Dyddia hanes Cwm Elan yn ôl dros 4000 o flynyddoedd i’r Oes Efydd. Er cyn lleied y boblogaeth yn ystod y cyfnod modern mae’r tirwedd yn amrywiol yn archeolegol.
Ceisia Elan Links ymroi i wrthweithio’r bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu’r dreftadaeth naturiol, hynafol ynghyd â’r adeiladwaith hynafol drwy:
- Adfer a chynnal y safleodd o dreftadaeth
- Cofnodi’r hanes dynol ynghyd â hanesion pobl
Gwarchod Amgylchedd Hanesyddol Elan
Byddwn yn cadw safleoedd hanesyddol ac arteffactau, gan greu cofnod cywir sy’n hygyrch i’r cyhoedd.
Gwella’r Hygyrchedd i Dreftadaeth Adeiladau ac Archeolegol
Byddwn yn gwella mynediad i ymwelwyr i chwe safle hanesyddol: yr argae hanner adeiledig Dol y Mynach,Safle’r Dam busters yn Nant y Gro, Safleoedd “pillbox” yr Ail Ryfel Byd, Gwersyll Gorymdeithio Rufeinig, Cloddfa Cwm Elan, Olion safle ffermio cwningod o’r Oesoedd Canol
Tŷ’r Peirianydd
Byddwn yn adfer byngalo Pen y Garreg o’r 19eg ganrif, cartref peiriannydd y brif argae, felly mae’n agored i ymwelwyr ac artistiaid.
Ffermdy Cwm Clyd
Byddwn yn adnewyddu fferm Cwm Clyd yn y 18fed ganrif i ddarparu llety i grwpiau mawr sy’n dymuno treulio amser yn yr ardal.
Casgliadau Pobl
Byddwn yn creu archif o ddogfennau, atgofion, lluniau ac arteffactau sy’n dathlu gorffennol a chyfoes yr ardal.
Chwaraewch Eich Rhan
Gydol y prosiect ceir nifer o gyfleoedd i wirfoddoli, gan gynnwys:
- Cofnodwch straeon yr ardal
- Archifaeth ac ymchwil
- Rheoli casgliadau
- Gwirfoddolwyr arolygu ansawdd