Dydd Gwener 27 Mawrth 6-11yh a Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2026 11yb-11.30yh
Hwyl a sbri i’r teulu oll!
Penwythnos bythgofiadwy o weithgareddau a pherfformiadau llawn sêr yn un o’r lleoliadau gorau yn y byd i syllu ar y sêr.
Bydd Cwm Elan yn cynnal dwy noson a diwrnod o weithdai, gweithgareddau a pherfformiadau sy’n dod ag awyr y nos yn fyw. O sioeau planetariwm, i deithiau cerdded bywyd gwyllt, cyngherddau a syllu ar y sêr, mae gennym raglen o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran.
Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn gwahanol safleoedd ar draws Elan a Rhaeadr Gwy, mae rhai digwyddiadau’n rhai galw heibio a bydd angen tocynnau ar gyfer eraill. Gweler manylion y rhaglen lawn isod.
Rhaglen lawn yma!
Dydd Gwener 27 Mawrth
Taith gerdded creaduriaid nosol
Taith nos Awyr Dywyll ‘Beicio gyda Pippa’
Cyngerdd yng Ngolau’r Sêr gyda Toby Hay a Holly Blackshaw
Sesiwn galw heibio Syllu ar y Sêr
Dydd Sadwrn 28 Mawrth
Taith i’r Gofod: Awyr Dywyll Elan
Sioeau Planetariwm: Cysawd yr Haul | Clystyrau Celtaidd a Methodoleg | Adrodd straeon o dan y sêr
Taith gerdded adar, ystlumod a gwyfynod nosol
