Cyfeiriannu

Cyfeiriannu

location icon
03rd December - 31st December 2022, 9:00am - 5:00pm

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod gennym ddau gwrs cyfeiriannu newydd sbon yn cychwyn o’r Ganolfan Ymwelwyr. Bydd y cyrsiau hyn i ddechreuwyr yn eich tywys trwy Goedwig y Cnwch lle cewch fwynhau’r golygfeydd wrth herio’ch meddwl.

Mae’r cwrs byrrach ychydig dros 1km o hyd, ac mae’r cwrs sydd ychydig bach yn anoddach ychydig dros 3km o hyd, ond mae’r ddau yn addas i ddechreuwyr.