Doldir

Home » November 2022 » Page 4

Glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yng Ngwm Elan

Yn ychwanegol at gynefinoedd nodedig bywyd gwyllt eraill, mae Ystâd Cwm Elan yn cynnwys rhai o esiamplau gorau a phwysig o laswelltiroedd asidig a niwtral sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yng Nghymru.  Canolbwyntir y glaswelltiroedd yma o fewn saith clwstwr o ddoldir ar ymylon yr uwchdiroedd a thir pori, wedi’u lledaenu dros 20 cilomedr o’r cwm. 

Mae’r tirwedd amrywiol, hinsawdd a’r defnydd hanesyddol o’r tir yng Ngwm Elan wedi helpu i greu y gyfres o ddolydd ar ymylon yr uwchdiroedd sydd â nodweddion nodedig iawn, a thiroedd pori sydd â digonedd o rywogaethau sy’n anghyffredin yn genendlaethol, a rhywogaethau sy’n diflannu megis y gwyddlwyn mawr (Sanguisorba officinalis), Fioled y Mynydd (Viola lutea), Gall ail genhedlaeth fach ddigwydd mewn rhanbarthau cynhesach.iola lutea), ffacbysen y coed (Vicia orobus), tegeirian llydanwyrdd mawr (Platanthera chlorantha) a’r tegeirian pêr (Gymnadenia conopsea).  Mae presenoldeb ychwanegol rhywogaethau megis cneuen y ddaear (Conopodium majus) a rhywogaeth y coetir megis clychau’r gog (Hyancinthoides non-scripta) a blodau’r gwynt (Anemone nemorosa) yn gwahanu’r glaswelltiroedd hyn oddi wrth gymunedau glaswelltiroedd niwtral yr iseldiroedd “nodweddiadol”. 

Yn gymaint ag y mae ymarferion cyfoes ffermio wedi lleihau  maint y glaswelltiroedd-blodau gwyllt yng nghefn gwlad ehangach, mae parhad y dulliau traddodiadol o ffermio o fewnbwn isel yng Nghwm Elan wedi cynorthwyo’r glaswelltiroedd hyn i oroesi.  Mae hyn yn rhannol oherwydd y cyfyngiadau hanesyddol yn y defnydd o wrtaith artiffisial a rheolaeth pori o fewn yr Ystâd er mwyn cynnal purdeb y dŵr yn y cronfeydd dŵr.  Yn fwy diweddar, mae’r esiamplau gorau o’r glaswelltiroedd sy’n llawn o flodau gwyllt wedi ennill gwarchodaeth pellach yn sgil eu dynodiad fel Safloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI’s).  Ar hyn o bryd mae glaswelltiroedd yma yng Nghwm Elan yn cynrychioli sylwedd gwerthfawr o’r SSSIs Cymreig sydd wedi eu dynodi am eu glaswelltiroedd niwtral sy’n llawn o rywogaethau.

Mae’r glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau o fewn Cwm Elan yn amrwyiol iawn, pob un yn arbennig yn ei ffordd ei hun.  Mae deareg, math o bridd, uchder a hinsawdd i gyd yn cyfuno i creu cyfres o amodau unigryw ar gyfer gwahanol math o laswelltir i ddatblygu.  Yn nhermau’r Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (National Vegetation Classification – NVC) cymunedau planhigion, mae’r glaswelltiroedd yma sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yn bennaf yn nodweddiadol gan y glaswelltiroedd MG5a-math (Lathyrus pratensis is-gymuned) ar y pridd niwtral o ansawdd gwell, gyda chellïoedd llai sy’n ychydig yn fwy asidig MG5 (Danthonia decumbens is-gymuned) ac U4c (Lathyrus montanus-Stachys betonica is-gymuned) yn cael eu cynrychioli.

Y glaswelltiroedd mwyaf trawiadol yn weledol, fodd bynnag, yw’r doldiroedd niwtral sydd wedi dioddef rheolaeth traddodiadol hir dymor o ladd gwair yn yr haf hwyr a phori yn yr hydref.  O dan y rheolaeth yma mae’r planhigion yn cael amser i flodeuo ac i hadu cyn lladd y gwair.  Mae pori yn ystod yr hydref yn rhwystro’r planhigion mwya eiddil rhag cael eu cysgodi allan ac hefyd yn rhoi cyfle i eginblanhigion newydd sefydlu.  Yn hanesyddol roedd mewnbwn isel o wrtaith buarth y fferm a chalch yn cynnal lefelau digonol o ffrwythlondeb y pridd.

Er mwyn helpu i sicrhau dyfodol y cynefinoedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt mae’n bwysig i sylweddoli bod y dolydd yma sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau wedi’u creu’n uniongyrchol o ganlyniad i systemau ffermio cynaliadwy a hir dymor.  Yn hanesyddol roedd cynhyrchu gwellt o ansawdd da ar gyfer bwydo’r anifeiliaid dros y gaeaf yn rhan hanfodol o flwyddyn y fferm, yn enwedig yn y dyddiau cyn y peiriannau cyfoes pan roedd y ceffyl yn chwarae rhan bwysig ar y fferm.  Heddiw mae’r glaswelltiroedd yn dal i ddarparu bwyd defnyddiol a blasus ar gyfer da byw Cwm Elan.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan wedi bod yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac ecolegwyr lleol i ymchwilio am y ffyrdd gorau i gadw a chynnal y cynefinoedd glaswelltiroedd pwysig ond cynyddol prin yma.  Fel rhan o hwn sefydlwyd ‘Prosiect Dolydd Cwm Elan’ er mwyn mynd i’r afael â nifer o faterion pwysig:

Cadwraeth y  glaswelltiroedd presennol sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau

O fewn dolydd cynrychiadol mae gwaith arbrofol hir dymor ar leiniau arbrofol wedi helpu i ddangos y lefelau o fewnbwn traddodiadol, megis calch a gwrtaith buarth y fferm, sydd angen er mwyn adfer y cynhyrchiad o gnwd gwellt digonol, tra ar yr un pryd cynnal lefelau uchel o amrywiaeth blodeuol.

Adferiad o’r glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau

Mae cryn cyfleoedd o fewn yr Ystâd ar gyfer adfer ac ymestyn ehangder y glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau.  Ar rai dolydd a dargedwyd yn ofalus gosodwyd rheolaeth adfer ac yn barod mae’n dangos canlyniadau addawol iawn.  Ar safleoedd eraill, gweithredir rheolaeth megis gwasgaru gwellt-gwyrdd ar safleoedd derbyn a chanfyddwyd yn flaenorol o gael pridd addas a chyflwr tyweirch.

Rheolaeth rhedyn a phrysg

Fel ar nifer o safleoedd sydd ar ymylon yr uwchdiroedd gall meddiant prysg fygwth y glaswelltiroedd sydd o safon da.  O fewn yr Ystâd mae rhaglen yn mynd yn ei blaen sy’n rheoli’r rhedyn ac sy’n canolbwyntio ar gellïoedd sy’n dargadw elfennau o blanhigion y glaswelltiroedd niwtral neu asidig sydd o dan ganopi’r rhedyn.

Ymbwyddiaeth y cyhoedd a Hyfforddiant

Mae digwyddiadau rheolaidd ar gyfer y cyhoedd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth am werth a phwysigrwydd glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau ynghyd ag hyfforddiant ar reolaeth cynnal a chadw llwyddiannus.

Mae rhagor o fanlynion am Brosiect y Dolydd ar gael yma.  Am ragor o wybodaeth ar Ddôl Penglaeinon ewch i Coronation Meadows.

Doldir

Glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yng Ngwm Elan Yn ychwanegol at gynefinoedd nodedig bywyd gwyllt eraill, mae Ystâd Cwm Elan yn cynnwys rhai o esiamplau gorau a phwysig…

Ap Elan

Dechreuwch eich antur Cwm Elan trwy lawrlwytho ein Ap Archwilio Cwm Elan

Cerdded

P’un a’i os ydych eisiau mynd am dro hamddenol neu daith gerdded heriol mae gan Elan rhywbeth at ddant pawb. Mae hawl i grwydro’n rhydd dros ran eang…

Yr ystad

Tir unigryw, a reolir mewn partneriaeth Mae Cwm Elan yn cael ei reoli mewn partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Dŵr Cymru Welsh Water, sy’n gorchuddio 70 milltir…

Yr Argaeau

Heb os, atyniad mwyaf Cwm Elan yw’r argaeau sydd yn cynnig cefndir rhagorol trwy gydol y flwyddyn i seiclwyr, cerddwyr a ffotograffwyr.  Ac eithrio Dôl y Mynach, gellir…

Awyr Tywyll

Parc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan Yn 2015, dyfarnwyd statws Parc Rhyngwladol Wybren Dywyll i Ystâd Gwm Elan, sef y parc cyntaf yn y byd o dan berchnogaeth…