Golwg ar Wybren y Nos – mis Chwefror 2023

Golwg ar Wybren y Nos – mis Chwefror 2023

07th Chwefror 2023

Fe fydd Golwg ar Wybren y Nos y mis hwn yn dangos gwrthrychau gorau wybren y nos i’w darganfod gydag ysbienddrych, telesgop, neu gyda’r llygaid. 

Gwnewch yn fawr o’r tywyllwch, y nosweithiau cynnar, lapiwch mewn dillad cynnes, dewch â’ch hoff ddiod poeth ac ewch allan..

Cytserau mis Chwefror

Mae 88 o gytserau sy’n gydnabyddedig yn swyddogol yn wybren y nos: 36 yn yr hemisffer gogleddol a 52 yn y de.  Mae’r rhain yn newid trwy gydol y flwyddyn fel gorymdaith wybrennol wrth i’r Ddaear deithio o gwmpas yr Haul;  oherwydd ein lledred, nid yw’r cytserau sy’n uwch yn yr wybren, megis Cassiopeia, Draco ac Ursa Major byth yn machlud, tra bod cytserau eraill yn mynd a dod gyda’r tymhorau.

Y mis hwn, mae cytserau Leo, Cancer, Boötes yn codi yn y Dwyrain tra bod cytserau’r gaeaf megis Taurus, Gemini, Orion ac Auriga yn teithio tua’r gorllewin wrth i’r nosweithiau ymestyn.  Fe allwch lawrlwytho map o’r cytserau oddi yma (clod: Dominic Ford, awdur in-the-sky.org gwych) https://in-the-sky.org/skymap2.php

Fe ddigwydd y Lleuad Lawn ar y 5ed o Chwefror a’r Lleuad Newydd ar yr 20fed o Chwefror.

A Conjunction

Ar yr 22ain o Chwefror, fe fydd y Lleuad a fydd bron yn dri diwrnod oed yn ymddangos ar ôl i’r haul fachlud gyda’r planedau Gwener a Iau gerllaw.  Fe fydd y cysylltiad hwn yn edrych yn arbennig o drawiadol pan fydd llewyrch daear yn ymddangos ar wyneb mwyaf tywyll y lleuad – golau’r Ddaear yn adlewyrchedig, a fydd yn weladwy yn ystod y cyfnos.  Manteisiwch ar y cyfle i astudio’r gwrthrychau hyn gydag ysbienddrych a cheisiwch ddarganfod Lleuadau’r blaned Iau sy’n amgylchynu’r blaned. 

Fe ddylech allu gweld Io, Ganymede a Callisto, y tri o’r 80 Lleuad sy’n troi o gwmpas y cawr nwy enfawr.

Clwstwr Beehive M44

RA 8h40m24s|Dec +19˚59’0”

I’r rhai sy’n defnyddio ysbienddrych, mae’r Clwstwr Beehive hyfryd yng nghysylltiad Cancer.  Fe’i hadwaenir hefyd fel Messier 44, ac mae’n 600 o flynyddoedd golau oddi wrthym ac yn weladwy â’r llygaid noeth. 

Fe fydd ysbienddrych o faint da yn dangos torf prydferth a chlir o 20 o sêr ond mae’r clwstwr agored hwn yn cynnwys hyd at 1,000 o sêr; rhai sy’n rhy wan i’w gweld.

Messier 3 Globular Cluster

RA 13h 42m 11.62s|Dec +28˚22’38.2”

Ar gyfer telesgop, mae Messier 3 yn glwstwr crwn, llawn o emau hyfryd i’w hastudio gyda thelesgop ag agorfa o bedwar modfedd neu uwch.  Fel arfer gyda gwrthychau pell, rhaid cael wybren dywyll er mwyn astudio’r gwrthrych hwn.  Fe ddechreua’r belen sy’n llawn sêr gydrannu’n llawn gydag agorfeydd mwy ac mae’n edrych yn drawiadol trwy delesgop 12 modfedd.  Nid yw’n rhyfedd ei fod yn olygfa arbennig gan fod y clwstwr crwn hwn yn cynnwys hyd at hanner miliwn o sêr. 

Mae wedi’i leoli 34,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd o’r Ddaear, a chredir iddo fod yn un o wrthrychau hynaf y bydysawd.  Defyddiwch olwg dargyfeiriedig er mwyn amlygu mwy o sêr yn ei graidd.