Creu Argaeau ac Arbed y Dderwen Ddi-goes: Mae ein Gwirfoddolwyr yn Wych!

Creu Argaeau ac Arbed y Dderwen Ddi-goes: Mae ein Gwirfoddolwyr yn Wych!

02nd Tachwedd 2026

Y mis hwn, ochr yn ochr â’r gwirfoddolwyr arferol, fe gawsom y pleser o groesawu yn ôl, Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth a Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prifysgol Birmingham.  Diolch, fel arfer, am eich holl waith gwych!

Ymunodd grŵp Aberystwyth yn gyntaf, a wnaeth ein helpu i wneud bwndiau gwlân.  Fe fydd rhain yn cael eu defnyddio yn nes ymlaen i greu ‘argae gollyngol’ er mwyn cefnogi ein hymdrechion parhaus i adfer y mawndiroedd.

Mae’r dasg yn cynnwys llenwi rhwydi coir 3 metr mewn hyd  â chnu defaid.  Fe weithiodd y myfyrwyr yn hynod o effeithlon, yn bennaf yn gweithio mewn parau a phacio o’r ddau ben ar yr un pryd.  Cyn pen dim, roedd y rhwydi coir wedi’u llenwi ac yn barod i fynd ar ein mawndiroedd.  Diolch, Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth!

Y penwythnos canlynol, fe wnaethom groesawu Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prifysgol Birmingham, a arhosodd ym myncws Cwm Clyd.  Ar y dydd Sadwrn, fe wnaeth y gwirfoddolwyr helpu Hsin, ein cynorthwydd swyddog y mawndir, gydag arolygon dyfnder y mawndir.  Roedd hyn yn golygu gweithio mewn parau er mwyn mesur dyfnder y mawn mewn mannau penodol.  Fe wnaeth y gwirfoddolwyr gwaith ardderchog gan arolygu 10 ardal, cymorth mawr i’n tîm mawndir. Fe fydd y data hwn yn llywio dulliau adfer mawndiroedd yn y dyfodol. 

Ar ddydd Sul, fe wnaethom gwrdd â’r grŵp eto ar gyfer sesiwn cael gwared ar rywogaethau ymledol .  Ar gyfer y dasg hon, fe weithion ni mewn bloc o hen goedwig a gafodd ei thorri’n glir sawl blwyddyn yn ôl, ac sydd bellach wedi ei gadael er mwyn i’r Goedwig Law Geltaidd adfywio’n naturiol.  Mae nifer o goed derw ddi-goes yn tyfu yn y bloc yma bellach; fodd bynnag, maent yn cael eu hamgylchynu gan byrwydden Sitca sydd wedi tyfu o hadau a adawyd ar ôl gan weithgarwch coedwigo blaenorol.  Fe ddefnyddiodd y gwirfodolwyr llifiau tocio er mwyn torri’r pyrwydden Sitca gan greu gofod i’r coed derw ifanc i dyfu ac i ffynnu. Fe gliriodd y gwirfoddolwyr nifer fawr o goed Sitca ac rydym yn hynod o ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled.  Diolch Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prifysgol Birmingham!

Fe gafodd ein gwirfoddolwyr o Birmingham amser arbennig yn ein byncws.  Ar y nos Wener, fe gawson nhw wybren glir gan dreulio amser yn syllu ar y sêr yn ein Parc Rhyngwladol Wybren Dywyll.  Ar y nos Sadwrn, fe wnaethon nhw goginio cawl cynnes cyn mynd allan i’r awyr agored i chwarae gemau a thostio malws melys o gwmpas y tân.  Cadwyd y tanau llosgi pren ynghyn i’w cadw’n gynnes a chlud rhag y nosweithiau oer.  Mae gan Gwm Clyd le i grwpiau hyd at 21 a gellir ei logi’n uniongyrchol trwy ein gwefan.  Fe allwn hefyd drefnu tasgiau gwirfoddoli pwrpasol os hoffech chi gymryd rhan!

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn am haelioni’n ffermwyr tenant, a adawodd y myfyrwyr i weithio yn eu hysgubor ac ar eu tir, ynghyd â defnyddio’u cyfleusterau.  Fe wnaethant mwy na’r disgwyl er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn cael amser bythgofiadwy.  Yn ychwanegol, hoffwn ddiolch i dri cyd-weithiwr o’r Arolwg Ordnans a ddefnyddiodd eu diwrnod gwirfoddoli yn y gweithle i ymuno ag un o’n sesiynau gwirfoddoli rheolaidd y mis hwn – roedd yn hyfryd eich cael gyda ni.

Nid ydym yn gallu diolch yn ddigon i’n gwirfoddolwyr, ond rydym yn ceisio’n gorau!  Fel arwydd o’n gwerthfawrogiad hoffwn wahodd ein gwirfoddolwyr i ymuno â ni am ginio yn y Lost Arc ar ddydd Iau, 26ain o Dachwedd am 1:00 yp.  Os ydych chi wedi gwirfoddoli gyda ni eleni ac eisiau mynychu, arwyddwch yma:  Digwyddiad Diolch i Wirfoddolwyr Gaeaf Ymddiriedolaeth Cwm Elan.

Gobeithiwn eich gweld yno!

Diolch

Olivia
Swyddog Ymgysylltu â Gwirfoddolwyr