Y Rheilffordd

Home » Treftadaeth » Hanes » Y Rheilffordd

Adeiladwyd Rheilffordd Cwm Elan ar gyfer hwyluso’r gwaith o adeiladu argae i Gorfforaeth Dŵr Birmingham.

Rheilffyrdd oedd y prif fath o gludiant ar y pryd. Roedd un yn cludo offer, deunydd a dynion i safleoedd yr argaeau, ymwelwyr o Birmingham a hefyd y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra ar gyfer yr agoriad swyddogol ar 21ain o Orffennaf 1904.

Dechreuwyd y gwaith o adeiladu’r rheilffordd ym 1893 a chwblhawyd y gwaith ym 1896.  Adeiladwyd o ledau rheilffyrdd safonol mewn pedwar rhan.  Roedd cromliniau byr y traciau yn gofyn am locomotif echelydd byr.

Adeiladwyd cyffordd ddwbl i ymuno â Rheilffordd y Cambria ger Rhaeadr.

Archwiliwyd a phasiwyd Llinell Gangen Rheilffordd Cwm Elan gan arolygwr o’r Bwrdd Masnach ym mis Gorffennaf 1894 a dymaddechrau swyddogol cangen Rheilffordd Cwm Elan.

Rheilffordd 4 aeth â’r llwybr i’r argae bellaf, Craig Goch. Bu rhaid ffrwydro hanner ffordd ar hyd y llwybr a dileu’r adeiladu am dri mis, gan roi iddo’r enw ‘Ceunant y Diafol’!

Enwyd y locomotifau ar ôl afonydd a nentydd ar yr Ystâd.  Cafwyd y ddau cyntaf ym mis Ebrill 1894 a’u henwi yn Elan a Claerwen. Ymunodd Nant Gwyllt a Methan gyda rhain yn Hydref 1894, ac yna Rhiwnant a Calettwr yn 1895.

Trawsnewidiwyd y Ganolfan Ymwelwyr o’r hen weithdai ac roedd rhan o’r maes parcio yn safle i sied y locomotifau a’r leiniau aros.

Erbyn 1898 roedd y graddiannau serth 1:33 ar ambell ran o’r rheilffordd wedi achosi niwed i’r locomotifau gwreiddiol, felly prynwyd dau arall, Coel a Marchnant.

Ar ei amser brysuraf roedd gan y rheilffordd 53 cilometr (33 milltir) o drac.  Defnyddiwyd 17 cerbyd er mwyn cludo’r gweithwyr i’w safleoedd gwaith a defnyddiwyd y traciau ar gyfer craeniau wedi’u pweru ag ager, driliau trydan a malwyr.  Ar anterth yr adeiladu symudwyd 1000 o dunelli o ddeunydd bob dydd!

Ym 1906 gwerthwyd locomotifau Gwaith Dŵr Corfforaeth Birmingham ac ym 1908 datgymalwyd Cyffordd Ddwbl Cwm Elan.

Yn olaf caewyd Rheilffordd Cwm Elan ym 1916.

Yn 2004, i ddathlu canmlwyddiant agor yr argaeau, fe lwyddon i ddod â’r unig locomotifi oroesi (Rhiwnant) yn ôl i Gwm Elan o berchennog preifat yn Ne Ddwyain Lleogr.

Heddiw, fe allwch ddilyn hen lwybr y rheilffordd ar Lwybr Cwm Elan, sy’n ymestyn am 13 cilomedr (8 milltir) o Gwmdauddwr (tu allan i Raeadr) i argae Craig Goch.  Mae hwn yn cydrhedeg â phedwar argae gyda golygfeydd godidog, a gellir ei ddefnyddio gan gerddwyr, seiclwyr, merlotwyr a’r rhai llai abl.

Ceir mwy o wybodaeth am reilffordd Cwm Elan yn llyfr C.W. Judge ‘The Elan Valley Railway’, a gyhoeddir gan Oakwood Press. (ISBN: 9780853615170)