Ymunwch â ni yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan i wneud porthwyr adar o eitemau naturiol neu wedi eu hailgylchu i fwydo’r adar yn eich gardd eich hun!
Byddwn ni’n creu dau fath o borthwyr adar: cymysgu hadau â saim a gwasgu’r cymysgedd i mewn i fochyn coed i greu pêl saim; neu orchuddio tiwb papur tŷ bach â menyn pysgnau a’i rholio mewn hadau. Y rhan anoddaf yw meddwl am y lle gorau i’w gosod nhw!
10.00am – 4.00pm
£3.00 y plentyn (argymhellir bwcio)