Addysg Awyr Dywyll
Fel Parc Awyr Dywyll Ryngwladol balch, rydyn ni wrth ein boddau’n siarad am ryfeddodau awyr y nos.
Rydym bellach yn cynnig amrywiol becynnau addysgiadol ar gyfer grwpiau plant (Cyfnodau Allweddol 1 a 2) sy’n byw ym Mhowys:
Arddangosfa gyda gweithgareddau amrywiol ar thema’r gofod:
Byddwn ni’n rhoi sgwrs am Barc Awyr Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan, beth yw llygredd golau a’r hyn y gallwn ei weld yn awyr y nos.
Sioeau Planetariwm yn seiliedig ar y pynciau canlynol:
Cysawd yr Haul
Dynolryw yn y Gofod
Yr Haul
Beth Sydd yn y Awyr y Nos
Mytholeg am y Cytserau
Rydym yn codi swm bach am ein gwasanaethau i dalu ein treuliau, fel costau teithio a staff.
Gweithgareddau Awyr Dywyll ym Mwlch Cwm Clyd
Rydym hefyd yn cynnig syllu ar y safle trwy delesgopau a sgwrs fer am hanfodion seryddiaeth ar gyfer eich taith breswyl i ysgolion ym Myncws Cwm Clyd.
Adnodd Addysgiadol Elan Links
Fel rhan o gynllun Elan Links rydym wedi datblygu adnodd addysgiadol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu gwahanol sy’n ymwneud â gorffennol, presennol a dyfodol Elan, gan gynnwys defnydd gynaliadwy o ddŵr, y dyffrynnoedd coll, newid hinsawdd ynghyd â chelf.
Mae’r adnodd traws cwricwla wedi’i anelu at Flynyddoedd 6 a 7 ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, yn amgylchedd stepen drws y myfyriwr neu yng Nghwm Elan ei hun. Mae ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim trwy’r cysylltau isod