Cynllun Gweithredu Cadwraeth Tirwedd

Home » Amdanomi » Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr » Cynllun Gweithredu Cadwraeth Tirwedd

Partneriaeth Tirwedd wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaethy Loteri yw cynllun Elan Links: Pobl, Natur a Dŵrar gyfer ardal Elan.

Mae Elan Links: Pobl, Natur a Dŵr wedi sefydlu gweledigaeth glir ac uchelgeisiol:

“i ddiogelu treftadaeth unigryw ac amrywiol Elan wrth hyrwyddo’r canlyniadau hirdymor i bobl, cymunedau a threftadaeth yn sylweddol.”

Mae’n rhaid i bob cynllun Partneriaeth Tirwedd a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri greu Cynllun Gweithredu Cadwraeth Tirwedd (LCAP) yn ystod y cyfnod datblygu, cyn dechrau’r cyfnod cyflwyno. Mae’r Cynllun Gweithredu yn tynnu’r wybodaeth allweddol am y dirwedd sy’n dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod datblygu at ei gilydd ac yn cyfarwyddo’r cynlluniau ar gyfer y 3, 4 neu 5 mlynedd nesaf – a thu hwnt i gyfnod arian Cronfa Treftadaeth y Loteri.

Maniffesto’r dirwedd ydyw – yn cyfuno gweledigaeth gyffredinol y Cynllun, Asesiad Cymeriad y Dirwedd, yr amrywiol brosiectau sy’n ymateb i ofynion y dirwedd a’r bobl leol a chynaliadwyedd y Cynllun.

Pennod 0 – Cefndir i Bartneriaeth Tirwedd Elan Links

Pennod 1 – Cyflwyniad i Gynllun Gweithredu Cadwraeth Tirwedd Elan Links

Pennod 2 – Deall Ardal Elan Links

Pennod 3 – Datganiad o Arwyddocâd

Pennod 4 – Bygythiadau a Chyfleon

Pennod 5 – Trosolwg o Gynllun Elan Links

Pennod 6 – Cynlluniau a chostau’r Cynllun

Pennod 7 – Monitro a Gwerthuso

Pennod 8 – Cynaliadwyedd ac Etifeddiaeth

Cynllun Datblygu Cynulleidfa Elan Links