Ffridd

Home » Treftadaeth » Natur » Ffridd

Ffridd (coedcae) cynefin ymylol!

Mae ein coed yn ffurfio coedtiroedd naturiol hanner hynafol, conwydd a ffridd ar yr Ystâd.  Ond beth yw ffridd (Coedcae)?  Mae’n gymysgedd amrywiol o wair a rhostiroedd gyda rhedyn, tir prysg (yn aml draenen gwynion ac eithin) neu wyneb agored y graig ac efallai hefyd yn cynnwys gorlawnder, llaid, nentydd a dŵr llonydd.

Dyddia’r gair am y cynefin ffridd yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn Nghymru, ac fe ddaw o’r gair Saesneg canoloesoel ‘Frith’ sy’n golgyu coetir neu gefn gwlad coediog.  Efallai bod gan y gair Cymraeg gwreiddiol am ‘ffridd’ arwyddocâd ‘coediog’, sy’n debyg i’r gair ‘Coedcae’, sy’n golygu coedlan neu goed o fewn cae.

Mae’n gynefin pwysig iawn yng nghefn gwlad Cymru, o bwysigrwydd hanesyddol, diwylliannol, yn bwysig yn weledol ac i fywyd gwyllt.  Mae’r ffridd yn ‘goridor’ pwysig yng nghefn gwlad ac yn cadw cysylltiad rhwng yr iseldiroedd a’r uwchdiroedd sy’n helpu anifeiliaid a phlanhigion i symud o gwmpas, rhoi lloches ac i ddarparu adnoddau bwyd hanfodol.

Yn y Cwm mae’r ffridd yn darparu cartref anghenrheidiol i’r gwyfyn Cliradain Gymreig, Gwiddon Mwg y Ddaear Dringol, Brith Perlog Bach a’r Brith Gwyrd.  Mae gwyfynod a glöynnod byw yn dibynnu ar ein ffridd gan fod ganddo frithwaith o redyn â chanopïau agored, darnau yn gyfoethog â blodau, sgrïau ac ardaloedd llaith.

Ceir adar megis clochdar y cerrig, crec yr eithin, pibydd y coed, mwyalchen y mynydd a bronfraith yr eira.  Ar hyd copaon y bryniau a’r ffridd mae’n gyffredin i glywed y gog yn ystod mis Mai ac i gael cipolwg o’r cudyll bach wrth iddo hela yn y coed a’r gweundiroedd am bibyddion y waun.  O dan y rhedyn ac o fewn y gwair gellir darganfod casgliadau pwysig o ffwng y glaswelltir a chennau.

Fieldfare by ©Janice Vincett

Yn gynnar yn y tymor cenhedlu, ceir mwyeilch y mynydd yn chwilota am infertebratau ar y gweundiroedd sydd wedi’u pori’n agos, ac mewn darnau o redyn sy’n ei gorchuddio.  Yn hwyrach yn y tymor, maent yn bwydo ar aeron y criagolennau a’r draen gwynion, felly mae brithwaith o’r ddau llystyfiant a strwythur yn hanfodol ar gyfer eu llwyddiant cenhedlu.  Er bod nifer o flynyddoedd ers cofnodi mwyalchen y mynydd mae’n bwysig bod y cynefin cenhedlu yn cael ei gadw mewn cyflwr da.

Mae’r ffridd yn cynnal cennau arwyddocaol mewn nifer man yng Nghymru, yn bennaf yn gysylltiedig â chynefinoedd creigiog (brigiadau, clogfeini a sgrïau).  Mae nifer o rywogaethau sy’n brin yn genedlaethol yn gysylltiol ag ymylon yr uwchdiroedd o godiad isel i’r canol.

Mae rhai o’n mamaliaid megis y mochyn daear a’r llwynog yn dewis rhedyn a llechweddau i wneud eu cartref dan gudd.  Mae yna ddigonedd o lygod y gwair a chwistlod.

Mae gan y ffridd yng Nghwm Ealn swyddogaeth bwysig o gysylltu’r ardalaoedd coediog â’i gilydd a chreu ffyrdd di-dor ar gyfer symudiadau’r anifeiliaid.  Ceir llawer o ffridd ar y ffermydd tenantiaeth ac mae’n cysylltu’r tir â’i gilydd.  Mae llawer o waith wedi ei wneud gan y ffermwyr i blannu’r ardaloedd ffridd yn y dalgylch.

Felly y tro nesaf i chi yrru o gwmpas Dyffrynnoedd Elan a Chlaerwen edrychwch i fyny a diolchwch am y cynefin pwysig yma uwchben y ffyrdd.