Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2023

Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2023

04th Awst 2023

Mae mis Awst yn amser gwych o’r flwyddyn gydag wybren y nos yn llawn o nifylau a chlystyrau o sêr.

Mae tywyllwch seryddol yn dechrau ychydig yn hwyrach y mis hwn, o 12.44 yb yn yr Alban, 11.50yh yn lledredau canolig y DU a 11.45 yh yn y de.  Mae ambell i wrthrych rhyfeddol i’w ddarganfod, gan gynnwys cawod ysblennydd o sêr gwib a chysylltiad hyfryd o sêr, planedau a’r Lleuad.

Cytserau mis Awst

Yr amser gorau i ddechrau syllu ar y sêr yw oddeutu hanner nos; gwelwch y Llwybr Llaethog yn codi i’r de o Gytser y Saethydd, rhanbarth sy’n llawn o wrthrychau’r wybren bell, ymlwybrwch drwy ganol Acwila gan droi i’r chwith o Lyra.  Cadwch lygaid allan am Sgwâr Pegasws yn y dwyrain a Bootes ym machlud yn y gorllewin, y seren lachar Arctwrws yn dangos lleolaid y cytser sydd ar ffurf barcud.

Fe allwch lawrlwytho map y cytserau a’i brintio yma (clod:  Dominic Ford, awdur in-the-sky.org).

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar yr 16eg o Awst a’r Lleuad Lawn yn digwydd dwywaith:  ar y 1af a’r 31ain o Awst.

Cysylltiad o Blanedau, y Lleuad a Chlwstwr o Sêr

Ar y 9fed o Awst, fe fydd cysylltiad yn ystod oriau mân y bore o’r blaned Iau, y Lleuad a Chlwstwr Sêr Pleiades.  Edrychwch tua’r dwyrain wedi hanner nos i weld y Lleuad a’r blaned Iau yn codi.  I’r chwith o’r Lleuad, ceisiwch ddod o hyd i Glwstwr Sêr Pleiades.  Os defnyddiwch eich ysbienddrych i edrych ar y Lleuad, y seren lachar sydd wedi’i lleoli yn y safle 5 o’r gloch yw’r blaned Wranws.

Cawod o Sêr Gwib Perseid

Diswylir y bydd y gawod o sêr gwib Perseid yn un o’r rhai gorau eleni, yn cyrraedd ei hanterth yn hwyr yn y nos ar y 12fed o Awst ac yn ystod oriau mân y bore ar y 13eg o Awst.  Fe fydd y Lleuad ar ei chynnydd yn machlud oddeutu 7.25yh, ac fe fydd yn creu’r wybren dywyll berffaith er mwyn gweld y gawod o sêr gwib mwyaf ysblennydd y flwyddyn. 

Yn pelydru o gytser Perseus, nid oes rhaid i chi edrych i’r cyfeiriad hwnnw gan fydd y ‘sêr gwib’ yn ymddangos unrhyw le yn yr wybren.  Wrth i’r gronynnau o lwch, y tybier eu bod yn falurion o’r Gomed Swift/Tuttle ddod i gysylltiad â’n hatmosffer, mae cyflymder y gwrthrych ynghyd â ffrithiant gyda’n hatmosffer yn achosi’r meteorynnau i dwymo ac i fynd a’r dân, gan adael dilyniannau parhaol a hyd yn oed cynffon myglyd.  Mae’n hawdd iawn i edrych ar hyn – gwisgwch ddillad cynnes, dewch â diod, gorweddwch ar flanced, edrychwch i fyny a mwynhewch!  Credir y bydd 150 meteor yr awr yn ystod yr anterth i’w gweld.

Cyfoeth yn y Saethydd

Mis Awst yw’r mis gorau i astudio rhai o’r gwrthrychau syfrdanol yn yr wybren bell yng nghytserau’r Saethydd.  Fe fydd rhaid dod o hyd i orwel isel er mwyn gweld y cytser, sy’n debyg i debot wybrennol.  Fe allwch ddefnyddio’ch ysbienddrych er mwyn gweld y cyfoeth o sêr yn y maes gweld a smotiau aneglur, rhai ohonynt yn nifylau, clystyrau agored a chlystyrau crwn.  Rydym wedi dewis rhai o’r gwrthrychau gorau i’w darganfod isod:

Nifwl Lagŵn

RA 18h 3m 37s | Dec -24° 23′ 12″

Adwaenir y nifwl allyriad hwn, sydd 5200  blwyddyn golau i ffwrdd, hefyd fel Messier 8 ac mae’n un o’r nodweddion hynod yng nghytser y Saethydd.  Fe’i darganfyddwyd gan y seryddwr Eidalaidd Giovanni Battista Hodierna ym 1654, ac fe fyddai’r wybren dywyll yn y cyfnod hwnnw wedi’i gwneud yn haws i’w ddarganfod, ond fe ychwanegodd hwn at y rhestr o wrthrychau i’w hosgoi, gan ei fod yn chwilio am gomedau.  Yng nghanol y nifwl hwn mae NGC 6530, sef clwstwr sêr;  mae’r sêr hyn yn creu allbwn enfawr o belydriad sy’n goleu’r nwy ac yn creu adeiladwaith y nifwl.

Gellir gweld y nifwl hwn trwy ysbienddrych fel darn aneglur o olau, a thrwy delesgop bach, gellir ei weld fel strwythur hirgrwn.

Nifwl Triffid

RA 18h 2m 23s | Dec -23° 1′ 48″

Darganfyddwyd y nifwl hardd hwn gan Charles Messier ym 1764 ac mae wedi’i leoli 9000 blwyddyn golau i ffwrdd.  Fe’i adwaenir hefyd fel Messier 20, ac mae’n gyfuniad diddorol o glwstwr sêr agored, adlewyrchiad a nifwl allyriad.  Fel ei gymydog, Nifwl Lagŵn, mae’r clwstwr sêr agored yn cynhyrchu pelydriad uwchfioled, sy’n goleuo’r nwy.  Mae ffurf y nifwl, a ellir ei weld o ffotograffau, â strwythur tair labedog.

Gellir ei weld trwy ysbienddrych a thelesgop bach ond trwy delesgop mwy o faint mewn wybren dywyll efallai fe wnewch ddechrau gweld manylion strwythurol.

Messier 23

RA 17h 56.8m | Dec -19° 01´

Ceisiwch ddod o hyd i’r clwstwr agored o sêr hyn a ellir ei weld trwy ysbienddrych yn yr wybren wledig.  Mae wedi’i leoli 2050 blwyddyn golau i ffwrdd, ac mae’n cynnwys oddeutu 176 o sêr.  Gwell gweld y gwrthrych trwy ysbienddrych neu delesgop bach.  Er os nad ydyw’n drawiadol yn weledol, fe fyddwch wedi darganfod un o’r clystyrau agored hynaf yng Ngalaeth y Llwybr Llaethog.

Messier 22

RA: 18h 36m 24m 21s | Dec: -23° 54′ 9.73″

Mae’r clwstwr crwn di-son amdano hwn yn un o’r rhai mwyaf llachar yn wybren y nos.  Mae ei safle, sy’n gymharol isel yn yr wybren, yn ei gwneud yn anodd i’w weld i’r sawl sy’n cael ei amgylchynu gan adeiladau neu fryniau, felly mae’n werth ymweld ag ardal wybren dywyll gyda gorwel da.  Roedd yn un o’r clysytrau crwn cyntaf i’w darganfod gan seryddwr o’r enw Abraham Ihle ym 1665.  Mae wedi’i leoli 10,600 blwyddyn golau i ffwrdd, a gellir ei gydrannu mewn telesgop bach – gydag agorfa o 6 modfedd.  Fe fydd telesgop 8 modfedd yn datgelu cannoedd o sêr.  Er ei fod yn wrthrych llachar, yn weledol, ni ellir ei gymharu â disgleirdeb y Clwstwr Mawr yn Ercwlff (M13) gan ei fod yn gorwedd yn isel ar y gorwel lle mae’r atmosffer yn fwy trwchus nag yn uwch i fyny yn yr wybren; fe all gymylu yr hyn yr ydych yn ceisio ei weld.

Messier 28

RA: 18h 24m 32.89s

Dec: –24° 52′ 11.4″

Mae’n werth chwilio am y trydydd clwstwr crwn sef Messier 28 sydd wedi’i leoli 17,900 blwyddyn golau i ffwrdd.  Fe fydd ysbienddrych yn datgelu darn gwan o olau yn wybren wledig y nos gyda’r sêr yn cydrannu trwy delesgop.