Ymunwch â ni yng Nghwm Elan i ddarganfod ychydig mwy am y gwaith pori cadwraethol a wnaed gan Brosiect LIFE y Goedwig Law Geltaidd a phartneriaid. Sylwch y bydd rhan o’r digwyddiad yn cynnwys taith gerdded dywysedig o anhawster cymedrol, tua 2km o hyd. O ganlyniad, dylai mynychwyr wisgo’n briodol.
Darperir cinio am ddim i fynychwyr, a dylid nodi unrhyw ofynion dietegol wrth archebu lle ar y cwrs.