Ffotograffiaeth Awyr Y Nos Ar Gyfer Dechreuwyr Llwyr

Ffotograffiaeth Awyr Y Nos Ar Gyfer Dechreuwyr Llwyr

location icon
16th February - 16th February 2024, 7:00pm

Ydych chi erioed wedi bod eisiau cipio awyr serennog y nos ond ddim yn gwybod ble ar y ddaear i ddechrau?

Ymunwch â ni yn Nhŷ Penbont gyda’r ffotograffydd nos Dafydd Wyn Morgan am noson arbennig iawn yn dathlu awyr dywyll ysblennydd Mynyddoedd Cambria yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2024.

Ar ôl bwffe blasus, bydd Dafydd yn sôn am sut y gallwch chi ddechrau arni wrth gipio rhyfeddodau’r awyr serennog trwy ffotograffiaeth nos; mae’n llawer haws nag yr ydych chi’n meddwl!

Ar ôl hynny, cewch gyfle i flasu rhai cynhyrchion lleol a hyd yn oed fynd â ffotograff portread awyr dywyll arbennig adref os yw’r awyr yn glir.

Ni ddylid colli’r digwyddiad hwn.

Mae archebu lle yn hanfodol:

Cwrdd am 7pm yn Nhŷ Penbont Tŷ Penbont, Cwm Elan, Rhaeadr, Powys LD6 5HS