Dewch i ddathlu Wythnos Wybren Dywyll Rhyngwladol Cymru gyda digwyddiad arbennig yn Nhŷ Penbont. Ar ôl lluniaeth ysgafn, ymunwch â Thîm Wybren Dywyll Cwm Elan wrth iddynt siarad am Barc Wybren Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan ynghyd â’r pethau i’w gweld yn yr wybren dywyll yn ystod y gwanwyn. Os bydd yr wybren yn glir, fe fyddwn yn mynd i fyny i’r Cosmic Cwtsh, sef ein cysgodfan seryddiaeth, er mwyn syllu ar y sêr. Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr. Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer pobl o oed 10 i fyny. £12 y person – mae’n hanfodol i archebu lle. Man cyfarfod yn Nhŷ Penbont.
Noson Wybren Dywyll yn Nhŷ Penbont
25th February -
25th February 2023,
6:30pm -
9:30pm