Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2023

Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2023

26th Awst 2023

Croeso i’r rhifyn hon o Olwg ar Wybren y Nos, ble mae Tîm Wybren Dywyll Cwm Elan yn dewis eu hoff wrthrychau er mwyn eu hastudio yn wybren dywyll mis Medi gyda’r llygaid noeth, ysbienddrych neu delesgop.

Mae’r haul yn machlud oddeutu 8yh yr amser hwn o’r flwyddyn a’r tywyllwch yn disgyn oddeutu 10yh, sydd ddim yn rhy hwyr er mwyn chwilio am wrthrychau’r wybren bell megis galaethau.

Cytserau mis Medi

Mae cystserau’r haf yn parhau ar eu taith i’r wybren orllewinol yn ystod y mis hwn; gyda chytserau Ercwlff a Lyra wedi’u lleoli’n dda.  Mae’r Alarch yn syth i’r de gyda’r Llwybr Llaethog yn ymdroelli trwyddo, tra bod cytser Pegasws, gyda’i glystyrau sêr sgwâr anferth yn codi o’r dwyrain gyda chytser Andromeda yn ei ddilyn. 

Fe allwch lawrlwytho map y cytserau er mwyn ei brintio oddi yma (canmoliaeth:  Dominic Ford, awdur in-the-sky.org)..

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 15fed o Fedi a’r Lleuad Lawn ar y 29ain o Fedi.

Canmoliaeth a Hawlfraint: Dan Bartlett

Comed C/2023 P1 Nishimura

Efallai y cawn ymwelydd arbennig yn wybren y bore cynnar ar ddechrau mis Medi:  Comed C/2023 P1 Nishimura.  Darganfyddwyd ar yr 11eg o Awst gan Hideo Nishimura, ac mae’n agosau at y Ddaear ar y 12fed o Fedi ac efallai y gellir ei gweld yn codi yn y Gogledd-ddwyrain tua 5yb. 

Y cyfle gorau i’w gweld mewn lleoliad da yn yr wybren yw tua 4yb ar yr 2il o Fedi.  Mae’n cyrraedd perihelion, sef pan fydd agosaf at yr Haul, ar yr 17eg o Fedi.  Wrth i ni ysgrifennu, mae ar hyn o bryd yn ddigon llachar i’w gweld gydag ysbienddrych ond fe all fynd yn fwy llachar i’w gweld trwy ysbrienddrych yn ystod wythnos gyntaf mis Medi.  Mae gweithgaredd a disgleirdeb y comedau yn anodd iawn i’w rhagweld felly cadwch lygaid ar adroddiadau a diweddariadau wrth iddynt ddigwydd.

Ar y 5ed o Fedi oddeutu hanner nos, edrychwch tua’r dwyrain ac fe welwch y Lleuad amgrwm gyda’r blaned Iau ar yr ochr dde a Chlwstwr Sêr Pleiades ar yr ochr chwith.  Mae’r blaned Wranws yn gorwedd yn y safle 8 o’r gloch o’r Lleuad ac fe ellir gweld y ddau trwy ysbienddrych.

Mae’r blaned Gwener disglair yn codi oddeutu 4yb ar ddechrau’r mis.  Ar y 12fed o Fedi, ceisiwch ddod o hyd i’r blaned Gwener i’r dde o’r Lleuad ar ei chil;  mae ond wedi’i goleuo 6% ac erbyn 5yb, efallai y byddwch yn gallu gweld llewyrch y ddaear ar wyneb y Lleuad.  Os oes gennych delesgop wrth law, cymerwch gip ar y blaned Gwener – fe fydd y blaned hon hefyd mewn gwedd ac yn 20% llawn, gan edrych fel Lleuad gilgant fach.

Yr amser gorau i weld y blaned Neifion fydd ar y 19eg o Fedi, pan fydd ar ei mwyaf disglair ac yn agosach at y ddaear (Gwrthwyneb).  Mae’n 2.7 biliwn o filltiroedd oddi wrth y Ddaear, fe ellir ond gweld y cawr o iâ trwy delesgop pwerus.  Fe allwch geisio ddod o hyd iddi trwy delesgop 4-6 modfedd ac efallai y bydd yn ymddangos fel disc cyson glas ond fe fydd yn heriol i ddod o hyd iddi.

Ar yr 22ain o Fedi, fe fydd y blaned Mercher ar ei hestyniad gorllewinol mwyaf, sy’n golygu y bydd ar ei phwynt uchaf uwchben y gorwel.  Fe fydd y blaned yn gorwedd yn isel yn yr wybren ddwyreiniol cyn i’r haul wawrio.

Mae Cyhydnos mis Medi yn digwydd ar y 23ain o Fedi, pan fydd yr Haul yn cyrraedd ei hanterth (y pwynt uchaf yn yr wybren) i’r rhai sy’n byw ar hyd cyhydedd y Ddaear.  I’r gweddill ohonom, fe fydd yr unfaint o olau dydd a nos.  Mae hefyd yn ddiwrnod cyntaf yr hydref.

Digonedd o Alaethau

Mae mis Medi yn amser da i astudio nifer o alaethau – mewn gwirionedd, mae’r alaeth agosaf atom yn 2.5 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd.

Galaeth Andromeda (M31)

RA 0h 42m 44s | Dec +41° 16′ 9″

Mae Galaeth Andromeda yn wrthrych hynod a ellir ei gweld gyda’r llygaid noeth mewn wybren wledig, ond yn edrych yn anghredadwy trwy ysbienddrych fel elips diffiniedig da gyda chraidd llachar.  Gyda thelesgop gydag agorfa 8 modfedd neu’n uwch mewn wybren dywyll, efallai y gwelwch awgrym o lwybr llwch tywyll.  Efallai hefyd y gwelwch ddwy alaeth arall, M110 sy’n gorwedd uwchben Galaeth Andromeda, a M32, sef yr elips aneglur islaw.

Galaeth Triangulum (M33)

RA 1h 33m 50s | Dec +30° 39′ 37″

Mae’r Alaeth Triangulum yn 2.73 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd ac wedi’i lleoli yng nghytser Triangulum.  Hon yw’r dryddd alaeth fwyaf yn y Grŵp Lleol, gyda’r un fwyaf, sef Galaeth Andromeda yn cynnwys 1 triliwn o sêr; ein Galaeth y Llwybr Llaethog yn cynnwys 400 biliwn o sêr a’r Alaeth Triangulum yn cynnwys 40 biliwn o sêr.  Efallai y byddwch yn gallu gweld yr alaeth hon gyda’r llygaid noeth mewn wybren dywyll iawn ond fe ellir ei gweld gydag ysbienddrych fel ‘smotyn aneglur’.  Trwy delesgop gydag agorfa o 8 modfedd neu’n fwy, fe allwch ddechrau gweld y breichiau troellog, a fydd yn dod yn fwy amlwg wrth gynyddu maint y telesgop.