Galluogi a grymuso Cwm Elan

Home » Amdanomi » Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr » Profiad ac Addysg » Galluogi a grymuso Cwm Elan

Rhan o’r hyn a wna Gwm Elan yn arbennig yw ei thirwedd dramatig. Mae’n creu’r ymdeimlad o unigedd ac anialdir. Bydd y cynllun hwn yn cynorthwyo’r sawl o fewn ein cymuned leol sydd ar hyn o bryd yn ei chael yn anodd ymweld â Chwm Elan. Cynhelir 20 o weithgareddau arbennigol y flwyddyn er mwyn galluogi pobl i fod yn yr awyr agored ac i ymwneud â’r ardal a’i threftadaeth naturiol, yn ogystal â magu gwerthfawrogiad newydd ohoni.

Fe fydd y prosiect yma yn darparu gweithgareddau addas at bwrpas, sydd wedi eu cyllido. Wedi’u hanelu at grwpiau yn y cymunedau lleol sy ddim ar hyn o bryd yn gallu cysylltu â natur neu sydd angen cefnogaeth er mwyn cael y gorau allan o’u hamser yn yr ardal.

Fe ddaw Tir Coed â’i medrusrwydd arbenigol i arwain y prosiect.  Gobeithir bydd y gweithgareddau yn rhoi hyder i bobl o’r grwpiau digyswllt i ddod yn ôl ac i fwynhau’r safleoedd yn eu hamser eu hunain.  Pob blwyddyn cynhelir 20 diwrnod o weithgareddau addas at bwrpas.  Fe fyddant yn cynnwys:

  • Crefftiau glascoed
  • Antur yn y goedwig
  • Byw yn y gwyllt
  • Adnabyddiaeth o fyd natur
  • Cadwraeth
  • Celf a drama
  • Monitro bioamrywiaeth

Y bwriad yw cynnal 100 o ddyddiau o weithgareddau dros gyfnod y prosiect pum mlynedd, gan gyrraedd 1,200 o unigolion sydd yn ddigyswllt yn y cymunedau lleol.

Lawrlwythwch manylion y prosiect.