A oedd Aethnen unwaith yn nodwedd bwysig yng Nghwm Elan?
Fe wneth Dr Jenny Wong, ymchwilydd coed o Brifysgol Bangor, gysylltu â ni eleni. Mae Jenny a’i gŵr Bryan wedi ceisio profi bod Aethnen, Populus tremula, unwaith wedi tyfu’n helaeth, nid yn unig ar fynyddoedd Eryri, ond hefyd mewn ardaloedd yr ucheldir fel Cwm Elan.

Adnabyddir yr Aethnen gan ei deiliant disglair a sŵn siffrwd y dail mewn awel gref sy’n eithaf nodedig. Mae coesynnau’r dail wedi’u fflatio ac yn hyblyg ger llafn y ddeilen, sef y rheswm bod y dail yn siffrwd yn hawdd. Mae’r dail ifanc yn gochfelyn cyn troi’n wyrdd, yna troi’n felyn dirgynol cyn disgyn yn yr hydref. Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd i weld y coed o bellter yr amser hon o’r flwyddyn.
Mae’r Aethnen yn tyfu mewn cytrefi clonaidd – mae’r ‘fam’ goeden yn codi cytrefi mawr o goed sydd yr un fath yn genynnol trwy grachgoed. Gall pob coeden unigol fyw am 40 – 150 o flynyddoedd uwch y tir, ond fe all system gwreiddiau’r cytrefi fyw’n hir iawn, efallai dros fil o flynyddoedd.

Mae Jenny yn credu bod coedwigoedd Aethnen unwaith yn nodwedd bwysig yn ucheldiroedd Cymru, ond bod pori defaid eang dros gannoedd o flynyddoedd wedi eu gwaredu, gydag ond cytref bach ynysig wedi goroesi ar allfrigoedd creigiog. Credir bod cymunedau o lystyfiant amlwg, gydag efallai cydosodiadau unigryw o wahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, nas gwelir yn hawdd mewn llenyddiaeth gwyddonol, oherwydd bod y cymunedau yn anhygyrch ac felly’n anodd iawn i’w cofnodi.
Y llynedd, fe wnaeth Dr Tim Rich, tra’n chwilio am Sobus anglica ‘English Whitebeams’ (gweler cylchlythyr mis Medi), gofnodi aethnen yng Nghaban Coch. Fe ddringodd Jenny a’i gŵr Bryan y creigiau hyn ym mis Medi gan ail-ddarganfod y ‘goeden’ a oedd yn druenus ei chyflwr yn sgil sychder eleni. Roeddem fel grŵp, gyda chyngor Sorcha Lewis a cheidwaid Dŵr Cymru, yn gynharach yn y flwyddyn, wedi darganfod cytrefi yng Nghoetir Llanerchi ac mewn mannau eraill. Mae’n bosibl bod y cytrefi hyn wedi’u plannu’n wreiddiol ac felly samplau DNA yw’r cam nesaf.

Gyda phwysau cenedlaethol i blannu mwy o goed a fforestydd, a newid hinsawdd yn achosi tanau a chynnydd mewn clefydau coed a phla, mae angen plannu amrywiaeth eang o rywogaethau o goed. Mae hefyd tystiolaeth bod y tanau gwyllt yn Ne America a Chanada braidd wedi cyffwrdd â choedwigoedd aethnen, a’u bod yn dangos rhyw fath o ymwrthiad.
Mae’n debyg felly bod gennym rywogaeth brodorol i blannu (yn addas) yng Nghwm Elan ac efallai y byddwn yn adfer yr aethnen yn y cwm.
Fiona Gomersall
Ecolegydd
