Ynni Dŵr

Ffynhonnell ynni adnewyddadwy

Mae’r potensial o gynhyrchu trydan adnewyddadwy allan o’r 199 miliwn o dunelli o ddŵr sy’n cael eu storio yn yr argaeau yn amlwg, ac ers 1997 cynhyrchir ynni dŵr o’r tyrbinau sydd wedi’u gosod ar waelod yr holl argaeau ac un yn Nhŵr y Foel.

Mae’r cyflenwad unigol fel a ganlyn:

  • Claerwen 1680 cilowat
  • Craig Goch 480 cilowat
  • Pen y Garreg 810 cilowat
  • Caban Coch 950 cilowat
  • Tŵr y Foel 300 cilowat

Cyfanswm yr holl gyflenwad ynni yw 4.2 megawat.


Mae’r cynllun ynni dŵr yn defnyddio pump tyrbin Francis er mwyn cynyrchu’r pŵero 415 folt ac sy’n cael ei drawsffurfio ar y safle i 11,000 folt.

Cydgysylltir y safleoedd gan gebl 12 cilomedr, 11,000 folt tanddaearol sy’n diweddu yng Nghaban Coch.  Trawsyrrir y pŵer o Gaban Coch i Raeadr ar hyd gebl 7 cilomedr ble aiff i mewn i’r Grid Cenedlaethol.