Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2024

Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2024

27th Mai 2024

Croeso i ddiweddariad mis Mehefin ar gyfer beth sydd yn wybren y nos y mis hwn.

Fe fydd y nosweithiau mewn cyfnos parahol y mis hwn ond nid yw’n golygu bod syllu ar y sêr wedi dod i ben!  Gellir gweld ambell i gytser ynghyd ag ambell i wrthrych arall.  Mae wybren y nos yn ystod yr haf yn hyfryd i’w weld, gyda glas tywyll, dirgrynol y cyfnos a thywyn tanllyd pelydrau’r haul ar y gorwel.

Mae Heuldro’r Haf yn digwydd ar yr 20fed o Fehefin sy’n dynodi’r oriau hiraf o olau dydd yn y flwyddyn, gyda hemisffer y gogledd ar ei uchaf yn gogwyddo tuag at yr Haul.  Ar y diwrnod hwn, fe fydd golau dydd yn parhau am 17 awr.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Y cytserau sydd drechaf y mis hwn yw Boötes, Corona Borealis a Ercwlff, wedi’u lleoli yn y de.  Ychydig tua’r dwyrain ond wedi’i lleoli’n dda yw Telyn Arthur, gyda’i seren ddisglair Fega. Mae’r Alarch wedi’i lleoli’n dda yn y dwyrain.  Mae’r cytser gwanwynol y Forwyn a’r Llew yn symud tua’r gorllewin. 

Fe fydd y Lleuad Newydd yn digwydd ar y 6ed o Fehefin a’r Lleuad Lawn ar yr 22ain o Fehefin.

Triongl yr Haf

Ceisiwch ddod o hyd i Driongl yr Haf sy’n cynnwys tair o’r sêr fwyaf llachar yn Hemisffer y Gogledd.  Mae’r asterism enfawr yn ymddangos y mis Mehefin wrth iddi ddechrau nosi, ac fel arfer fel y dair seren gyntaf i ymddangos yn wybren y nos ar ôl iddi fachlud.  Y seren fwyaf haws i’w gweld yw Fega, yng nghytser Telyn Arthur.  Nesaf, Altair sydd yng nghytser Aquila sydd wedi’i leoli’n isel tuag at y gorwel dwyreiniol yr adeg hon o’r flwyddyn.  Gellir gweld Triongl yr Haf tan ddiwedd mis Tachwedd ond mae’n fwy hawdd i’w weld gyda chefndir y cyfnos.

Clwstwr Crwn Ercwlff

Cyfesurynnau: RA 16h 41m 41s | Dec +36° 27′ 35″

Gwrthrych anhygoel ond heriol i’w weld yn ystod misoedd y cyfnos yw’r Clwstwr Crwn Mawr yn Ercwlff (M13).  Mae’r gwrthrych llachar hwn yn syfrdanol yn wybren y nos ond mae’n werth edrych amdano ym mis Mehefin. 

Wedi’i leoli yng nghytser Ercwlff, mae’r gwrthrych hwn 25,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthym ac yn cynnwys 300,00 – 500,00 o sêr. 

Os oes gennych delesgop 8 modfedd, fe fyddwch yn gallu gweld gwrthrych niwlog yn wybren yr haf, ond pan fydd sêr-tywyllwch yn dychwelyd, fe fyddwch yn gallu cydrannu’r sêr allanol, ac yn ymddangos fel golau bach maint pigiad pin.  Po fwyaf yw’r telesgop, y mwyaf o sêr y byddwch yn gallu cydrannu.  Dylai hefyd fod yn weladwy trwy ysbienddrych.

Wedi’i rannu gyda chaniatâd caredig Michael Vlasov o www.deepskywatch.com

Cytser y Mis: Ercwlff

Mae cytser Ercwlff wedi’i leoli’n dda y mis hwn ond fe all y cyfnos cymylu’ch golwg ar y sêr mwyaf aneglur yn y cytser hwn.  Y ffordd orau i ddod o hyd i’r cytser hwn yw i chwilio am y sêr mwyaf llachar sef Arcturus yn Boötes a Fega yn Nhelyn Arthur.  Edrychwch am asterism mewn siap maen clo sydd wedi’i leoli i’r chwith o gytser Corona Borealis. 

Enwyd y cytser ar ôl y fersiwn Rhufeinig Ercwlff, sef un o arwyr chwedloniaeth Groeg.  Mae’r darluniad yn ei ddangos yn cario croen llew, sef llew a wnaeth ymosod ar ddinas Nemea – un o 12 Llafur Ercwlff roedd rhaid iddo eu cyflawni er mwyn talu penyd dros ladd ei wraig a’i feibion.

Anfonwyd y ddau neidr yn ei ddwylo i’w ladd yn ystod ei blentyndod gan Hera, a oedd yn genfigennus o unrhyw blant anghyfreithlon a genhedlwyd gan Zews.  Fe lwyddodd i ddinistrio’r nadredd, a ddatgelodd ei nerth arbennig. 

Credir bod y cytser hwn hefyd yn cynrychioli Gilgamesh, sef arwr mytholegol Sumeraidd 4000 o flynyddoedd yn ôl.

Cymylau Noctilwsaidd

Mae mis Mehefin yn ddechrau ar dymor y Cymylau Noctilwsaidd.  Cymylau yw rhain sy’n cynnwys crisialau iâ,  sydd wedi’u lleoli 200,000 troedfedd yn yr atmosffer, ac wedi’u creu gan lwch o losgfynyddoedd, llygryddion a wnaed gan ddyn neu hyd yn oed gronynnau bach meteor o’r gofod.  Mae angen anwedd dŵr hefyd a chredir i hyn darddu o’r tropopaus.  Nid yw’r haul yn machlud yn is na 18˚o dan y gorwel ac felly mae pelydrau’r haul yn parhau i ddisgleirio, gan oleuo’r ‘cymylau sy’n disgleirio yn y nos’ hyn.  Maent yn sgleinio yn las neu’n arian gyda choch yn fwy prin.  Edrychwch amdanynt yn y gorwel gogleddol pan fydd y sêr mwyaf llachar yn dechrau ymddangos. 

Ar y 27ain o Fehefin, fe fydd cysylltiad rhwng y Lleuad a’r Blaned Sadwrn.  Yn rhannu’r un esgyniad i’r dde, fe’u rhennir gan 4’38”.