Mae Cwm Elan yn cynnig cyfle mawr i bobl werthfawrogi natur mewn lleoliad unigryw a hyfryd.
Bydd cynllun Cysylltiadau Elan yn datblygu profiad gwell, mwy pleserus i bobl. Bydd yn cynnig ffyrdd newydd o gysylltu, dysgu a charu Cwm Elan.
Byddwn yn:
- Gwella’r cyfleoedd ar gyfer addysgu, dehongli a gweithio gyda chynulleidfaoedd presennol ynghyd â rhai newydd.
- Hyrwyddo iechyd a lles drwy wella hygyrchedd a chyfleusterau hamdden
Dehongli Elan
Byddwn yn creu arddangosfeydd ac adnoddau newydd i helpu ymwelwyr i brofi Cwm Elan mewn amryw o ffyrdd.
Elan Rhyngweithiol
Byddwn yn datblygu app, gan ddefnyddio meddalwedd GPS, sy’n darparu gwybodaeth am dreftadaeth, gweithgareddau a digwyddiadau sydd ar gael yng Nghwm Elan.
Preswylfeydd Artistiaid
Byddwn yn datblygu Cwm Elan fel canolfan creadigrwydd, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio’r celfyddydau i ddeall, archwilio ac ymgysylltu â natur, dŵr a chynaliadwyedd yn well.
Digwyddiadau arloesol a chysylltiol
Byddwn yn darparu 20 o ddigwyddiadau cymunedol bob blwyddyn, gan gynnig cyfleoedd newydd i fwynhau a deall Cwm Elan, gyda ffocws go iawn ar gysylltiadau pellach â’r cymunedau cyfagos.
Gwneud yn fawr o Gwm Elan
Byddwn yn cynyddu mynediad i’r ardal a chynyddu’r gweithgareddau hamdden sydd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys gwelliannau i’r llwybrau sy’n bodoli eisoes, creu llwybrau newydd, canolfannau ymwelwyr newydd a hyrwyddo Parc Ysgubor Tywyll Cwm Elan.
Chwaraewch Eich Rhan
Gydol y prosiect ceir nifer o gyfleoedd i wirfoddoli, gan gynnwys:
- Teithiau cerdded ac arweinwyr gweithgareddau
- Cefnogi digwyddiadau a stiwardio
- Marchnata a ffotograffiaeth