Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar yr hyn sydd i’w weld yn wybren y nos ar gyfer mis Mai.
Ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan, mae’n nosi oddeutu 11.15yh. Ar y 19eg o fis Mai, mae sêr-dywyllwch yn gorffen a chyfnos haf gydol nos yn dechrau, sy’n golygu bod y Llwybr Llaethog a gwrthrychau wybrennol pellach yn fwy anodd i’w gweld.
Golygfa wybren gyfan o’r cytserau o 12yb ym mis Mai, yn ôl in-the-sky.org
Yn wynebu’r de o hanner nos, fe welwch gytserau y Forwyn, y Fantol, Boötes a Corfws. Mae’r Llew a’r Cranc yn gorymdeithio tua’r gorllewin a’r Efeilliaid yn dechrau ymddangos ar y gorwel dwyreiniol. Mae cytserau’r haf sef Corona Borealis, Ercwlff a Thelyn Arthur wedi’u lleoli’n dda yn y dwyrain, gyda’r Alarch, Offichws, Sagitta ac Acwila yn codi ar y gorwel dwyreiniol.
Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 12fed o Fai a’r Lleuad Newydd ar y 27ain o Fai.
Y Planedau ym mis Mai
Mae’r blaned Gwener ar hyn o bryd yn wrthrych oriau mân y bore, yn codi am 4.24yb ar ddechrau’r mis a 3.25yb ar y diwedd. Ni allwch ei cholli gan ei bod yn ymddangos fel seren lachar yn y dwyrain. Os oes gennych delesgop wrth law, ceisiwch edrych arni cyn i’r Haul fachlud gan y byddwch yn gallu ei gweld yn ystod cyfnod ar gynydd. Er mwyn ei gweld, fe fydd angen telesgop 3 modfedd gyda oddeutu 120x o chwyddiad.
Ar y 1af o Fehefin, fe fydd y blaned Gwener ar ei hestyniad gorllewinol mwyaf.
Mae’r blaned Sadwrn yn wrthrych boreuol ac yn codi yn y dwyrain am 4.50yb ar ddechrau’r mis a 2.50yb ar y diwedd.
Mae’r blaned Iau yn ymddangos yn isel yn yr wybren orllewinol ac yn machlud am 11.45yh ar ddechrau’r mis, ac ar y 23ain o Fai fe ellir dal i’w gweld yn isel iawn ar y gorwel gogledd-orllewinol, yn machlud am 10.30yh. Ar ôl hynny, fe fydd yr wybren yn rhy ddisglair i’w gweld.
Mae’r blaned Mawrth yn ymddangos yn uchel ar y gorwel de-ddwyreiniol ar ddechrau’r mis, yn machlud oddeutu 2.40yb ar y 1af o Fai a 1.30yb ar yr 31ain o Fai.
Ar y 23ain o Fai, fe fydd cysylltiad y Lleuad, y blaned Gwener a’r blaned Sadwrn – y cyfan wedi’u lleoli’n isel ar y gorwel ddwyreiniol. Fe fydd y Lleuad yn ymddangos fel lleuad gilgant tenau ac fe ellir gweld llewyrch daear neu ‘tywyn llwydaith’ ar ei hwyneb cysgodlon.
Gweld Lleuad X a Y
Ar y 5ed o Fai, fe allwch weld Lleuad X! Mae hwn yn effaith arbennig sy’n cael ei greu gan olau’r haul yn tasgu oddi ar ochrau craterau’r Blanchinus, Purback a La Caille. Fe ellir gweld hwn yn ystod oriau mân y bore am 1.14yb. Sganiwch drydydd deheuol llinell derfyn y Lleuad hyd nes i chi weld ‘X’ yn dod i’r golwg. Symudwch tua’r gogledd ar hyd y llinell derfyn bron hanner ffordd i fyny ac fe welwch ‘V’ yn ymddangos yn y sylladur.
Cytser y Mis
Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.
Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.
Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.
Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.
Cytser y Mis – Corfws
Cytser bach yw Corfws sy’n gorwedd yn isel ar y gorwel deheuol rhwng mis Mawrth a mis Mehefin.
Mae’r trapesiwm o sêr yn cynrychioli’r frân â phlu gwyn neu gigfran a oedd yn perthyn i Apollo yn ôl mytholeg Roegaidd.
Roedd Apollo yn amheus o un o’r Coronis, un o’i gariadon, gan orchymyn i’w frân anwes cadw llygaid arni a’i hatal rhag fynd yn rhy gyndyn.
Fe ufuddhaodd, ond un diwrnod, fe wnaeth Coronis syrthio mewn cariad gyda Ischys, a oedd yn ddynol ond methodd Corfws ag atal hyn. Fe wnaeth adrodd hyn yn ôl i Apollo, a aeth yn gynddeiriog gan losgi ei adenydd yn ddu fel cosb – gan greu chwedl pam fod gan gorfids blu du.
Roedd y Babyloniaid hefyd yn cysylltu’r cytser hwn â MUL.UGA.MUSHEN, yn gysylltiedig ag Adad, sef duw y glaw a stormydd.
Cytser ‘Porth i’r Sêr’
RA: 12 h, 35 m, 59 s | DEC: -12° 03′ 09″
Casgliad o sêr yw cytser sydd wedi ffurfio i wneud patrwm cyfarwydd – dyma sut yr ydym yn dysgu am gytserau wybren y nos. Mae rhai cytserau yn cael eu creu am hwyl ac yn gallu ychwanegu ychydig o ysgafnder wrth chwilio am wrthrychau pell. Mae rhai yn debyg i rifau, llythrennau, gemwaith, prennau hongian cotiau a hyd yn oed porth i’r sêr!
Wedi’i leoli rhwng cytserau Corfws a’r Forwyn, mae siap y cytser hyn yn anarferol yn geometrig ac yn ddiweddar fel gafodd ei enwi ar ôl porth i’r sêr yn y rhaglen deledu ffuglen wyddonol o’r 70au ‘Buck Rogers in the 25th Century’. Nid yw hwn yn glwstwr o sêr agored ac mae pellter anferth rhwng y pum seren ac nid ydynt yn yr un ‘gymdogaeth’.
Mae’r cytser hwn yn cynnwys chwe seren ac maent rhwng 285 a 486 o flynyddoedd golau i ffwrdd.
Clod: Mark Johnston
Dechrau Tymor y Cymylau Noctilucent
Mae mis Mai yn ddechrau ar dymor y Cymylau Noctilucent. Fe’u hadwaenir hefyd fel ‘Cymylau sy’n Disgleirio yn y Nos’, neu gymylau polar mesosfferig, sef rhai sydd wedi’u gwneud o grisialau iâ bychain ac yn eistedd 47 – 53 o filltiroedd yn uchel yn ein hatmosffer.
Mae’r haul yn machlud oddeutu 16 gradd o dan y gorwel gyda pheth o’r golau yn disgleirio i mewn i’r wybren trwy’r nos (sêr-gyfnos). Mae’r goleuni hefyd yn goleuo’r cymylau hyn sy’n gorwedd ar y gorwel gogleddol ac yn tywynnu gyda golau awyrol.
Yr amser gorau i’w gweld yw rhwng 90 a 120 munud ar ôl iddi fachlud neu 90 a 120 munud cyn iddi wawrio.
Mae’r rheswm dros natur y cymylau hyn dal yn ddadleuol, ond mae astudiaethau diweddar wedi ymchwilio i effeithiau allyriad o bibell wacáu y Wennol Ofod, gronynnau llwch o micro-meteorau neu losgfynyddoedd a hyd yn oed y cynnydd diweddar o allyriad methan yn cyrraedd yr atmosffer uwch; mae’r moleciwlau wedyn yn cynhyrchu anweddau dŵr sy’n cyfrannu at arddangosfeydd y cymylau.
Yr hyn sydd angen arnoch i’w gweld yw’ch llygaid sydd wedi addasu i’r tywyllwch a dillad cynnes. Cadwch lygaid barcud ar y rhagolygon tywydd, ewch i www.spaceweather.com gan gadw golwg ar y diweddaraf.
Clod: Slava Auchynnikau yn unsplash