

Am filoedd o flynyddoedd, roedd prif ffynhonnell goleuni yng Nghymru yn dod o Frwyn Pabwyr, Juncus effusus, wedi’u pilio i’r bywynnau a’u gosod mewn braster anifail. Roedd y canhwyllau brwyn syml hyn dal yn cael eu defnyddio yng nghanol yr 20fed ganrif – yn fuddiol iawn mewn economi ymgynhaliol, yn costio bron i ddim o’u gwneud o gynhwysion cyffredin, bob dydd.
Mae Brwyn Pabwyr yn gyffredin iawn ledled Cymru, ac fe fyddai’r rhan fwyaf o blanhigion ar gyfer y goleuadau brwyn wedi cael eu fforio o’r gwyllt. Mae prawf ar gael fodd bynnag fod y brwyn weithiau yn cael eu tyfu’n arbennig ar gyfer y pwrpas hwn. Yn Abergwngu, sef fferm Ymddiriedolaeth yng Nghwm Elan ar ffordd y mynydd, mae darn o Frwyn Pabwyr sy’n anarferol o dew ac sy’n wahanol yn weledol i’r ‘math gwyllt’ sydd o gwmpas. Sylwyd yn gyntaf ar hyn gan yr hanesydd lleol, Erwyd Howells a roddodd wybod i’r botanegydd amlwg o Aberystwyth, Arthur Chater. Awgrymodd Arthur y dylai Andrew Jones ymchwilio brwyn Abergwngu.
Mae’r brwyn yn ffurfio llain lydan tua 30 metr o hyd a 3 metr o led o dan y clawdd isel ger y ffermdy, a oedd siwr o fod yn wal gerrig ar un amser. Mae coesynnau’r brwyn hyn tua 4.0 mm mewn diamedr i gymharu â’r brwyn sydd wedi’u gwasgaru o gwmpas ac sydd ar gyfartaledd ond yn 2.5 mm o led.
Yn ddiddorol, pan mae’r brwyn mwy wedi’u sychu, maent yn dal i gadw’u trwch ac mae’n amlwg yn haws i’w pilio na’r brwyn ‘gwyllt’.
Mae’r nodweddion hyn – y gwahaniaeth rhwng y planhigion sydd o amgylch, yr agosrwydd i’r annedd, y trwch a’r gwead – yn dangos, fel yr awgrymodd Erwyd Howells, amrywiaeth defnyddiol, wedi’u dewis yn fwriadol a’u plannu ar gyfer gwneud goleuadau brwyn. Mae’r Abergwngu presennol wedi disodli ffermdy canoloesol cynharach ac mae’n bosibl, o faint ac aliniad hen wal, fod i’r darn nodedig hwn o Frwyn Pabwyr darddiad cynnar iawn. Mae’n debygol hefyd fod gan y planhgion trin hyn arwyddocâd economaidd, oherwydd mewn man arall (e.e. Fferm y Fannog, sydd bellach o dan Lyn Brianne) mae ffynonellau teuluol yn dweud fod goleuni brwyn, o bosibl, wedi’u cynhyrchu i werthu i fwynwyr a chwsmeriaid eraill. Mae Abergwngu wedi’i leoli’n agos at fwyngloddiau Cwm Ystwyth ac efallai fod y goleuadau brwyn wedi cyflenwi’r mwyngloddiau.
Mae’n bendant yn werth edrych ar ddarnau tebyg ger hen dai yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n agos at fwyngloddiau.
Cydnabyddiaeth
Diolch mawr i Erwyd Howells am y mewnwelediad cychwynnol, Arthur Chater am ei wybodaeth a thrafodaeth defnyddiol, ac i Claire a Robin Bidgood, Abergwngu, am fynediad i’w tir.
Andy Jones (crynhowyd gan Fiona Gomersall)
