Amser Rhyfel

Home » November 2022 » Page 2

Cyfraniad Cwm Elan yn y Ddau Ryfel:
Y Rhyfel Byd Cyntaf

Y tro cyntaf i’r Fyddin Brydeinig ddod o hyd i fryniau Cwmdauddwr oedd ym mis Medi 1903 pan gyrhaeddodd 13 o drenau yng nghorsaf Rhaeadr o Swindon yn cludo 434 o ddynion, 138 o geffylau a 6 o ddrylliau mawr y Magnelwyr Brenhinol. Pencadlys y swyddogion oedd gwesty’r Lion Royal, Rhaeadr, tra roedd y rhengoedd eraill yn lletya mewn gwersyll pebyll ar gaeau ger Nannerth Fawr, Cwmdauddwr. Roedd y ceffylau yn tynnu’r drylliau i frig Penrhiwen, tair milltir tu allan i Raeadr ar ffordd y mynydd i Aberystwyth. Penderfynodd Swyddfa’r Rhyfel i arbrofi maes tanio newydd gyda golwg ar ddisodli’r meysydd tanio yn Lydd, a ddefnyddiwyd ar y pryd i danio ordnans trwm. I ddechrau, dim ond dryllau y ‘Heavy Battery’ a anfonwyd. Parhaodd yr ymarfer hyn am bythnefnos a bu rhaid i ffermdai Hirnant, Glanhirin a Throedrhiwdrain gael eu gwagio.

Erbyn 1908 roedd rhai o’r drylliau a oedd yn tanio ar y meysydd yn pwyso hyd at bum tunnell ac yn tanio sieliau yn pwyso hyd at 2801bs dros bellter o 5000 llath. Eu pellter eithaf oedd 11,500 llath.

Ym mis Awst 1908 cyrhaeddodd nifer o swyddogion o Ysgol Magnelwyr, Shoeburyness, Raeadr ar gyfer arddangosfa saethu â magnelau chwe modfedd. Taniwyd sieliau yn pwyso 280lb a gellid dilyn hediad rhain o’r safn dryll tan y ffrwydriad. Ar y pumed o’r mis roedd tri bateri yn weithredolar y cyd, gan danio gyda drylliau caliber mawr 9.45, taniwyd 120 rownd o bellteroedd yn amrywio o 2,500 i 5,000 llath.

Tua’r adeg yma cynhaliwyd y saethu magnelau cyntaf yma, wedi’i gerddorfa o falŵn arsylwi.

Ym 1910 cafwyd ymarfer saethu drylliau o hirbell (6 milltir)  gyda sieliau sêr yn y nos gan ddefnyddio magnelau caliber 6” a 9.45”.  Yn ystod y dydd taniwyd pellter o 9 milltir gan ddefnyddio sieliau 120lbs i’r drylliau 6” a 280lbs i’r drylliau 9.45.  Mae’n bosib gweld y craterau a wnaed gan y sieliau ar Esgair Cywion ac Esgair Crawnllwyn.  Gellir darganfod sirapnel hefyd o’r tanio cynnar hwn.

Ar ôl cyhoeddi rhyfel ar 4ydd o Awst 1914 tynnwyd y minteioedd a oedd yn hyfforddi yng Nghwm Elan a’u hanfon i Ffrainc.

Cafodd y Gwaith Dŵr eu gwarchod i ddechrau gan aelodau o Gorfflu Hyfforddi’r Brenin Edward VII, Birmingham a 130 o wirfoddolwyr lleol fel rhan o’r Warchodfa Genedlaethol. Roedd Cwnstabliaid Arbennig o Birmingham yn gwarchod y gwaith trin o fis Gorffennaf 1917.

Ar ôl y rhyfel codwyd cofeb i’r Cwnstabliaid Arbennig o Birmingham a oedd wedi diogelu’r gweithfeydd trin o fis Gorffennaf 1917 hyd fis Tachwedd 1918, gydag arian a godwyd gan danysgrifiadau. Adeiladwyd pistyll dŵr a chafn dŵr yn Abernant, rhyw 100 llath uchben argae Caban.

Yr Ail Ryfel Byd

O’r 2il o Fedi 1939 daeth gorchymyn o’r Weinidogaeth Drafnidiaeth yn gwahardd defnyddio ffordd Cwm Elan rhwng Brick House a Phont ar Elan gan unrhyw fath o gerbydau.  Rhoddwyd gwarchodwyr ar ddwy ochr Cwm Elan a chaniatâd i’r trigolion, gweithwyr ayyb.  Gorchuddiwyd Tŵr y Foel â rhwydau, ei amgylchynu â weiren bigog a gosodwyd drysau dur dros y fynedfa.  Adeiladwyd tŷ bloc allan o bridd a cherrig ger y tŵr.  Atgyfnerthwyd y tŷ sialc, ger y gwelyau ffilter gyda blociau concrit mawr er mwyn creu pwyntiau cadarn.

Erbyn mis Awst 1939 roedd cynllun ar waith i rwystro’r ffordd gyfan rhwng Brick House a Phont ar Elan, a chau’r ffordd awr cyn machlud (ddim yn hwyrach na 8yh) a 8yb. Gosodwyd gwarchodwr, a oedd yn gyfarwydd â thrigolion yr ardal, wrth y ddau glwyd yn ystod yr oriau hyn er mwyn gadael y traffig lleol trwodd. Gosodwyd gwylwyr mewn mannau strategol yn y cwm.

Ym mis Medi 1940 darparwyd lloches cyrch awyr annhoradwy ar gyfer y plant a oedd yn mynychu Ysgol Cwm Elan.

Fel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu meddiant gorfodol ar wahanfa ddŵr Cwm Elan gan y fyddin ar gyfer ymarfer rhyfel a magnelaeth.  Ar 16eg o Orffennaf 1942 symudwyd tenantiaid Glanhirin, Nantybeddau a Chlaerwen o’u tyddynnod gyda’u heiddo yn unol â chytundeb Pwyllgor Ardaloedd Hyfforddi Arbennig Swyddfa’r Rhyfel a Chorfforaeth Birmingham.  Gorchmynwyd y tenantiaid fferm i orffen cneifio’u defaid cyn i’r ymgyrchoedd militaraidd ddechrau ar 1af o Awst 1942.

Roedd y Gorfforaeth hefyd yn pryderu am awyrennau yn ceisio glanio ar y cronfeydd dŵr, ac ymosodiadau ar y sefydliadau o’r dŵr, felly adeiladwyd system o rwystrau a rafftiau a’u gosod ar gronfa ddŵr Caban.  Gosodwyd rhwystrau o gwmpas Tŵr y Foel hefyd.  Gorchuddiwyd y falfiau llifddor gwan ar waelod y tŵr mewn graean a’u gorchuddio â llawr concrit ffug i osgoi niwed gan ffrwydron, a ellid cael eu gollwng i lawr y siafft.

Ym mis Hydref 1940 darparwyd cychod modur gan y Forlys a’u gosod ar nifer o’r cronfeydd dŵr.  Roedd criw o’r Llynges Frenhinol yn gofalu am y cychod gyda chriw â gynnau peiriant o’r Gwarchodlu Cartref lleol.

Roedd y Gwarchodlu Cartref a ddefnyddiwyd i’r argaeau yn rhan o Gorfforaeth Ddŵr Birmingham. Cyn hynny, roedden nhw wedi cael eu gwarchod gan y Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol.

Fe’i ffurfiwyd yn wreiddiol fel 9fed Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol Birmingham ym mis Mai 1940, roedd y 29ain Bataliwn Swydd Warwick (Birmingham) yn cynnwys gweithwyr gwasanaethau cyfleustodau dŵr y ddinas, galwedigaeth a gadwyd yn ôl.

Erbyn Mehefin 1940, sefydlwyd Rhif 6 Platoon i warchod isadeiledd Cwm Elan gyda 48 o ddynion. Roedd y dasg aruthrol ac unigryw hon yn gofyn am adeiladu’r amddiffynfeydd sy’n edrych dros yr argae er mwyn sicrhau’r cyflenwad dŵr rhag ymosod a phartroopwyr y gelyn. Rhwng mis Gorffennaf 1940 a Thachwedd 1941, cefnogwyd 6 Platoon gan warchodwyr ychwanegol a anfonwyd o’r Swyddfa Ryfel. Ar ôl hynny, fe’u cynorthwywyd gan y Corfflu Heddlu Milwrol. Ffurfiwyd a gorchymynwyd y Cwmni gan reolwr cyffredinol y cwmni dŵr drwy gydol y rhyfel, Major A. E. Fordham.

Adeiladwyd llithrfeydd ar gyfer lansio’r cychod modur.  Peidiodd y cynllun hwn ar ôl mis a chymerodd moduron arfog at y dyletswyddau.

Lleolwyd bateri AA a dau chwilolau ar ochr Sir Frycheiniog ger argae Caban, a dau bateri AA a chwiloleuadau ar ochr Sir Faesyfed ger cornel Carreg Ddu, tynnwyd rhain yn ôl ym 1943. Mae’r pillbocs concrit ym maes parcio’r Foel dal yn y fan a’r lle.  Mae pedwar pillbocs i gyd, tri ar y bryn o amgylch maes parcio’r Foel ac roedd un lle mae maes parcio Nantgwyllt heddiw.  Mae mynediad a dehongliad o’r pillbocsys yma yn cael eu cynnwys yng nghynllun Cysylltiadau Elan.

Yng nghyfnod cynnar adeiladu’r argaeau yng Nghwm Elan codwyd argae gwaith maen bach ar draws nant Nant y Gor, gan greu cronfa ddŵr 1,000,000 o alwyni ar y llethrau creigiog i fyny’r afon o Gaban Coch, gan ddarparu dŵr i bentref y labrwyr.  Ar ôl gorffen yr argaeau chwalwyd pentref y labrwyr ac chafwyd dŵr o’r cynllun newydd i’r pentref cerrig newydd.  Fodd bynnaf, arhosodd Nant y Gro yn gyfan, ar roedd yn faes profi pwysig ar gyfer arbrofion yn ymwneud ag amcanion militaraidd i dorri nifer o gyfresi o argaeau mawr yn Nyffryn Ruhr, yr Almaen, er mwyn atal cynhyrchu arfogaethau yn ardal ddiwydiannol y Ruhr.

Ym 1942 cynhaliodd Swyddfa’r Rhyfel profion cyfrinachol ar argae Nant y Gro gyda Barnes Wallis, peiriannydd eronomig. Roedd pellenigrwydd yr argae o fantais ar gyfer yr arbrofion tra chyfrinachol, er mwyn eu cynnal o’r golwg. Crogwyd ffrwydryn o sgaffaldiau i’r dyfnder optimwm hanner ffordd ar hyd y argae 180 troedfedd a’i danio o bellter. Roedd llwyddiant yr arbrawf wedi cadarhau y byddai angen cael dyfais ffrwydrol tanddwr mewn cysylltiad uniongyrchol â’r mur er mwyn dinistrio’r argae. Canlyniad rhain ynghyd ag arbrofion cyfrinachol eraill oedd y ‘bouncing bomb’ gan Barnes Wallis a’r ymosodiad enwog gan ‘633 squadron’. Gellir gweld peth o olion argae Nant y Gro heddiw, ac mae’n bosib cerdded i’r safle o’r Ganolfan Ymwelwyr.

Amser Rhyfel

Cyfraniad Cwm Elan yn y Ddau Ryfel:Y Rhyfel Byd Cyntaf Y tro cyntaf i’r Fyddin Brydeinig ddod o hyd i fryniau Cwmdauddwr oedd ym mis Medi 1903 pan…

Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan

Gweinyddir Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan gan Dŵr Cymru Welsh Water ac mae wedi’i leoli mewn lleoliad rhyfeddol yn erbyn cefndir syfrdanol argae cerrig Fictorianaidd. Ebrill – Hydref 9am…

Allgymorth Addysg

Addysg Awyr Dywyll Fel Parc Awyr Dywyll Ryngwladol balch, rydyn ni wrth ein boddau’n siarad am ryfeddodau awyr y nos. Rydym bellach yn cynnig amrywiol becynnau addysgiadol ar…

Dronau

Yma yng Nghwm Elan, rydym am i bawb fwynhau’r golygfeydd gwych ond i sicrhau preifatrwydd a diogelwch yr holl ddefnyddwyr yn ogystal â diogelu ein hasedau gweithredol, ni…

Cyfarwyddiadau a pharcio

Cyfarwyddiadau Ceir cludiant cyhoeddus da o Raeadr. Dyma ddolennau ddefnyddiol wrth i chi gynllunio’ch taith: Traveline Cymru I gwblhau’ch taith i Gwm Elan gallwch ddefnyddio gwasanaeth Tacsi S.P….

Dyffrynoedd Coll

Tŷ Cwm Elan – “Tŷ’r Bardd Shelley” Roedd cymoedd boddedig afonydd Elan a’r Claerwen yn cynnwys plasdai mawr hanesyddol a oedd yn gysylltiedig â’r bardd Percy Bysshe Shelley….