Gorchuddiwyd Ystâd Elan a’r ardal o’i chwmpas mewn coedwig o dderw, bedw a chyll nes i gliriadau gan ddyn ar gyfer amaethyddiaeth ddechrau tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Ugain mlynedd yn ôl ar Ystâd Elan cafwyd 350 hectar o goedwig conwydd a 100 hectar o goedwig lydanddail. Perchnogir a rheolir y rhan fwyaf o’r coedwigoedd gan Dŵr Cymru Welsh Water, yn anad dim ar gyfer y bywyd gwyllt. Mae’r goedwig lydanddail i gyd ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn adnabyddus fel “coetiroedd naturiol hanner hynafol”. Y rhywogaeth ddominyddol yw’r Dderwen Ddi-goes. Mae’n gwahaniaethu o’r Dderwen Goesynnog gan fonion byr y mes a bonion hir y dail; mae’r Dderwen Goesynnod yn wrthwyneb i hyn.
Plannwyd y conwydd dros y 150 mlynedd diwethaf gan gynnwys rhywogaethau megis llarwydd, Sbriws Norwy a Sitca, ffynidwydd Douglas a ffynidwydd yr Alban. Mae llawer o’r rhain wedi’u hail-blannu gan hadau brodorol sydd wedi’u casglu’n lleol er mwyn creu coetiroedd brodorol. (Mae nawr llai na 350 hectar o goedwig gonwydd gan ei fod wedi ei drawsnewid i gyflwr brodorol.) Dim ond un blanhigfa conwydd fydd yn cael ei gadw gan ei fod bellach wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y planhigion is. Rheolir y goetir am ei bywyd gwyllt o flaen unrhyw enillion masnachol. Mae’n le gwych i weld croesbigau, pilaod gwyrdd a chyffylogod.
Mae’r coed llydanddail brodorol yn cynnwys derwen ddi-goes, bedwen gyffredin, cyll, onnynn, helygen y geifr, draen gwynion, draen duon a gwern. Cyflwynwyd ffawydd, masarn a chastanwydd, yn enwedig pan oedd Ystadai o fewn yr Ystâd cyn boddi’r dyffrynnoedd.
Bywyd gwyllt pwysica’r coetiroedd hynafol yw’r mwsoglau, cennau, rhedyn a ffwng. Maent aml yn tyfu dros y coed oherwydd yr hinsawdd llaith a’r diffyg cymharol o lygredd aer. Mae’r mathau o blanhigion sydd ar yr haenen waelod yn amrywio yn ôl y math o bridd gwaelodol a faint o bori ar glychau’r gog-mieri-rhedyn, llus i’r gwair a’r rhedyn sy’n dominyddu i’r ardaloedd sy’n cael eu dominyddu gan fwsoglau iach.
Mae coetiroedd gydag amrywiaeth strwythurol yn darparu cynefin llawer mwy cyfoethog mewn infertebratau na rhesi o goed o’r un oedran ac uchder. Yn anffodus, prin bo diffyg ymyraeth yn mynd i ddarparu amrywiaeth digonol yn y mwyafrif o goetiroedd Prydain sydd wedi goroesi, felly mae angen rheolaeth gweithredol. Yn y gorffennol mae llawer o arolygon wedi’u gwneud ar Goetiroedd Cwm Elan ac mae cynlluniau i ymgymryd â rhagor o reolaeth trwy Brosiect Treftadaeth y Loteri.
Mae pren marw yn gydran hanfodol o’r coetir, a gellir yn hawdd ei anwybyddu a’i glirio fel rhwybeth sy’n ddiolwg neu oherwydd diogelwch neu daclusrwydd. O ganlyniad, mae rhywogaeth o infertebratau sy’n dibynnu ar bren marw nawr o dan fygythiad. Yng Nghwm Elan rydym yn ceisio cadw cymaint o gynefinoedd y pren marw o fewn y coetiroedd. Gall hyn gynnwys canghennau marw, bonion a choed sy’n sefyll.
Mae Coetiroedd Cwm Elan yn gynefin pwysig iawn i’r Gwybedwr Brith sy’n dychwelyd i genhedlu bob blwyddyn. Adar eraill y goetir yw telor y coed, tingoch, tylluan y coed a’r gwybedwr smotiog (ymyl y cynefin).
Mae ein coed yn ffurfio coedtiroedd naturiol hanner hynafol, conwydd a ffridd ar yr Ystâd. Ond beth yw ffridd (Coedcae)? Mae’n gymysgedd amrywiol o wair a rhostiroedd gyda rhedyn, tir prysg (yn aml draenen gwynion ac eithin) neu wyneb agored y graig ac efallai hefyd yn cynnwys gorlawnder, llaid, nentydd a dŵr llonydd.
Dyddia’r gair am y cynefin ffridd yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn Nghymru, ac fe ddaw o’r gair Saesneg canoloesoel ‘Frith’ sy’n golgyu coetir neu gefn gwlad coediog. Efallai bod gan y gair Cymraeg gwreiddiol am ‘ffridd’ arwyddocâd ‘coediog’, sy’n debyg i’r gair ‘Coedcae’, sy’n golygu coedlan neu goed o fewn cae.
Mae’n gynefin pwysig iawn yng nghefn gwlad Cymru, o bwysigrwydd hanesyddol, diwylliannol, yn bwysig yn weledol ac i fywyd gwyllt. Mae’r ffridd yn ‘goridor’ pwysig yng nghefn gwlad ac yn cadw cysylltiad rhwng yr iseldiroedd a’r uwchdiroedd sy’n helpu anifeiliaid a phlanhigion i symud o gwmpas, rhoi lloches ac i ddarparu adnoddau bwyd hanfodol.
Yn y Cwm mae’r ffridd yn darparu cartref anghenrheidiol i’r gwyfyn Cliradain Gymreig, Gwiddon Mwg y Ddaear Dringol, Brith Perlog Bach a’r Brith Gwyrd. Mae gwyfynod a glöynnod byw yn dibynnu ar ein ffridd gan fod ganddo frithwaith o redyn â chanopïau agored, darnau yn gyfoethog â blodau, sgrïau ac ardaloedd llaith.
Ceir adar megis clochdar y cerrig, crec yr eithin, pibydd y coed, mwyalchen y mynydd a bronfraith yr eira. Ar hyd copaon y bryniau a’r ffridd mae’n gyffredin i glywed y gog yn ystod mis Mai ac i gael cipolwg o’r cudyll bach wrth iddo hela yn y coed a’r gweundiroedd am bibyddion y waun. O dan y rhedyn ac o fewn y gwair gellir darganfod casgliadau pwysig o ffwng y glaswelltir a chennau.
Yn gynnar yn y tymor cenhedlu, ceir mwyeilch y mynydd yn chwilota am infertebratau ar y gweundiroedd sydd wedi’u pori’n agos, ac mewn darnau o redyn sy’n ei gorchuddio. Yn hwyrach yn y tymor, maent yn bwydo ar aeron y criagolennau a’r draen gwynion, felly mae brithwaith o’r ddau llystyfiant a strwythur yn hanfodol ar gyfer eu llwyddiant cenhedlu. Er bod nifer o flynyddoedd ers cofnodi mwyalchen y mynydd mae’n bwysig bod y cynefin cenhedlu yn cael ei gadw mewn cyflwr da.
Mae’r ffridd yn cynnal cennau arwyddocaol mewn nifer man yng Nghymru, yn bennaf yn gysylltiedig â chynefinoedd creigiog (brigiadau, clogfeini a sgrïau). Mae nifer o rywogaethau sy’n brin yn genedlaethol yn gysylltiol ag ymylon yr uwchdiroedd o godiad isel i’r canol.
Mae rhai o’n mamaliaid megis y mochyn daear a’r llwynog yn dewis rhedyn a llechweddau i wneud eu cartref dan gudd. Mae yna ddigonedd o lygod y gwair a chwistlod.
Mae gan y ffridd yng Nghwm Elan swyddogaeth bwysig o gysylltu’r ardalaoedd coediog â’i gilydd a chreu ffyrdd di-dor ar gyfer symudiadau’r anifeiliaid. Ceir llawer o ffridd ar y ffermydd tenantiaeth ac mae’n cysylltu’r tir â’i gilydd. Mae llawer o waith wedi ei wneud gan y ffermwyr i blannu’r ardaloedd ffridd yn y dalgylch.
Felly y tro nesaf i chi yrru o gwmpas Dyffrynnoedd Elan a Chlaerwen edrychwch i fyny a diolchwch am y cynefin pwysig yma uwchben y ffyrdd.