Mae cydweithio gyda gwirfoddolwyr yn ganolog i lwyddiant rhaglen Cysylltiadau Elan. Cynigir cyfleoedd ar draws rhychwant eang o swyddogaethau, gan gynnwys cadwraeth, archifo, arolygon cyflwr ynghyd â digwyddiadau. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddatlbygiad y strategaeth gwirfoddoli, ac fe fydd yn cynyddu’r nifer a’r amrywiaeth o bobl a fydd yn cyfrannu a phrofi Cwm Elan fel gwirfoddolwyr.
O fewn y prosiect , mae yna amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli. Maent yn cynnwys:
Treftadaeth naturiol
- Cadwraeth
- Gwahanol mathau o rheoli’r tir
- Adfer cynefinoedd
- Monitro bioamrywiol
Treftadaeth diwylliannol
- Cofnodwyr hanes ar lafar
- Ymchwilio ac archifio
- Rheoli’r casgliadau
Treftadaeth adeiledd a hynafol
- Gwirfoddolwyr arolygu cyflwr
- Gweithgareddau a digwyddiadau
Gweithgareddau a digwyddiadau
- Teithiau cerdded ac arweinwyr digwyddiadau
- Cefnogaeth ar gyfer y digwyddiadau
- Marchnata a thynnu lluniau
Dros gyfnod y prosiect, fe fyddwn yn hyrwyddo’r gwahanol gyfleoedd a fydd ar gael ar gyfer gwirfoddoli. I ddarganfod mwy ac i gofnodi’ch diddordeb, ewch i’n tudalen cymrwch ran.