm Bodtalog sydd wedi’i amgylchu gan gynefin uwchdir ac ychydig iawn o goed! Mae’r ffermwyr yma wedi llwyddo i gofnodi o leiaf 5 unigolyn yn dod i’r buarth i fwyta bwyd y cŵn. Eu prif ysglyfaethwr naturiol ym Mhrydain yw’r Mochyn Daear, ac hefyd maent yn dueddol o gael eu bwrw gan draffig.

Mae cwningod ar led ond yn anghyffredin oherwydd bod ganddynt nifer o ysglyfaethwyr gan gynnwys llwynogod, ffwlbartiaid, bodaod a’r barcutiaid coch. Mae’r Ysgyfarnog yn brin ond mae cofnodion ohonynt wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf; ni cheir Ysgyfarnog y Mynydd yma. Casglwyd cofnodion o’r ysgyfarnog o gwmpas Garreg Ddu, Dôl y Mynach, Ciloerwynt ac yn yr ardaloedd ar ffordd y mynydd i Aberystwyth.

Mae mamoliaid bach i’w cael dros yr Ystâd ym mhob cynefin, ac maent yn ffynhonnell fwyd bwysig i lawer o’r mamoliaid mwy. Mae’r chwistlod yn bryfysorion sydd ag archwaeth mawr; rhaid iddyn nhw fwyta bob 3-4 awr. Mae gennym dri math o chwistlod, y Cyffredin, Y Chwistlen Leiaf a Chwistlen Ddŵr sydd i’w gweld yn Nôl y Mynach, Penygarreg a Phenbont. Mae Llygod y Maes a Llygod Warfelen yn gyffredin yn enwedig yn y coetiroedd llydanddail sydd ar yr Ystâd, ac maent yn ffynhonnell fwyd bwysig i’r Tylluanod Brych. Nid oes unrhyw gofnod o Lygod y Tŷ ar yr Ystâd. Gwelir a chofnodir llygod mawr yn enwedig o gwmpas y ffermydd.

Mae hefyd tri math o Fôl, sef Llygoden Goch, Llygoden y Gwair a Llygoden y Dŵr. Mae Llygoden y Gwair/Llygoden Gota yn ffynhonnell fwyd bwysig i nifer o anifeiliaid yr uwchdiroedd ac adar ysglyfaethus. Gwelir Llygod y Gwair yn y glaswelltiroedd a’r Llygod Coch mwy yn y coetiroedd, cloddiau sychion a glannau’r afon. Mae’r Llygod Coch yn fwy cochlyd na’u cefndryd brown a mwy o faint (Llygod Cwta) gyda’u cynffonau byr sy’n gymharol i weddill eu cyrff.

Roedd Llygod y Dŵr yn ddarganfyddiad newydd a chyffrous yn y 2000au cynnar, pan ymgymerwyd ag arolwg eang ar hyd yr afonydd, nentydd, pyllau a ffosydd. Canfyddwyd nifer o boblogaethau a gwnaethpwyd Cwm Elan yn Faes Allweddol Genedlaethol yr Uwchdiroedd cyntaf ar gyfer Llygod y Dŵr. Cysylltir Llygod y Dŵr yn gyffredinol â chamlesi a chyrsiau dŵr ar yr iseldiroedd, felly roedd darganfod poblogaeth ar yr uwchdiroedd yng Nghymru a’r Alban yn gyffrous. Yn anffodus, mae niferoedd Llygod y Dŵr wedi lleihau o 95% ers i’r Minc Americanaidd gael eu rhyddhau. Mae’n rhywogaeth sy’n fregus iawn ac o dan fygythiad difodiant. Mae Llygod y Dŵr yn diriogaethol yn ystod y tymor cenhedlu, ac maent yn marcio eu tiriogaeth gyda thail gwyrdd o maint ‘tic-tac’.

Ystlumod

Wrth gwrs, fe geir ystlumod o fewn yr Ystâd, ac maent yn ddangosyddion gwych o’u cynefinoedd.  Mae 900 math o ystlumod yn y byd a cheir ond 16 yn y DU.  Ar hyn o bryd fe geir naw math yma yng Nghwm Elan sy’n cynnwys yr ystlum lleiaf  i’r Noctule mwyaf.  Y rhywogaethau yw Yr Ystlum Cyffredin, Yr Ystlum Soprano, Ystlum Clustiog Brown, Ystlum Daubenton, Ystlum Trwyn Pedol Lleiaf, Natterers, Brants, Whiskered a Noctule.  Er nad yw wedi’i gofnodi eto, gobeithir bod barbastelle o fewn y cymoedd.

Ble bynnag ewch i gerdded yng nghefn gwlad, cofiwch am y mamoliaid gwibiog.  Os cymerwch amser i ddysgu am eu harwyddion fe allwch weld a dysgu am yr hyn sydd o’ch hamgylch.  Os cofnodwch unrhyw famoliaid diddorol anfonwch yr wybodaeth at: radnorshiremammalgroup@live.com

Amffibiaid Ac Ymlusgiaid

Gelwir ein hamffibiaid a’n hymlusgiaid gyda’i gilydd yn herpetofauna ac maent yn ddangosyddion allweddol o iechyd ein hamgylchedd.  Mae 11 math yng Nghymru gyda chwech ohonynt yn byw yng Nghwm Elan.  Ceir amffibiaid ac ymlusgiaid ar draws nifer o gynefinoedd yng Nghymru a diffinir eu dosbarthiad gan yr hinsawdd a strwythur y llystyfiant.

Mae angen cyrsiau dŵr ar yr amffibiaid megis pyllau a dŵr sy’n symud yn araf i’w ddefnyddio ar gyfer cenhedlu a safleoedd bwydo.  Maent hefyd angen lloches er mwyn iddynt aeafgysgu yn y coetiroedd neu ar pentyrrau o bren

Dyma amffibiaid Cwm Elan:

Y Broga Cyffredin
Mae’r Broga Cyffredin yn un o’n hamffibiaid mwyaf adnabyddus.  Mae ganddo ddarnau tywyll ar y cefn, rhesi ar goesau ôl a ‘mwgwd’ tywyll tu ôl i’w lygaid.  Fe’i ceir trwy Brydain ac Iwerddon ym mron bob cynefin os oes pyllau cenhedlu addas gerllaw.  Mae gan y broga cyffredin croen llyfn a choesau hir er mwyn gallu neidio’n gyflym oddi wrth yr ysglyfaethwyr.

Llyffant Du
Mae’r Llyfant Du yn llydan ac yn fyrdew gyda chroen dafadennog, ac mae’n amrywio o frown tywyll i wyrdd olewydd.  Maent yn dueddol o gerdded yn hytrach na hercian.  Mae llyffaint yn cloddio tyllau bas ac yn dychwelyd atynt ar ôl hela am falwod duon, abwydod ac infertebratau.  Maent yn secretu sylwedd llidiog o’u croen ac yn chwyddo eu hunain er mwyn atal ysglyfaethwyr.  Mae’r Llyffant Du yn dueddol o dreulio llawer o’i amser allan o’r dŵr, ar wahân i’r adeg pan maent yn cenhedlu ac yn dodwy wyau. Maent yn gaeafgysgu mewn torlwythi o ddail, pentyrrau o bren ac mewn tyllau.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng broga a llyffant?  Mae gan frogaod groen llaith, llyfn, coesau stribedog a gan amlaf fe’u ceir mewn cynefinoedd llaith yn yr ardd.  Mae gan lyffant croen dafadennog, llygaid euraid ac mae’n well ganddo gropian yn hytrach na hercian; pan gaiff ei fygwth gall y llyffant chwyddo ei hun er mwyn ymddangos yn fwy.  Gall llyffaint goddef cynefinoedd sychach na brogaod a threulio llai o amser mewn dŵr.

Madfall Dŵr Palmate
Mae Madfall Dŵr Palmate yn debyg iawn i’r Madfall Dŵr Llyfn er mae’n well ganddo byllau bas na phridd asidig.  Gall Madfall Dŵr Palmate goddef amodau sychach na’r Madfall Dŵr Llyfn ac felly gellir ei weld yn bellach o’r dŵr.  Yn ystod y tymor cenhedlu mae’r gwrywod yn datblygu ffilament ar flaen eu cynffonnau a webinau du ar eu traed ôl.

Madfall Dŵr Llyfn
Mae’r Madfall Dŵr Llyfn yn debyg iawn i’r Madfall Dŵr Palmate ond mae yn fwy cyffredin; nid yw’n gallu goddef amodau mor sych a’r Madfall Dŵr Palmate.  Ar y tir, mae ei groen yn ymddangos yn felfedaidd ac weithiau mae’n cael ei gamgymryd am fadfall.  Mae’r oedolion yn gallu mesur at 10 cm mewn hyd.  Mae’r croen yn amrywio o lwyd i frown.  Mae’r gwrywod yn datblygu cribau tonnog ar hyd y cefn yn ystod y tymor cenhedlu.  Mae’r bol yn felyn neu’n oren yn aml gyda smotiau neu ac/neu blotiau, mae’r gwddf yn smotiog.

Dyma ymlusgiaid Cwm Elan:

Madfall
Ceir Madfallod ar draws nifer o gynefinoedd yng Nghwm Elan, gan gynnwys rhostiroedd, gweundiroedd, coetiroedd a glaswelltiroedd, ble gellir eu gweld yn torheulo ar fannau heulog.  Mae’r  llwybr o argae Caban yn le da i weld madfallod ar ddiwrnod cynnes.  Maent hefyd yn cael eu galw yn ‘madfall fywesgorol’.  Mae’r adfall yma yn anarferol ymhlith ymlusgiaid gan iddi ddeor y wyau tu mewn i’w chorff gan ‘roi genedigaeth’ i madfallod byw yn hytrach na dodwy wyau.

Mae lliwiau’r madfallod yn eithaf amrwyiol ond fel arfer mae’n llwyd-brown, gyda rhesi o smotiau fwy tywyll neu streipiau i lawr y cefn a’r ochrau.  Mae gan y gwrywod ochrau isaf melyn llachar neu oren a smotiau, tra bod boliau’r benywod yn fwy gwelw.

Os caiff ei fygwth gan ysglyfaethwr, amddiffynid y madfall yw i ddiosg ei gynffon sy’n dal i symud er mwyn gwrthdynnu ac wedyn dianc yn gyflym.  Mae’n gallu ail dyfu ei gynffon er na fydd byth yn cyrraedd ei faint gwreiddiol.  Nid oes gennym nadredd yn y dalgylch yma.

Nadroedd Defaid
Nid yw’n abwydyn nac yn neidr, mewn gwirionedd madfall heb goesau yw’r neidr ddefaid.  Maent yn llawer llai na neidr gyda chroen llwyd euraid, ac mae’r benyw yn fwy gydag ochrau tywyll a streiped i lawr ei chefn.  Ceir y nadroedd defaid ar y rhostiroedd, glaswelltiroedd twmpathog, ar ymylon y coetiroedd a llefydd ble y caiff infertebratau i fwyta, a man heulog er mwyn torheulo.  Arferid gweld poblogaeth da yng ngardd Penbont ac ar hyd rhannau o’r llwybr.  Mae cadw cofnodion yn anghyffredin.  Fel ymlusgwyr eraill, mae’r nadroedd defaid yn gaeafgysgu, fel arfer o fis Hydref tan fis Mawrth.

Magïod

Nid abwydyn yw’r magïen o gwbl ond yn hytrach chwilen; nid oes gan y benyw adenydd sy’n rhoi’r enw yn Saesneg “glow worm” iddi.  Mae’r wyau yn deor i larfau sy’n byw tua dwy flynedd, ac yn treulio’u hamser yn bwydo ar falwod a malwod duon (yr olaf yng Nghwm Elan!).  Wedi i’r i’r larfau chwileru i ffurf oedolyn maent ond yn byw am ychydig o wythnosau gan nad ydynt yn gallu bwydo, felly mae’n gyfnod pwysig i sicrhau bod cenhedlu yn digwydd fel all y boblogaeth barhau.

Fel arfer, fe fydd y magïen benyw yn dodwy rhwng 50 a 100 o wyau mewn man llaith, dros gyfnod o ychydig o ddyddiau.  Mae wyau bach y magïod yn felyn ac yn gallu cymryd rhwng 3 a 6 wythnos i ddeor.  Mewn tywydd cynnes mae’r wyau’n deor yn fwy cyflym.  Gall y larfau tywynnu’n wan iawn, ac am gyfnodau byr gellir eu gweld yn ystod diwedd mis Awst a mis Medi.

Dywed chwedlau i ddyn cynnar ddefnyddio’r magïod er mwyn goleuo’r llwybrau ac i ddarparu goleuni mewn lluestau ac ar gyfer seremonïau arbennig.  Credyd bod gan y magïod bwerau hudol ac yn y gorffennol fe’u defnyddiwyd mewn golchdrwythau hen foddion.  Maent yn eithaf lledaenus ond wedi’u dosbarthu’n lleol yng Nghymru, ond bellach mae llawer o’r boblogaeth yn dirywio.  Mae’r boblogaeth yn amrywio mewn maint o flwyddyn i flwyddyn.  Oherwydd eu bychander a’r ffaith iddynt dywynnu yn y tywyllwch, mae gan y magïod nifer o ysglyfaethwyr naturiol gan gynnwys pryf copyn, pryfed mawr, adar, ymlusgiaid a neidr gantroed.  Mae niferoedd y magïod yn lleihau’n ddychrynllyd ac yn cael eu hystyried fel rhywogaeth o anifail sydd mewn perygl o ddiflannu.  Mae cael ardal â golau ffug a goleuadau stryd yn gallu cael effaith niweidiol ar y boblogeth sy’n cenhedlu, gan nad yw’r benywod mor weledol i’r gwrywod ac efallai bod y benywod yn “diffodd” eu llewyrch eu hunain.  Mae’n dda o beth bod Cwm Eln yn cael ei adnabod am ei Statws Wybren Dydwyll ac mae’r magïod yn gallu manteisio ar wybren hollol dywyll y nos.

Mae magïod yn dechrau tywynnu yn fuan ar ôl cyfnos cyn gynted iddi fod yn gymedrol dywyll ac yn parhau ymhell i’r nos.  Fel arfer ceir y magïod ar y llawr neu weithiau ar fonion planhigion i fyny hyd at daldra’r pen-glin.  Cynhyrchir y golau yn abdomen y benyw sydd heb adenydd er mwyn tynnu sylw’r gwrywod sy’n hedfan i genhedlu â hi.  Ffurf o bioymoleuedd yw’r golau sy’n digwydd pan fydd moleciwl o’r enw lwsifferin yn ocsidio i gynhyrchu ocsilwsifferin, gyda’r ensym lwsifferas yn gweithredu fel catalydd.  Cysylltir magïod yng Nghwm Elan yn bennaf gyda llwybr Cwm Elan gyda phoblogaeth gwasgaredig ar ei hyd.  Maent hefyd wedi cael eu cofnodi ym Mhentref Elan, Cwm Clyd, graean bras Dôl y Mynach a Chraig Goch.

Gwyfynod

Er nad ydynt yn cael eu hystyried mor hudol a rhamatus a’r glöynnod byw, fe ddylen ni edrych ar wyfynod mewn golau newydd.  Mae’n hen bryd cael gwared â rhai chwedlau am wyfynod.  Nid ydynt i gyd yn ddiflas a brown ac yn cael eu hystyried fel perthynas tlawd y nos i’r glöynnod byw Prydeinig hoffus. Nid ydynt oll, er hynny, yn awyddus i wneud tyllau yn ein hoff siwmperi.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwyfyn a glöyn byw?  Fel arfer mae eithriadau i’r rheol ond mae dau gliw gyffredinol i chi chwilio amdanynt.

Y teimlydd – mae gan wyfynod deimlyddion pigfain hir sy’n aml ar ffurf pluen (yn enwedig yn y gwrywod gan iddynt eu defnyddio i chwilio am gymar).  Mae’n dueddol i’n glöynnod byw gael teimlyddion ar ffurf siap coes matsen (yn syth gyda smotyn ar y top).

Mae adenydd y glöyn byw pan yn gorffwys yn cael eu plygu yn syth i fyny ar eu cefn fel clawr llyfr; mae’r rhan fwyaf o wyfynod yn plygu eu hadenydd yn llorweddol.

Chwedlau am wyfynod

  • Mae gwyfynod yn dod allan gyda’r nos
  • Mae gwyfynod yn frown ac yn ddiolwg
  • Mae gwyfynod i gyd yn flewog
  • Nid glöynnod byw mo gwyfynod
  • Mae pob gwyfyn yn bwyta dillad

Ffeithiau am wyfynod

  • Mae mwy o wyfynod yn hedfan yn y dydd yn y DU nag o löynnod byw sy’n hedfan yn ystod y nos.
  • Mae gwyfynod yn “ffotostatig” sy’n golygu eu bod yn cael eu hatynnu at y golau – dyna o ble y daw y dywediad “fel gwyfyn at y golau”.
  • Mae yr un faint o wyfynod prydferth a lliwgar gyda phatrymau anhygoel sy’n gallu cystadlu ag unrhyw glöyn byw.
  • O’r 2,500 rhywogaeth o wyfynod, dim ond dau math cyffredin sy’n gyfrifol dros fwyta dillad (ac maent ond yn ymosod ar ffibrau anifail megis gwlân).
  • Mae Cadwraeth Glöynnod Byw yn awgrymu bod angen 35 biliwn o lindys gwyfynnod y flwyddyn ar ein poblogaeth o ditŵod tomos las er mwyn bwydo eu cywion.

Mae gwyfynod yn dodwy wyau, a phob un yn deor fel lindys sy’n bwydo ar amryw o ddeunydd planhigion. Mae lindys rhai gwyfynod ond yn bwyta un math o blanhigyn, ac mae eraill yn bwyta dewis ehangach. Fel arfer, y dail sy’n cael eu bwyta, ond mae rhai lindys yn bwyta blodau, ffrwythau, bonion neu’r gwreiddiau. Y lindys yw’r unig gyfnod o’r cylch bywyd sy’n tyfu, ac wrth iddo wneud hynny mae’n ffurfio croen meddal newydd o dan yr hen un, sydd wedyn yn rhannu ac yn bwrw plu gan adael i’r corff ymledu. Pan gyrhaedda’r lindys eu llawn maint, sy’n gallu cymryd o ychydig wythnosau i ychydig o flynyddoedd gan ddibynnu ar y rywogaeth, yna mae’n chwileru i ffurfio crysalis. Yn aml, i ddechrau maent yn adeiladu cocŵn, naill ai o sidan maent yn cynhyrchu’u hunain neu o ddarnau o ddefnydd planhigyn, ac wedyn maent yn chwileru tu mewn. Daw’r oedolyn allan o’r cocŵn i chwilio am gymar, ac mae’r cylchred yn ail ddechrau.

Mae gwyfynod yn dodwy wyau, a phob un yn deor fel lindys sy’n bwydo ar amryw o ddeunydd planhigion. Mae lindys rhai gwyfynod ond yn bwyta un math o blanhigyn, ac mae eraill yn bwyta dewis ehangach. Fel arfer, y dail sy’n cael eu bwyta, ond mae rhai lindys yn bwyta blodau, ffrwythau, bonion neu’r gwreiddiau. Y lindys yw’r unig gyfnod o’r cylch bywyd sy’n tyfu, ac wrth iddo wneud hynny mae’n ffurfio croen meddal newydd o dan yr hen un, sydd wedyn yn rhannu ac yn bwrw plu gan adael i’r corff ymledu. Pan gyrhaedda’r lindys eu llawn maint, sy’n gallu cymryd o ychydig wythnosau i ychydig o flynyddoedd gan ddibynnu ar y rywogaeth, yna mae’n chwileru i ffurfio crysalis. Yn aml, i ddechrau maent yn adeiladu cocŵn, naill ai o sidan maent yn cynhyrchu’u hunain neu o ddarnau o ddefnydd planhigyn, ac wedyn maent yn chwileru tu mewn. Daw’r oedolyn allan o’r cocŵn i chwilio am gymar, ac mae’r cylchred yn ail ddechrau.

Mae rhai o’r gwyfynod mwyaf hyfryd o gwmpas Cwm Elan yn cynnwys…

Bwrned chwe smotyn sy’n hedfan yn anarferol o araf gan suo yn ystod cyfnodau heulog, ac yn cael ei ddenu at wahanol flodau gan gynnwys ysgall, y bengaled a chlafrllys (i gyd yn gyffredin yn ein dolydd ac ar hyd llwybr Cwm Elan.) Lle da i’w gweld yw ar ran o’r llwybr rhwng argae Caban ac argae Garreg Ddu a Phenygarreg i Graig Goch. Ei blanhigyn bwyd yw’r Meillionen Troed Aderyn Cyffredin, ond weithiau hefyd Meillionen Troed Aderyn Mawr. Mae rhan y Caban o’r llwybr yn le da i weld y gwyfyn Cinnabar sy’n debyg o ran lliw. Gellir ei wahaniaethu o wyfynod bwrned tebyg wrth ei adenydd llydan a rhesi coch yn lle smotiau. Mae gan lindys y gwyfyn Cinnabar rhesi du a melyn llachar ac fe’u welir ar lysiau’r gingroen. Dyma lindys da i ddangos i’r plant pan fyddwch allan yn cerdded neu’r seiclio ar hyd y rhan yma. 

Mae’r Glanhäwr Simneiau yn wyfyn hyfryd sy’n cael ei weld yn bwydo ar flodau a hadau’r Cneuen y Ddaear (Conopodium majus).  Mae’r Glanhawr Simneiau yn barddu drosto (fel yr awgrymir wrth yr enw), ar wahân i ymylon gwyn ar flaen yr adenydd blaen.  Gall y lliw undonog a’r diffyg patrwm wneud y gwyfynod yma yn anhynod, fodd bynnag mae eu ehediad cyflym a’r cyfnodau hynny pan mae’r golau yn dal y lliwiadau du yn eu gwneud yn hyfryd i’w gwylio wrth iddynt siffrwd trwy’r caeau a’r dolydd.

Roedd y Gwyfyn Deulinell yn arfer bod yn rywogaeth BAP, ac mae’n cenhedlu mewn coetiroedd agored a chynefinoedd glaswelltiroedd llaith, gan gynnwys wrth ochrau nentydd yma yng Nghwm Elan.  Maent yn gysylltiedig â gwair y Rhos.  Mae’r gwyfyn yn hedfan yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf.  Mae’r larfa yn bwydo gyda’r nos ar y gwair, yn enwedig troed y ceiliog, gweunwellt y coed a’r coedfrwyn.

Fe welir y Teigr Ysgarlad yn meddiannu ardaloedd llaith megis rhos, corsydd, glannau afonydd, chwareli a llefydd creigiog.  Dyma un arall o’n gwyfynod sy’n hedfan yn y dydd.  Maent yn hefyd ym mis Mai a mis Mehefin.

Mae’r Cliradain Gymreig yn wyfyn mawr (12-15mm) ac amlwg sy’n hedfan yn y dydd, ac fel yr awgryma yr enw mae ganddo adenydd clir a darnau du ar yr ymylon. Mae’r gwyfyn yn ddu gyda ddau band melyn ar yr abdomen a dau antena du gyda thipiau melynwyn. Y nodwedd amlyca i’w weld yw cynffon mewn siap ffan sy’n fawr ac yn oren mewn lliw.

Er mwyn cael y cyfle i weld y gwyfyn eiconig yma fe awgrymwn edrych amdano ar foreau cynnes a heulog yn ystod misoedd Mai a Mehefin hyd ganol mis Gorffennaf, ble efallai welwch oedolyn yn torheulo yn yr haul ar ôl iddo ddod allan. Cysylltir y Gliradain Gymreig â choed bedw (yn enwedig y Fedwen Wen Iberaidd, Betula celtiberica) yn y cwm.  Mae llawer o’r coed aml coesynnau sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain yn fannau delfrydol i chwilio.  Os archwiliwch rhisgl y coed yn fanwl efallai dewch ar draws bresenoldeb a gweithgarwch y Cliradain Gymreig; dyma “hengroen” neu’r croen sydd wedi ei adael ar ôl pan mae’r lindys yn troi yn chwiler, ac yna mae oedolyn y cliradain yn dod allan o’r goeden, a gall y cas ddal yn y rhisgl, ar fwsoglau neu ar weoedd pryf copyn.  Efallai bydd rhai ar y llawr, maent yn fregus fel papur ac felly yn chwythu yn y gwynt neu syrthio gan y glaw.  Dyma gliw gwych bod Cliradain Gymreig yn gadael y goeden yma.

Mae Gwalchwyfyn y Poplys yn drawiadol ac yn hedfan mewn cenhedlaeth sengl yn y gwanwyn hwyr a’r haf cynnar.  Gall ail genhedlaeth bach ddigwydd mewn rhanbarthau cynhesach.  Er yr enw, nid oes rhaid i chi fyw ger poplys er mwyn gweld y gwalchwyfyn yma.  Mae’r larfa yma yng Nghwm Elan yn bwydo ar wahanol helyg a melynion.  Dyma’r gwalchwyfyn mwyaf cyffredin ym Mhrydain ac mae’n ymwelydd cyffredin i erddi.  Mae’r gwryw a’r benyw yn hedfan yn y nos ac yn cael eu denu at y golau. 

Felly y tro nesaf i chi weld rhywbeth yn siffrwd o gwmpas eich golau, meddyliwch dwywaith cyn rholio papur.

.