Mwynhewch holl deimladau’r coedlannau ar y daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar hon.
Dilynwch eich trwyn, yfwch synau’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas a theimlwch weadau gwahanol y goedwig. Mae Rosie yn hyfforddwr ioga, a bydd y daith gerdded hon yn llawn anadl, symudiad a myfyrdod a byddwch yn teimlo wedi ymlacio ac wedi’ch tawelu.
Bydd hon yn daith gerdded hamddenol ond mae’r dirwedd yn anwastad mewn mannau ac nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Dehongliad BSL ar gael.
Tocynnau ar gael i’w harchebu ymlaen llaw yma.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o SENSE – penwythnos o ddigwyddiadau sy’n archwilio gorffennol a phresennol Elan drwy’r synhwyrau.