Doldir

Home » Treftadaeth » Natur » Doldir

Glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yng Ngwm Elan

Yn ychwanegol at gynefinoedd nodedig bywyd gwyllt eraill, mae Ystâd Cwm Elan yn cynnwys rhai o esiamplau gorau a phwysig o laswelltiroedd asidig a niwtral sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yng Nghymru.  Canolbwyntir y glaswelltiroedd yma o fewn saith clwstwr o ddoldir ar ymylon yr uwchdiroedd a thir pori, wedi’u lledaenu dros 20 cilomedr o’r cwm. 

Mae’r tirwedd amrywiol, hinsawdd a’r defnydd hanesyddol o’r tir yng Ngwm Elan wedi helpu i greu y gyfres o ddolydd ar ymylon yr uwchdiroedd sydd â nodweddion nodedig iawn, a thiroedd pori sydd â digonedd o rywogaethau sy’n anghyffredin yn genendlaethol, a rhywogaethau sy’n diflannu megis y gwyddlwyn mawr (Sanguisorba officinalis), Fioled y Mynydd (Viola lutea), Gall ail genhedlaeth fach ddigwydd mewn rhanbarthau cynhesach.iola lutea), ffacbysen y coed (Vicia orobus), tegeirian llydanwyrdd mawr (Platanthera chlorantha) a’r tegeirian pêr (Gymnadenia conopsea).  Mae presenoldeb ychwanegol rhywogaethau megis cneuen y ddaear (Conopodium majus) a rhywogaeth y coetir megis clychau’r gog (Hyancinthoides non-scripta) a blodau’r gwynt (Anemone nemorosa) yn gwahanu’r glaswelltiroedd hyn oddi wrth gymunedau glaswelltiroedd niwtral yr iseldiroedd “nodweddiadol”. 

Yn gymaint ag y mae ymarferion cyfoes ffermio wedi lleihau  maint y glaswelltiroedd-blodau gwyllt yng nghefn gwlad ehangach, mae parhad y dulliau traddodiadol o ffermio o fewnbwn isel yng Nghwm Elan wedi cynorthwyo’r glaswelltiroedd hyn i oroesi.  Mae hyn yn rhannol oherwydd y cyfyngiadau hanesyddol yn y defnydd o wrtaith artiffisial a rheolaeth pori o fewn yr Ystâd er mwyn cynnal purdeb y dŵr yn y cronfeydd dŵr.  Yn fwy diweddar, mae’r esiamplau gorau o’r glaswelltiroedd sy’n llawn o flodau gwyllt wedi ennill gwarchodaeth pellach yn sgil eu dynodiad fel Safloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI’s).  Ar hyn o bryd mae glaswelltiroedd yma yng Nghwm Elan yn cynrychioli sylwedd gwerthfawr o’r SSSIs Cymreig sydd wedi eu dynodi am eu glaswelltiroedd niwtral sy’n llawn o rywogaethau.

Mae’r glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau o fewn Cwm Elan yn amrwyiol iawn, pob un yn arbennig yn ei ffordd ei hun.  Mae deareg, math o bridd, uchder a hinsawdd i gyd yn cyfuno i creu cyfres o amodau unigryw ar gyfer gwahanol math o laswelltir i ddatblygu.  Yn nhermau’r Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (National Vegetation Classification – NVC) cymunedau planhigion, mae’r glaswelltiroedd yma sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yn bennaf yn nodweddiadol gan y glaswelltiroedd MG5a-math (Lathyrus pratensis is-gymuned) ar y pridd niwtral o ansawdd gwell, gyda chellïoedd llai sy’n ychydig yn fwy asidig MG5 (Danthonia decumbens is-gymuned) ac U4c (Lathyrus montanus-Stachys betonica is-gymuned) yn cael eu cynrychioli.

Y glaswelltiroedd mwyaf trawiadol yn weledol, fodd bynnag, yw’r doldiroedd niwtral sydd wedi dioddef rheolaeth traddodiadol hir dymor o ladd gwair yn yr haf hwyr a phori yn yr hydref.  O dan y rheolaeth yma mae’r planhigion yn cael amser i flodeuo ac i hadu cyn lladd y gwair.  Mae pori yn ystod yr hydref yn rhwystro’r planhigion mwya eiddil rhag cael eu cysgodi allan ac hefyd yn rhoi cyfle i eginblanhigion newydd sefydlu.  Yn hanesyddol roedd mewnbwn isel o wrtaith buarth y fferm a chalch yn cynnal lefelau digonol o ffrwythlondeb y pridd.

Er mwyn helpu i sicrhau dyfodol y cynefinoedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt mae’n bwysig i sylweddoli bod y dolydd yma sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau wedi’u creu’n uniongyrchol o ganlyniad i systemau ffermio cynaliadwy a hir dymor.  Yn hanesyddol roedd cynhyrchu gwellt o ansawdd da ar gyfer bwydo’r anifeiliaid dros y gaeaf yn rhan hanfodol o flwyddyn y fferm, yn enwedig yn y dyddiau cyn y peiriannau cyfoes pan roedd y ceffyl yn chwarae rhan bwysig ar y fferm.  Heddiw mae’r glaswelltiroedd yn dal i ddarparu bwyd defnyddiol a blasus ar gyfer da byw Cwm Elan.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan wedi bod yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac ecolegwyr lleol i ymchwilio am y ffyrdd gorau i gadw a chynnal y cynefinoedd glaswelltiroedd pwysig ond cynyddol prin yma.  Fel rhan o hwn sefydlwyd ‘Prosiect Dolydd Cwm Elan’ er mwyn mynd i’r afael â nifer o faterion pwysig:

Cadwraeth y  glaswelltiroedd presennol sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau

O fewn dolydd cynrychiadol mae gwaith arbrofol hir dymor ar leiniau arbrofol wedi helpu i ddangos y lefelau o fewnbwn traddodiadol, megis calch a gwrtaith buarth y fferm, sydd angen er mwyn adfer y cynhyrchiad o gnwd gwellt digonol, tra ar yr un pryd cynnal lefelau uchel o amrywiaeth blodeuol.

Adferiad o’r glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau

Mae cryn cyfleoedd o fewn yr Ystâd ar gyfer adfer ac ymestyn ehangder y glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau.  Ar rai dolydd a dargedwyd yn ofalus gosodwyd rheolaeth adfer ac yn barod mae’n dangos canlyniadau addawol iawn.  Ar safleoedd eraill, gweithredir rheolaeth megis gwasgaru gwellt-gwyrdd ar safleoedd derbyn a chanfyddwyd yn flaenorol o gael pridd addas a chyflwr tyweirch.

Rheolaeth rhedyn a phrysg

Fel ar nifer o safleoedd sydd ar ymylon yr uwchdiroedd gall meddiant prysg fygwth y glaswelltiroedd sydd o safon da.  O fewn yr Ystâd mae rhaglen yn mynd yn ei blaen sy’n rheoli’r rhedyn ac sy’n canolbwyntio ar gellïoedd sy’n dargadw elfennau o blanhigion y glaswelltiroedd niwtral neu asidig sydd o dan ganopi’r rhedyn.

Ymbwyddiaeth y cyhoedd a Hyfforddiant

Mae digwyddiadau rheolaidd ar gyfer y cyhoedd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth am werth a phwysigrwydd glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau ynghyd ag hyfforddiant ar reolaeth cynnal a chadw llwyddiannus.

Mae rhagor o fanlynion am Brosiect y Dolydd ar gael yma.  Am ragor o wybodaeth ar Ddôl Penglaeinon ewch i Coronation Meadows.