Drobwynt

Drobwynt

location icon
22nd September - 22nd September 2023, 10:30am - 8:00pm

22ain Medi 10.30am – 8pm

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae 14 o artistiaid wedi cymryd rhan mewn rhaglen breswylio, gan fyw mewn bwthyn anghysbell yng Nghwm Elan am rhwng un a chwe mis. ‘Drobwynt’ yw’r tro cyntaf y byddant yn dod at ei gilydd, i rannu eu hargraffiadau a gweithio gyda’i gilydd a gyda chymuned ehangach.

Rydym am

-Gynnig cyfle i chi, y gymuned leol ac artistig, weld beth sydd wedi digwydd yn ein rhaglen breswyl dros y chwe blynedd diwethaf.

-Ddod ag artistiaid preswyl y gorffennol ynghyd i ddatgelu eu profiadau unigol a chyfunol yn y tir hwn ac oddi yno.

-Ddechrau sgyrsiau am werth preswyliadau artistiaid a’r celfyddydau mewn cyd-destun gwledig.

Mae gennym nifer cyfyngedig o docynnau cymunedol ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim gyda bwyd a diodydd yn cael eu darparu. Os oes gennych ddiddordeb mynychu anfonwch neges e-bost at rosie.slay@elanvalley.org.uk neu ffoniwch 01597 821 686.