01st Mawrth 2024

Gyda chalon drom yr ydym yn cyhoeddi y bydd Ystafell De a Gwely a Brecwast Penbont yn cau. Ar ôl ystyriaeth ddwys, mae’r Ymddiriedolaeth wedi gwneud y penderfyniad anodd nad yw Tŷ Penbont bellach yn hyfyw yn ei fformat presennol a’r hinsawdd economaidd bresennol.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cwsmeriaid ffyddlon am eich busnes a’ch cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd, byddwn yn parhau ar agor yn llawn tan 13eg Mai 2024 felly gobeithiwn y bydd y rhai ohonoch sy’n mwynhau ymweld yn cael cyfle i wneud hynny. Bydd gwesteion dros nos yn parhau i gael eu croesawu tan 20fed Mai 2024.

Rydym yn ymwybodol y gallai fod gan rai cwsmeriaid dalebau i’w defnyddio, felly er mwyn defnyddio’r rhain, cadwch le gyda ni cyn 13eg Mai.

Rydym yn gobeithio ail-bwrpasu’r adeilad fel y gall ymwelwyr barhau i ddefnyddio’r lleoliad anhygoel hwn yn y dyfodol a bydd diweddariadau pellach i ddod.

Rhaid inni bwysleisio pa mor anodd y mae’r penderfyniad hwn wedi bod a hoffem gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ein staff a diolch i chi gyd am eich busnes.