Infertebratau

Home » Treftadaeth » Natur » Infertebratau

Nid oes gan infertebratau asgwrn cefn ac mae ganddynt gyfnodau bywyd cymhleth ac amryfal sy’n ymglymu metamorffosis o larfa i oedolyn. Mae cofnodion da o infertebratau yng Nghwm Elan, ac mae’r amrywiaeth o rywogaethau yn dal i beri syndod i’r rhai sy’n cymryd yr amser i edrych.

Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau infertebratau’n fach a gellir yn hawdd eu hanwybyddu.  Mae rhai yn fwy haws i’w gweld nag eraill, er nad yw eu hadnabod bob amser yn rhwydd.

Mae’r tudalennau hyn ond yn cynnwys nifer fach o rywogaethau sydd wedi cael eu darganfod yma.  Nid yw’n restr gynhwysfawr ac nid yw’r grwpiau o infertebratau i gyd wedi’u cynnwys.

Y bwriad yw i roi canllaw o bethau sydd wedi cael eu cofnodi ar yr Ystâd.  Mae BIS (Biodiversity Information Service dros Bowys) yn dal y restr ddata o infertebratau ar gyfer Dyffrynnoedd Claerwen ac Elan.

CY – The Elan Links Natural Heritage team have been monitoring, restoring and enhancing the natural habitats.  These aim to tackle the threats and challenges to the areas natural heritage, preserving and maintaining it for the future.

Mae tri deg un math o glöynnod byw wedi’u cofnodi ar yr Ystâd.

Mae llawer o’n rhywogaethau glöynnod byw yn gostwng, hyd yn oed rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin ac yn llydanfrig, ac mae hyn yn ei wneud yn fwy pwysig nag erioed i wybod beth sy’n bresennol er mwyn cymryd y camau iawn i gynnal cynefin addas iddynt.

Gellir gweld rhywogaethau cyffredin megis glöyn byw Brith y Coed yn gwibio ar hyd y llennyrch yn ystod misoedd yr haf.  Mae’r Ringlet, Meadow Brown a’r  Green Veined White Bach a Mawr i gyd wedi’u cofnodi.

Un o’r rywogaethau arbenigol yw’r Fritheg Berlog Bach sy’n cael ei weld lle mae fioledau yn enwedig Blodau’r Gwcw.  Dyma’r planhigyn mae’r lindys yn bwyta ac yn dodwy ei wyau arni. Rhestrir hwn fel rhywogaeth Adran 42 o Gynefinoedd Pwysig o dan Ddeddf NERC yng Nghymru gan ei fod yn rhywogaeth sy’n prinhau.

Mae eu niferoedd yn gostwng yn gyffredinol ym Mhrydain, er gall y Fritheg Berlog Bach gael ei weld mewn cynefinoedd o laswelltiroedd gwlyb, llennyrch ac uwchdiroedd corsog.  Maent yn dal i’w cofnodig yn yr ardaloedd hyn yng Nghwm Elan.

Mae’r  Brith Gwyrdd yn un o’r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn y DU ac wedi’i gofnodi ar yr Ystâd.  Yn gyffredinol fe’u gwelir ar dir agored, ac o ddewis mae’n well ganddynt gynefin y ffridd ar y bryniau.  Fe gofnodir o dro i dro y Brith Arianresog yn llennyrch yr Ystâd ac mae’n rywogaeth sy’n hedfan yn gyflym ac yn gryf.

Dau rywogaeth sy’n cael eu gweld weithiau yn torheulo o gwmpas yr ardaloedd caregog a’r llwybrau graean yw’r glöynnod byw Grayling a Wall.  Mae’r ddau wedi’u rhestri ar rywogaethau Adran 42 o Gynefinoedd Pwysig o dan Ddeddf NERC yn Nghymru.  Mae eu niferoedd yn anffodus yn dal i ostwng.

Arbenigwyr y glasdwelltiroedd agored yw’r glöynnod byw Waun Bach a Mawr a gellir gweld yr Waun Fach ar ddiwedd haf ar hyd ochrau’r llwybr seiclo ynghyd ag ar y bryniau agored.

Nid yw’r Waun Fawr, a oedd unwaith yn bresennol ar y uwchdiroedd sy’n gysylltiedig â phlu’r gweunydd, wedi’i gofnodi ers blynyddoedd bellach ar yr Ystâd.

Mae’r glöyn byw y Purple Hairstreak wedi’i gofnodi at ben y coed derw yng Nghoetiroedd Cwm Elan.  Mae’n hedfan ym mis Mehefin a mis Gorffennaf ac yn anodd ei weld gan iddo hedfan yng nghanopi’r coetiroedd derw.

Mae’r glöyn byw Glas Cyffredin hefyd yn rywogaeth y glaswelltiroedd ac yn aml yn cael ei weld yn gwibio o gwmpas bonion y gwair wrth ochr y llwybr seiclo ar ddiwrnodau cynnes.  Mae’r gwryw yn las olau tra bod y fenyw yn frown ar ben ei hadenydd.

Yn y gwanwyn cynnar ac eto ym misoedd yr hydref, mae’r glöyn byw Comma yn hedfan ac mae’n nodedig gyda’i batrwm ‘torri allan’ ar ei adenydd.  Dyma glöyn byw sy’n byw ar ymylon y coetiroedd ac yn parhau i fod yn rywogaeth sy’n cael ei gofnodi’n aml.

Mae’r Sgiper Mawr a Bach wedi’u cofnodi ar yr Ystâd ac yn cael eu gweld yn bennaf ar bonion gwair er iddynt gael eu cysylltu â blodau hwyr yr haf fel y gwelir ar y flodyn Knapweed yma. 

Mae ugain rhywogaeth o Fursennod a Gweision y Neidr wedi’u cofnodi ar yr Ystâd hyd yn hyn.

Mae’r gwas y neidr mawr melyn a du sef  Gwas y Neidr Eurdorchog yn cael ei weld yn aml yn gwibio dros dŵr llonydd a symudol yn yr haf hwyr.

Rhywogaeth arall y gellir ei weld yn hwyrach yn y flwyddyn yw’r Hebogwr Deheuol sy’n aml yn “hedfan heibio” ac yn hedfan tuag atoch fel pe bai’n edrych arnoch.

Cafodd y Mursen Gynffon Las prin, sy’n brin yn genedlaethol, ei gofnodi ar yr Ystâd ym 1989 ac er nad ydy wedi ei gofnodi yma ers hynny, mae wedi ymestyn ei gynefin yn ddiweddar ac mae’n werth chweil edrych allan amdano yn y dyfodol.

Ystyrir y Mursen Goeswen yn anghyffredin ond mae wedi cael ei weld a’i gofnodi yma.  Fe’i welir mewn ffosydd a nentydd sy’n llifo’n yn araf, ac mae’r gwryw yn defnyddio ei goesau gwyn mewn arddangosfa hwyfo o flaen y benyw a dyma’r unig Mursen sydd â choesau gwyn, sy’n ei wneud yn unigryw i edrych arno.

Gellir gweld y Fursen Fawr Goch yn hofran o gwmas dŵr llonydd, wrth iddo chwilio am rywle i ddodwy ei wyau yn y llystyfiant.  Mae cofnodi’r rhywogaeth yma yn gyffredin ac mae’n hawdd ei gymysgu â’r Fursen Fach Goch sy’n cael ei ystyried yn brin ac sy’n gyfyngedig i rostiroedd de Lloegr a gorllewin Cymru.

Mae’r Damoiselle Prydferth a’r Banded ill dau wedi’u cofnodi yma.  Maent yn greaduriaid ffosydd a nentydd sy’n llifo’n araf.

Ystyrir llawer o fathau o infertebratau fel rhai sy’n peillio a’r gwenyn yw’r rhai mwyaf effeithiol.

.

Mae 269 math o wenyn yn Ynysoedd Prydain ac mae dros 40 wedi’u cofnodi yn Nyffrynnoedd Claerwen ac Elan.  Gellir gweld rhai o’r gwenyn sydd wedi’u cofnodi yn y dolydd gwair ar yr uwchdiroedd ar yf Ystâd gan fod llawer o flodau yma yn yr haf.  Fodd bynnaf, mae llawer o’r gwenyn hefyd yn defnyddio ardaloedd yr uwchdiroedd sydd wedi’u gorchuddio â grug a’r bryniau fel ffynhonnell ar gyfer neithdar a phaill, ac yn byw eu bywydyau ym mhridd y bryniau a’r traciau.

Mae llawer o wenyn a chacwn yn bwysig ar gyfer peillio ac mae’r rhan fwyaf yn rhywogaeth sy’n byw yn unigol heb bodoli mewn cytrefi fel y gwenyn a’r cacwn cymdeithasol.

Mae cylch eu bywyd yn cynnwys creu safle nythu yn y ddaear neu fôn gwag, dodwy a darpau’r gell yma â phaill, neu os yw’n gacwn, pryfed eraill i’r larfa sydd wedi deor er mwyn bwydo arnynt.

.

Mae rhai o’r 40 rhywogaeth sydd wedi’u recordio yma yn cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth, gan iddynt gael eu hystyried fel Rhywogaeth Adran 42 o Gynefinoedd Pwysig. Mae rhai yn cael eu cynnwys yn y Llyfr Data Coch o bryfed prin ac mewn perygl.  Mae gan y gwenyn hyn gilfachau sydd angen cynefin arbennig a gall dolydd yr uwchdiroedd yng Nghwm Elan ddarparu y cynefin arbennig hwnnw ble gall rhai mathau o blanhigion prin ac arbenigol dyfu.

Mae ambell rywogaeth o wenyn mor arbenigol fel eu bod yn dibynnu ar un math o flodyn er mwyn casglu paill.  Maent yn bwydo ar y blodau yma am y neithdar.  Mae eraill yn defnyddio gwahanol mathau o flodau a’r rhain yw’r rhai sy’n cael eu cofnodi’n amlach.

.

Porir y dolydd er mwyn cadw eu cyflwr ac maent yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. 

Mae’r gwair a ddaw o ganlyniad yn cael ei drin fel cnwd bob blwyddyn ac yn cael ei gasglu er mwyn bwydo’r anifeiliaid dros gyfnod y gaeaf.

Ar un amser, cafwyd dolydd gwair wedi’u rheoli’n draddodiadol ar draws Prydain, fodd bynnag, ers 1946 mae 98% o ostyngiad yn nhir dolydd yn y DU.  Mae hwn wedi cael effaith niweidiol ar y pryfed sy’n peillio gan fod rhai yn dibynnu ar rywogaeth arbennig o blanhigyn sy’n blodeuo.

.

Y rhywogaeth o wenyn arbenigol sydd angen math arbennig o flodyn neu hyd yn oed rhywogaeth o flodyn sydd o dan fygythiad.  Mae nifer wedi gostwng yng nghefn gwlad gan fod angen planhigion arnynt sy’n tyfu mewn dolydd ier mwyn iddynt oroesi.  Mae hyn yn gwneud dolydd Cwm Elan yn bwysig iawn i’r pryfed gwerthfawr hyn.

.

Mae 7,000 math o glêr yn y DU ac maent yn beillwyr planhigion pwysig.  Mae rhai rhywogaethau yn dynwared gwenyn a chacwn yn eu lliwiau sy’n helpu eu gwarchod, wrth i un o rywogaethau o’r pryfed hofran isod dynwared cacwn meirch a’r llall yn dynwared gwenyn.

Mae’n sicr bod rhai mathau o glêr yn gyfrifol dros beillio blodyn Globe sydd yn y dolydd gwair ar yr Ystâd.  Mae’r Tegeirian Llydanwyrdd Mawr hefyd yn tyfu yma, ac mae rhai mathau o wyfyn sy’n hedfa yn y nos yn eu peillio.

Mae digon o ddŵr yn Nyffrynnoedd Elan a Chlaerwen ac mae llawer o infertebratau dŵr ffres wedi’u cofnodi yma.   Mae Cylion, Pryfed Gwellt a Phryfed y Cerrig yn gyffredin yn yr afonydd a’r nentydd sy’n llifo’n gyflym ynghyd â’r pyllau a dŵr llonydd.  Ynghyd â’r clêr, mae morgrug hefyd yn beillwyr defnyddiol ac mae 7 math wedi’u cofnodi yma hyd yn hyn.

Mae rhywogaethau cyffredin megis y Morgrug Dôl Melyn a Morgrug y Coed yma ynghyd â’r Morgrug Coed Blewog.  Fel mae eu henwau’n awgrymu, mae Morgrug y Coed yn byw mewn coetiroedd, y conifferiadd a’r collddail, a gellir gweld nythod enfawr.

Mae’r Morgrug Dôl Melyn yn byw mewn glaswelltiroedd digyffro a dolydd a gellir gweld eu twmpathau nythu trwy gydol y flwyddyn.  Dyma’r math o forgrug mwyaf cyffredin yn y DU.

Yr ‘Order of the Coleoptera’ yw’r un mwyaf o’r pryfed.  Mae 4,072 rhywogaeth o chwilod yn y DU ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae 400 math wedi’u cofnodi ar yr Ystâd.

Darganfyddiad cyffrous ar yr Ystâd oedd y Fuwch Goch Gota 5 Smot.  Mae’n rhywogaeth sydd mewn perygl ac sy’n byw ar graean bras yr afon, yn treulio’r gaeaf ar eithin neu o dan gerrig graean.

Rhywogaeth ddiddorol arall sydd wedi’i gofnodi yma yw Gwyfyn yr Ŷd ‘Climbing Corydalis’ sy’n gysylltiol â phlanhigyn ‘Climbing Corydalis’ a rhedyn.  Mae hwn yn anifail bach, yn mesur tua 4mm mewn hyd.  Credir bod y larfae yn bwydo ar wreiddgyff y rhedyn ac mae’r oedolion yn bwydo ar y planhigyn Coydalis.  Roedd unwaith ond i’w weld yn y DU ond bellach mae wedi’u gofnodi yn Ewrop.

Gellir gweld chwilod ym mhob math o cynefinoedd ac mae rhai mathau yn byw mewn cilfachau gwahanol. Mae chwilod yn amrwyio yn fawr mewn maint a siap ac maent yn gallu edrych yn hynod iawn.  Un o’r rhai mwyaf cyffredin yw chwilod y dail megis Chwilod Green Dock.

Mae’r Chwilod Cardinal yn byw yn y coetiroedd a gellir eu gweld o dan risgl llac coed sy’n pydru. Mae’r Chwilod Cyrn Hir hefyd yn byw yn y coetiroedd.  Adnabyddir rhain fel rhywogaeth saproxylic ac maent yn gallu dibynnu ar bren sy’n pydru dros ran neu holl amser eu cylch bywyd.

Cofnodir nifer rhesymol o Fagïod yma bob blwyddyn.  Er eu henwau maent hefyd yn chwilod  yn hytrach na mwydod.  Nid yw’r benywod yn gallu hedfan a gellir eu gweld ar nosweithiau sych, yn glynu wrth bonion gwair, ac yn tywynnu o’u hochr ôl.  Hysbyseb i’r gwryw yw hwn, sy’n gallu hedfan, i baru â hi.  Gellir eu gweld yn hawdd ym misoedd Mehefin a Gorffennaf.   

Mae eu cylch bywyd yn digwydd yn yr ardal o laswelltir ble wnaethant chwileru, felly mae’r boblogaeth yn cynyddu’n naturiol dros amser o gwmpas yr un ardal.

Ceir y Magïod mewn glaswelltiroedd sialc a chalchfaen, ac maent yn  bwydo ar falwod a gwlithenni.  Maent hefyd ar dir ffermio, llwybrau seiclo trwy’r goedwig, ac ar hyd y rheiffyrdd.

Yn ddiddorol, maent i’w gweld yn aml ar hyd lwybrau’r hen reilffordd ar yr Ystâd, a chredir iddynt efallai ‘ddod i mewn’ ar y cerrig a ddefnyddiwyd pan adeiladwyd y rheilffordd dros 100 mlynedd yn ôl.

Hyd heddiw, mae 549 o rywogaethau o wyfyn wedi’u cofnodi ar yr Ystâd.  Mae llawer yn rywogaeth sy’n hedfan gyda’r nos, er bod ambell i rywogaeth yn hedfan yn y dydd hefyd. 

Gan fod y gwyfynod sy’n hedfan yn y nos yn dod at fagl â golau arbenigol, gellir eu cofnodi yn eithaf hawdd trwy eu symud yn ofalus y diwrnod canlynol er mwyn eu harchwilio.

Yn 2011, fe fu darganfyddiad cyffrous mewn Gwarchodfa Natur lleol o’r rhywogaeth prin a Llyfr Data Coch sef y gwyfyn Clearwing Cymreig.   Yn sgil hyn, fe wnaeth y Ceidwad Cefn Gwlad, Sorcha Lewis, ymchwiliad tylwyr o samplau hŷn y coed Bedw Cyffredin ar yr Ystâd ac roedd hengroen y gwyfyn wedi’i ddargafnod yn ymwthio allan o rai o’r coed, yn profi ei fod yn bodoli yma hefyd.

Mae pethau anghyffredin eraill wedi’u cofnodi ar yr Ystâd sef Prettyr Pinion, Orange Underwing a Fen Square-Spot.

Mae’r Six Spot Burnet a’r Silver Y yn wyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd, ac wedi’u gweld a’u cofnodi yma.

Mae’r gwyfyn Vapourer a Drinker i’w cael yn ardaloedd glastiroedd yr uwchdiroedd ar  yr Ystâd ac wedi’u dal yma.  Fe’u hystyrir yn rhywogaeth cyffredin ac mae lindys y gwyfyn yma wedi’u cofnodi yn ymlusgo yng Ngwair Porffor y Rhos.