Cyswllt “Tap into It”

Mae “Tap into It” yn rhaglen addysgol a gynlluniwyd gyda’r bwriad o gysylltu ag ysgolion yn lleol ac yn Birmingham. Y nôd yw codi ymwybyddiaeth o ble y maent yn derbyn eu dŵr ynghyd â phwysigrwydd pynciau cynaladwyedd dŵr fel adnodd, ei ddefnydd gyfrifol neu ei brinder. Datblygir rhaglen o weithgarwch a digwyddiadau a fydd yn dathlu agweddau o hanes dŵr Cwm Elan gan feithrin a sicrhau cysylltiadau hir dymor â Birmingham.

Dros y bum mlynedd nesaf byddwn yn ymwneud ag ysgolion yn Birmingham, ynghyd â chynnal digwyddiadau yn yr ardal a fydd yn hyrwyddo hanes dŵr Cwm Elan.

Ein bwriad yw i ymgysylltu â 10,000 o bobl yng nghymunedau Birmingham a Chanolbarth Lloegr er mwyn codi eu hymwyddiaeth o ble y daw eu dŵr.  Fe fyddwn hefyd yn ymgysylltu â 1,500 o blant o 25 ysgol trwy roi gwybodaeth a gweithgareddau, gan gynnwys adnodd dysgu am ddŵr cludadwy.

Lawrlwythwch manylion y prosiect.