Dyma ddychwelyd at sgyrsiau sydyn y Rheolwr Ystâd. Y nod yw cynnig cipolwg byr ar nifer o agweddau amrywiol ar waith yr Ymddiriedolaeth ar draws Ystâd Elan.
Mae Awst wedi bod yn fis prysur. Mae’r ystâd yn llawn twristiaid yn wên o glust i glust tra bod y tir yn edrych yn sych ac yn debycach i lan y môr na chefn gwlad. Rydym wedi cael ein gorfodi i godi arwyddion yn gwahardd tanau a barbeciws gan fod y risg o ragor o danau gwyllt yn llawer rhy uchel. Yr wythnos diwethaf yn unig gwelwyd bryn Gwastedyn y tu allan i Raeadr ar dân.
Yr haf hwn rydym wedi bod yn brysur yn chwilio am denantiaid newydd ar gyfer cwpl o ffermydd yr ystâd a’r defeidiogau. Mae wedi bod yn broses hir, ond teimlwn ei bod yn hollbwysig cael y person cywir ar gyfer y daliad cywir – a gobeithio ein bod wedi llwyddo yn hynny o beth. Diolch o galon i’r rheini sydd wedi gweithio ar y daliadau hyn dros y blynyddoedd, ac edrychwn ymlaen at groesawu ein holl denantiaid newydd sydd oll yn dechrau o’r newydd ac yn dod â chymysgedd o brofiad a chefnogaeth. Y mis nesaf bydd y gwaith papur a’r broses drosglwyddo yn digwydd – felly llawer o gyfrif defaid! Mae hefyd yn gyffrous gweld mwy o wartheg yn cael eu cyflwyno gan y gallant chwarae rhan hanfodol mewn mesurau cadwraeth yma.
Dyma adeg y flwyddyn pan fo’r defaid wedi cael eu cneifio ac rydym yn cynaeafu ein gwair. Mae gennym nifer o ddolydd gwair traddodiadol gan gynnwys dôl Coroniad Sir Faesyfed/Radnorshire Coronation. Ar ddechrau’r haf maent yn llawn blodau ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ac erbyn hyn, adeg y torri, mae’r pennau hadau wedi cael cyfle i ffurfio a gollwng eu llwyth. Mae torri’r glaswellt ar gyfer gwair yn rhan hanfodol o gylch y ddôl. Rydym hefyd wedyn yn gallu defnyddio’r gwair sych (y gwellt) i fwydo ein gwartheg yn ystod misoedd hir y gaeaf. Mae cynnal y gwartheg dros y gaeaf yn golygu bod gennym y porwyr cadwraeth yn yr haf i fynd i’r afael â’r llethrau rhedyn heriol a’r dirwedd sy’n cael ei ddominyddu gan Wellt y gweunydd.
Wrth i’r mis ddod i ben, rydym yn edrych ar ein tasgau hydrefol. Gwartheg i’w symud, defaid i’w casglu a dechrau ar y gwaith i adfer mawn. Mwy am hynny y tro nesaf.
