Ddydd Sadwrn 13 Mai, mae CARAD yn croesawu pum menyw eithriadol i’w gofod theatr yn Rhaeadr i rannu straeon am eu bywydau, a bywydau menywod eraill. Bydd yr awduron lleol, Jay Griffiths a Meltem Arikan, yn dechrau’r digwyddiad gyda sesiwn holi ac ateb a darlleniad. Bydd yr offeiriad storïol Christine Watkins yn ymuno â ni gyda stori am Fenyw Wyllt y Gwy, Angela Jones, a bydd yr artist Kate Green yn rhannu caneuon am nafis, gwrachod ac affêrs y galon. Prif act y noson yw’r perfformiwr awyr a’r actor Kate Hart, gyda’i pherfformiad am fywyd y mynyddwraig arloesol, Emmeline Lewis-Lloyd o Elan.
Mae Jimmy Tuti, cymysgeddolegydd lleol, wedi dylunio bwydlen goctels ar gyfer nos Wener o gwmpas merched pwerus Powys y gorffennol, fel ‘Maer Morgan’, moctêl a enwyd ar ôl Gwenllian Morgan, y maer benywaidd cyntaf yng Nghymru. Mae’r digwyddiad am ddim, ond argymhellir archebu ymlaen llaw.
Daeth y prosiect hwn yn sgil diffyg gwybodaeth canfyddedig am fenywod mewn archifau lleol. Penderfynodd Elan Links a CARAD hudo a dyrchafu straeon menywod lleol, sydd – er yn anodd dod o hyd iddynt – yn bodoli ar yr ymylon.