Golwg ar Wybren y Nos – mis Rhagfyr 2023

Golwg ar Wybren y Nos – mis Rhagfyr 2023

23rd Tachwedd 2023

Croeso i rifyn mis Rhagfyr o Olwg ar Wybren y Nos 2023.  Mae’r tywyllwch yn digwydd ar amser mwy dymunol i bobl hen ac ifanc er mwyn iddynt allu mynd allan a mwynhau wybren y nos – os bydd y cymylau yn diflannu!

Mae heuldro’r gaeaf yn digwydd ar yr 22ain o Ragfyr pan fydd hemisffer y gogledd yn cyrraedd y gogwydd uchaf oddi wrth yr Haul.

Yr Aurora Borealis yng Nghwm Elan, mis Mawrth 2023 ©Sam Price

Gan ein bod yn siarad am yr Haul, mae cynnydd sydyn yng ngweithgaredd solar wedi digwydd eleni, gydag arddangosfeydd anhygoel o’r goleuadau gogleddol hyd yn oed yn lledredau is yn ne Lloegr – fe fydd mwy o gyfle i weld y ffenomen arbennig hon dros y misoedd nesaf.  Fe wnaeth NOAA Space Weather Prediction Center (SWPC) ddatgan yn ddiweddar bod y Cylch Solar 25 presennol, gall gyrraedd ei anterth yn gynt nag a feddyliwyd, a all fod o fewn y deg mis cyntaf 2024.  Mae 11 mlynedd yn y cylch solar a hwn yw’r 25ain cylch ers i gofnodion ddechrau ym 1755.  Mae apiau rhagfynegi dal ar gael a all darparu hysbysiadau o’r amseroedd gorau i’w weld yn eich ardal chi.  Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol, fel arfer, bod gweithgaredd uchel aurora borealis yn brin a bod sioeau cryf yn anodd i’w rhagweld.

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 12fed o Ragfyr a’r  Lleuad Lawn ar y 27ain o Ragfyr.

Cawod o Sêr Gwib Geminids

Mae un o gawodydd sêr gwib mwyaf ysblennydd y flwyddyn yn digwydd rhwng y 4ydd a’r 20fed o Ragfyr, yn cyrraedd ei anterth ar noson y 14eg o Ragfyr ac i fewn i oriau mân y bore ar y 15fed.  Mae cawod o sêr gwib Geminid yn cynnwys sêr gwib lliwgar, cyflym a llachar.  Yn ystod ei anterth, fe all cynnwys hyd at 150 o feteorau yr awr.  Mae’r Lleuad yn gosod am 5yh, gan adael wybren dywyll briodol er mwyn gweld y sioe hyfryd hon cyn y Nadolig.  Fel arfer, gwyddys yr achosir cawodydd o sêr gwib gan falurion dros ben o gomedau wrth iddynt deithio trwy Gysawd yr Haul.  Mae’r Geminids yn unigryw gan fod y malurion wedi dod yn sgil chwydfa o’r asteroid 3200 Phethon.  Fe all yr ofod fod yn le blêr!

Nifwl Orïon

Esgyniad Cywir 5h 35m 17s | Gogwydd -5˚ 23’ 28”

Esgyniad Cywir 5h 35m 17s | Gogwydd -5˚ 23’ 28”

Mae misoedd y gaeaf yn amser perffaith ar gyfer astudio’r Nifwl Orïon ysblennydd, sydd wedi’i leoli yng nghytser Orïon.

Fe ellir ei weld â’r llygaid noeth yn yr wybren dywyll a thrwy ysbienddrych, fe allwch weld darn bach o niwlogrwydd a hyd yn oed rhan o siap y nifwl.  Trwy delesgop, mae’r nifwl yn dechrau ymddangos yn rhyfeddol.  Fe allwch ddefnyddio unrhyw delesgop gydag agorfa o 3 modfedd neu’n uwch – ond po fwyaf yw’r telesgop, y mwya syfrdanol mae’r nifwl yn ymddangos.  Mae hwn yn nifwl gwasgarog, llachar sy’n cynnwys llwch a nwy, cynhwysion ar gyfer feithrinfa serol;  mae arsylwi wedi datgelu oddeutu 700 o sêr o wahanol oedran a ganwyd yn y nifwl rhyfeddol hwn.

Fe fydd chwyddiad cynyddol yn datgelu mwy o drysor yn y nifwl;  Y Clwstwr Trapesiwm.  Mae’n cynnwys pedair seren mewn siap hirsgwar, gan ddod i’r golwg yn sydyn.  Treuliwch beth amser yn astudio’r Trapesiwm a cheisiwch weld os allwch ddod o hyd i sêr ychwanegol a elwir yn sêr E a F.  Efallai y gwnewch ddod o hyd i seren E yn gyntaf, yn dod i mewn ac allan o’r golwg gan ddibynnu ar y twrw yn yr wybren.  Efallai y bydd angen digon o amynedd i ddod o hyd i seren F.

A Christmas Tree in the Sky

NGC 2264 – Clwstwr y Goeden Nadolig

Esgyniad cywir 6h 41m | Gogwydd +9˚53’

Mae’r gwrthrych hwn a elwir yn briodol ar gyfer y tymor, wedi’i leoli yng nghytser Monoceros ac yn cynnwys dau wrthrych:  Clwstwr y Goeden Nadolig a’r Nifwl Cone.  Wedi’i leoli 2,350 o flynyddoedd golau i ffwrdd, mae’r clwstwr agored yn cynnwys casgliad llac o sêr ifanc ac o’n perspectif ni, yn ymddangos fel coeden Nadolig.  Mae’r Nifwl Cone yn edrych bron fel ail goeden Nadolig, gyda choeden mewn ffurf nifwl â seren ar y brig. 

Wedi’i leoli 2,700 o flynyddoedd golau i ffwrdd, mae’r nifwl tywyll yn cynnwys llwch a nwy dwys sy’n ardal berffaith ar gyfer ffurfio sêr newydd.  Fe fydd angen telesgop gydag agorfa o 8 modfedd mewn wybren dywyll i ffwrdd o lygredd golau er mwyn gweld y gwrthrychau hyn gan eu bod yn fach.

Cysylltiad y Lleuad a’r Blaned Gwener

Ar fore’r 9fed o Ragfyr edrychwch tua’r de-ddwyrain ac fe welwch y blaned Gwener ar ochr chwith y Lleuad ar gynnydd, wedi’i gwahanu gan 3˚38’.  Fe fyddant yn codi am 4yb ac wedi’u lleoli’n dda erbyn 7yb, wrth iddi ddechrau oleuo.

Y Blaned Mercher

Yr amser gorau i weld y blaned Mercher yw yn y bore ar y 31ain o Ragfyr, tua awr cyn y wawr yn y de-ddwyrain – fe fydd yn agos iawn at y gorwel.

Y Blaned Gwener

Mae’r Blaned Gwener yn parhau i ymddangos fel planed lachar, foreol yn ystod y mis, yn codi am 4yb ar ddechrau mis Rhagfyr a 5.15yb ar y diwedd.

Y Blaned Iau

Y Blaned Iau – mae’r brif blaned hon yn parhau i fod yn llachar ac wedi’i lleoli’n dda yn ystod nosweithiau mis Rhagfyr ac yn uchel yn yr wybren ddwyreiniol wrth iddi ddechrau nosi.

Y Blaned Sadwrn

Yr amser delfrydol i astudio’r Blaned Sadwrn yw yn rhan gyntaf y mis, ond yn ddiweddarach mae’n dechrau gorwedd yn agos i’r gorwel gorllewinol gan ddechrau machlud yn gynharach yn y noson.

Y Blaned Wranws

Dylai fod yn hawdd gweld y blaned o iâ enfawr, egwan gan ei bod yn gorwedd ger y blaned Iau yn ystod mis Rhagfyr.  Edrychwch am smotyn bach gwyrdd, aneglur oddeutu 3 gradd o bellter oddi wrth y blaned Iau, ac fe ellir ei gweld trwy ysbienddrych neu delesgop bach.

Y Blaned Neifion

Mae’r blaned Neifion wedi’i lleoli o dan dalaith clwstwr y Pysgod, a gellir ei gweld trwy ysbienddrych neu delesgop bach.

Hoffai tîm Wybren Dywyll Cwm Elan ddymuno Nadolig Llawen i bawb, gan obeithio y cewch yr amser i fynd tu allan ac i fwynhau wybren y nos dros y Nadolig.