Porfeydd Rhos

Home » Treftadaeth » Natur » Porfeydd Rhos
Rhos upland ©Jonathan Davies

Y Rhos Werthfawr yng Nghwm Elan

Ystyr Rhos yw ‘moor’ neu ‘moorland’; mae’n laswelltir corsiog o wair rhos porffor a brwyn, mewn ardaloedd yn aml nad yw’n draenio’n dda, ac yn asidig gyda glawiad uchel.  Mewn rhannau eraill o’r wlad ceir enwau lleol megis ‘wet lawns’ (New Forest), ‘culm grassland (Dyfnaint) a ‘Fen Meadow’ (East Anglia). Ceir y cynefin yma yn bennaf yn ne-orllewin Lloegr, de a gorllewin Cymru, de-orllewin yr Alban, ac ar ochr ddwyreiniol Gogledd Iwerddon.  Mae’n bosibl bod gan y DU mwy o wair rhos porffor a phorfa brwyn na gweddill Ewrop.

Yn y gorffennol, torrwyd y gwair rhos porffor a phorfa brwyn ar gyfer gwellt yn ystod hafau sych, ond mae’r ymarfer hwn yn gostwng erbyn hyn.  Heddiw, dim ond ychydig o safleoedd sy’n cael eu rheoli fel dolydd gwair, ac yn cael eu cadw yn bennaf fel tir pori garw ar gyfer gwartheg a cheffylau.

Mae porfeydd rhos (gwair rhos porffor a phorfa brwyn) yn UK Bap (Biodiversity Action Plan) Priority Habitat.

Bywyd Gwyllt y Rhos

Mae ardal o borfa Rhos sydd mewn cyflwr da yn cynnwys llystyfiant o dwmpathau tal a’r tyweirch llai o wair, hesg a pherlysiau.  Mae hyn yn ffurfio clytwaith cywrain o wahanol lliwiau o wyrdd a brown trwy gydol y flwyddyn.  Mae’r cynefinoedd prin hyn yn cefnogi ystod eang o fywyd gwyllt yn nhalgylch Cwm Elan sy’n cynnwys rhydwyr sy’n cenhedlu, blodau a phryfed.

Dwedir y gall porfeydd rhos da gynnal hyd at 50 gwahanol math o blanhigion sy’n bresennol mewn pedwar metr sgwâr o laswelltir.  O fewn Cwm Elan fe gynhelir planhigion anghyffredin a ‘gwerthfawr’ megis y tegeirian llydanwyrdd llai, tegeirian pêr, ysgallen y ddôl, cronellau, clafrllys gwreidd-dan, tafod yr ŵydd, lliflys, briwydd y gors a Thresglau.

Pan fo dŵr yn llifo’n gyflym yn yr ardaloedd hyn gall greu rhuthr dŵr sy’n eu gwneud yn ardaloedd pwysig i rywogaethau megis y toddyn cyffredin pryfysol a’r gwlithlys crynddail.  O fewn y darnauo dir gwlyb hyn fe geir llafn y bladur, blodyn y llyfant, blodau’r mêl, plu’r gweunydd eiddil, blodau’r brain, meddyges les, tegeirian brith y waun a fioled y gors.

Gydag arddangosfeydd o blanhigion lliwgar nid yw’n syndod bod llawer o wahanol mathau o bryfed yma.  Yr arbenigedd ar yr Ystâd yw’r gwyfyn llinell ddwbl, brith perlog bach (planhigyn bwyd fioled y gors), glöynnod gwyn cleisiog, glöynnod y rhos mawr (planhigyn bwyd plu’r gweinydd), gwalchwyfyn gwenynog ymyl gul a’r Tresglau gwenynen durio.

Mae brogaod cyffredin yn cenhedlu yn y pyllau bas rhwng y twmpathau, ac efallai yn cael eu hela gan ddwrgwn yn ystod y misoedd paru ym Mawrth ac Ebrill.  Gellir gweld llygod y gwair o fewn y llwybrau dŵr yn bwydo a nythu yn y llystyfiant twmpathog ar ochrau’r nentydd.

Ymhlith y gwair a’r blodau, mae’r gylfinir a’r bras y gors yn cenhedlu, ac mae’r ehedydd a phibyddion y waun yn canu wrth hedfan.  Efallai fe welir y gïach yn rhuthro i guddio neu fe glywir eu sŵn drymian nodweddiadol o’u hadenydd wrth iddynt hedfan.  Yn aml gellir gweld y dylluan wen, tylluan glustiog a boda yn hela am lygod y gwair dros y rhosydd.

Cadwriaeth

Gyda llawer math o laswelltiroedd, mae llawer o borfeydd rhos borffor a brwyn wedi’u colli oherwydd ‘gwelliannau’ amaethyddol neu wedi dirywio trwy eu hesgeuluso neu ddefnyddio’r tir pori yn amhriodol.

Mae pori a lladd gwair yn hanfodol er mwyn cynnal y planhigion, ynghyd ag amrywiaeth strwythurol i gynnal amryw o infertebratau.  Mae pori ysgafn yn yr haf rhwng mis Mai a mis Medi fel arfer yn cael ei argymell.

Heb wartheg neu ferlod yn pori, neu dorri’r gwair ar gyfer creu gwelyau anifeiliaid, mae’r blodau yn cael eu mygu gan dyfiant trwychus gwair rhos borffor (yn anghyffredin mewn gwair, yn gollddail) a gall tir prysg y gwlypdir sefydlu sy’n arwain o’r diwedd at goetiroedd gwlyb.  Llosgir rhai safleoedd yn y gaeaf hwyr er mwyn gwaredu’r gwellt ac i hybu tyfiant ifanc ffres sy’n fwy blasus i’r anifeiliaid, ac weithiau fe symudir a thorrir y brwyn sy’n llechfeddiannu.

Mae llawer o’r porfeydd Rhos yn Nyffrynnoedd Elan a Chlaerwen yn cael eu gwarchod fel Safloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn cael eu rheoli’n ofalus trwy gytundebau rheoli gan y ffarmwr.

Mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan a ffermwyr trwy HLF (Heritage Lottery Grant) yn gweithio i wella peth o borfeydd y Rhos ac i hyrwyddo pwysigrwydd tirwedd yr uwchdiroedd.