Golwg ar Wybren y Nos – mis Gorffennaf 2023

Golwg ar Wybren y Nos – mis Gorffennaf 2023

01st Gorffennaf 2023

Mae mis Gorffennaf yn gyfnod hyfryd i fynd allan ac i edrych i fyny – gwnewch y mwyaf o nosweithiau cynnes yr haf a mwynhewch olygfa gwrthrychau’r nos gyda’r llygaid noeth,  neu gydag ysbienddrych a thelesgop.

Fe fydd y tywyllwch seryddol yn dychwelyd ar y 25ain o Orffennaf yn ystod oriau mân y bore (1.34yb-3.39yb) ar gyfer syllwyr y sêr sy’n hoffi chwilio am ‘wrthrychau aneglur’ a gweld y Llwybr Llaethog yn ei holl ogoniant.  Edrychwch tua’r de-orllewin ar ôl 1.30yb a chwiliwch am fand o sêr gwan sydd fel bwa yn yr wybren – y tywylla y bo’r wybren, po gorau’r manylder y gwelwch.

Cytserau mis Gorffennaf

Yr amser gorau yn y nos i edrych ar wybren y nos yw oddeutu hanner nos, pan fydd Yr Alarch ac Ercwlff yn eu lleoliadau gorau.  Fe ellir gweld Sgwâr Pegasus yn codi yn y dwyrain a’r Forwyn yn machlud yn y gorllewin.  Fe ellir gweld cytserau Ophiuchus ac Aquila yn y de, gyda’r Saethydd yn isel ar y gorwel.

Mae dal amser i gael cipolwg ar y cymylau notilucent.  Er i’r tymor fod ychydig yn dawel hyd yn hyn, mae canfod cymylau’r nos llachar hyn, wedi’u lleoli yn y mesoffer, yn anodd dros ben ac efallai y cawn weld arddangosfa hyfryd eto.

Fe allwch lawrlwytho map o’r cytserau a gellir ei brintio oddi yma

(clod:  Dominic Ford, awdur in-the-sky.org)

Fe fydd y Lleuad Lawn yn digwydd ar y 3ydd o Orffennaf a’r Lleuad Newydd ar yr 17eg o Orffennaf.

Y Planedau

Y Blaned Gwener

Yr amser gorau i weld y blaned Gwener yw ar ôl iddi fachlud yn ystod dechrau’r mis – edrychwch tua’r gorllewin a chwiliwch am wrthrych llachar sy’n debyg i seren ger  y gorwel.  Mae’r blaned Gwener ar ei chilgant ac mae’n werth edrych ar y blaned hon trwy delesgop.  Yn ystod wythnos gyntaf y mis, fe fydd y blaned Mawrth a’r blaned Gwener yn pasio’n agos iawn at ei gilydd.

Delwedd:  Gweddau’r blaned Gwener gan Statis Kalyvas –  rhaglen VY-2004

Y Blaned Mawrth

Mae’r blaned hon wedi’i lleoli’n dda yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf – mae hefyd yn isel ar y gorwel gorllewinol ac yn ymddangos yn y cyfnos. 

Ar y 10fed o Orffennaf, ceisiwch weld Regwlws, sef seren yng nghytser y Llew yn union o dan y blaned Mawrth.  Yr amser gorau i weld hwn yw awr ar ôl y machlud.  Mae’r cysylltiad Mawrth-Regwlws yn digwydd oddeutu unwaith bob dwy flynedd.

Y Blaned Iau

Yr amser gorau i weld y blaned Iau yw yn ystod ail hanner y mis – mae’n codi yn y dwyrain oddeutu 2yb ar ddechrau’r mis a hanner nos tuag at y diwedd.

Y Blaned Sadwrn

Mae’n codi yn y dwyrain am hanner nos ar ddechrau’r mis a 10.15yh ar y diwedd. 

Ar y 7fed o Orffennaf, i’r rhai ohonoch sy’n hoffi aros i fyny’n hwyr, fe fydd y Lleuad a’r blaned Sadwrn yn ymddangos yn agos at ei gilydd; gyda’r Lleuad yn pasio 4 gradd i’r de o’r blaned.  Edrychwch tua’r de-ddwyrain oddeutu 1yb.  Fe allwch weld hwn gyda’r llygaid noeth ac os oes gennych chi delesgop, edrychwch ar gylchau y blaned Sadwrn a rhai o’i lleuadau.

Gwrthrychau’r Wybren Bell

M11 Clwstwr yr Hwyaden Wyllt
RA: 18h 51m 05.0s | Dec −06° 16′ 12″

Fe all y clwstwr agored hwn fod ychydig yn heriol i’w ddarganfod, felly chwiliwch am wybren dywyll, i ffwrdd o ganolfannau poblog.  Os ydych yn gallu gweld hwn, llongyfarchiadau i chi, gan mai hwn yw’r gwrthrych pellaf y gallwch weld gyda’r llygaid noeth.  Mae’n ymddangos fel cwmwl gwan gyda’r llygaid noeth ond trwy ysbienddrych, fel allwch weld y darn gwan o olau mewn mwy o fanylder.  Dim ond trwy delesgop y byddwch yn gallu gweld y sêr ar wahân, sy’n eithaf tebyg i’r ddelwedd ar y dde.  Mae Messir 11 6,197 o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthym.

Messier 13 – y clwstwr mawr yn Ercwlff
RA 16h 41m 41s | Dec +36° 27′ 35″

Dau wrthrych nodedig yn yr wybren bell  yw’r Clwstwr Mawr syfrdanol yn Ercwlff (M13) a M92, y ddau yn glystyrau crwn sydd 22,180 a 26,740 o flynyddoedd golau i ffwrdd yn ôl eu trefn.  Mae M13 yn cynnwys 300,000 o sêr a M92, oddeutu 330,000. 

Er bod M13 yn fwy llachar, ac yn cynnwys ychydig yn llai o sêr na’i gymydog, mae ganddo dwbl y radiws ac mae’n agosach i ni.  Fe allwch ddarganfod y ddau glwstwr hyn gydag ysbienddrych, yn ymddangos fel gwrthrychau aneglur a thrwy delesgop fe allwch weld sêr unigol sy’n edrych yn debyg i glwstwr disglair o ddiemyntau.