Datganiad gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan

Datganiad gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan

17th Ebrill 2024

Roedd Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn bryderus o glywed am gŵyn a wnaed mewn perthynas â gosod Cynefin Defaid Tymawr yn dilyn marwolaeth drist y tenant.

Rydym yn cymryd cwynion o’r fath o ddifri a rhoddwyd stop ar y broses osod er mwyn cynnal adolygiad trylwyr, cawsom hefyd farn gyfreithiol allanol mewn perthynas â’r broses osod.  Mae canlyniad y ddwy broses yn cadarnhau bod gweithdrefnau’r Ymddiriedolaeth yn gyfreithiol gywir a’u bod wedi’u cymhwyso i safon uchel.

Rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn gwahaniaethu ac rydym yn falch o gael gweithlu gydag ystod oedran amrywiol a chyflogir menywod ar bob lefel o’r sefydliad.

Ar yr achlysur prin pan ddaw tenantiaeth cynefin defaid i ben, rydym yn mynd ati i wahodd pobl i wneud cais drwy broses dendro agored.  Gofynnir i’r holl bartïon â diddordeb ddarparu manylion am eu profiad a’u hymagwedd at ffermio, eu gwybodaeth am yr ardal, cynllun busnes, cyllidebau a geirdaon.

Mae ein proses osod yn ceisio cynnig dull teg a thryloyw sy’n cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol fel landlord ac elusen. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i ddysgu a gwella a byddwn yn adolygu ein dull mewn ymgynghoriad â’n tenantiaid a’n rhanddeiliaid. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein tenantiaid a’u teuluoedd yn ei chwarae wrth reoli’r dalgylch a’r cynefinoedd dŵr pwysig sy’n rhan o Gwm Elan ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ein cymuned ffermio ddyfodol cryf yma. Mae’n siom inni, ar yr achlysur hwn, bod y broses a ddefnyddiwyd gennym wedi achosi gofid i deulu tenant.

Yn anffodus, mae’r amserlenni bellach yn golygu na allwn gwblhau’r broses osod cyn 15 Mai 2024 a fyddai wedi caniatáu i denant gael rheolaeth dros y tir at ddibenion Cynllun y Taliad Sylfaenol 2024.  O ystyried yr ansicrwydd ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r goblygiadau y gallai’r cynllun eu cael ar gyllid ffermydd, y cynnig presennol yw ailosod y daliad yn gynnar yn 2025 er mwyn caniatáu i ddarpar ymgeiswyr adolygu’r holl ffactorau perthnasol yn eu cynigion.